Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd ar Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) 2021, disgwylir y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb erbyn 14eg Medi ac mae dadl wedi’i threfnu wedi hynny yn y Cyfarfod Llawn ar 21ain Medi 2022.
Mewn ymateb i’w gyhoeddi ar 8fed Mehefin 2022, mae UAC wedi croesawu’r adroddiad ac wedi galw am roi iddo’r sylw a’r parch mae’n ei haeddu, a bod yr holl argymhellion yn cael eu gweithredu’n llawn.
Er enghraifft, Argymhelliad 1, sy’n dweud y “dylai Llywodraeth Cymru ail-gyflwyno’r rhanddirymiad a oedd yn caniatáu i ffermwyr glaswelltir cymwys daenu hyd at 250 kg yr hectar o nitrogen”, nas cynhwyswyd yn y rheoliadau cyn iddynt gael eu gosod o flaen y Senedd flaenorol yn 2021, heb unrhyw fath o rybudd nac esboniad.
O ystyried y byddai’r cyfyngiad o 170kg yr hectar o nitrogen yn gosod cyfradd stocio arbennig o isel, sef 1.5 o fuchod llaeth fesul hectar, bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared â’r opsiwn o wneud cais am randdirymiad o’r fath yn cyfyngu’n aruthrol ar allu ffermwyr yng Nghymru i gynnal lefelau cynhyrchu llaeth a chig eidion o 1af Ionawr 2023, gan erydu ymhellach allu ffermwyr Cymru i gystadlu ar lefel gyfartal â gweddill y DU.
Byddai ail-gyflwyno’r rhanddirymiad hwn yn darparu rhwyd diogelwch sylweddol i nifer o ffermwyr yng Nghymru sydd eisoes yn defnyddio mwy na’r cyfyngiad o 170kg yr hectar o nitrogen, lle nad yw lleihau niferoedd stoc neu brynu neu rentu tir ychwanegol yn opsiynau ymarferol, a byddai cydymffurfio â’r cyfyngiad o 170kg yn torri contractau neu gytundebau tenantiaeth, neu’n amharu ar y gallu i ad-dalu benthyciadau.
Yn ogystal, mae Argymhelliad 8 yn datgan ”Dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu unrhyw gynigion amgen addas sy’n defnyddio technoleg yn hytrach na chyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu gwrtaith, neu ‘ffermio ar sail calendr’.”
Mae UAC yn credu’n gryf bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, ar y cyfle cyntaf, ystyried a rhoi mesurau amgen ar waith sy’n defnyddio technolegau i ganiatáu symud i ffwrdd o ofynion storio rhagnodedig a chyfnodau gwaharddedig penodol ar gyfer chwalu slyri.
Byddai camau o’r fath yn gwneud y rheoliadau’n fwy hyblyg ac effeithiol, gan adlewyrchu’r nifer fawr o systemau ffermio gwahanol a fabwysiadir yng Nghymru, ac yn osgoi’r angen am fuddsoddiad cyfalaf gwerth cannoedd o filiynau o bunnau.
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol Llywodraeth Cymru’n datgan y bydd y rheoliadau, ar eu ffurf bresennol, yn costio cymaint â £360 miliwn i ffermwyr Cymru mewn costau seilwaith yn unig - gyda’r costau cydymffurfio blynyddol yn ychwanegu at y ffigur hwn.
Gyda’r cyfraddau chwyddiant presennol yn 25% ar gyfer deunydd adeiladu, mae hyn yn cyfateb i gost bosib o £450 miliwn i ffermwyr Cymru, sef £120 miliwn yn fwy na chyllideb gyfartalog Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) Cymru dros y cyfnod ariannu 2014-2020.
Serch hynny, mae’r rhai sy’n fodlon ac yn gallu buddsoddi i gydymffurfio â’r rheoliadau yn wynebu rhwystrau sydd tu hwnt i’w rheolaeth, gan gynnwys oedi gyda cheisiadau cynllunio, prinder deunydd adeiladu, ac argaeledd adeiladwyr i gwblhau’r gwaith dan sylw cyn 1af Awst 2024.
Fel y cyfryw, ac yng ngoleuni effeithiau’r rhyfel yn Wcráin ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd yn fyd-eang, ac ar gadwyni cyflenwi a chostau mewnbwn, dylai Llywodraeth Cymru - man lleiaf - ohirio’r rheoliadau i ganiatáu i ffermwyr wneud y defnydd mwyaf o wrtaith naturiol, a rhoi amser digonol i Lywodraeth Cymru ystyried a diwygio’r rheoliadau.