Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) mae cynigion diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy ‘ar y trywydd iawn’ ond bod yna nifer o bryderon o hyd am rai o’r manylion.
Bydd y ddogfen ‘Cynigion Ffermio Cynaliadwy: Cynigion Bras ar gyfer 2025’, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 6ed Gorffennaf, yn gosod sail trafodaeth bellach ar y cynllun a fydd yn disodli cynlluniau Taliad Sylfaenol a Glastir Cymru o 2025.
Mae UAC yn croesawu’r meysydd hynny o’r cynigion sydd wedi newid i adlewyrchu pryderon a bwysleisiwyd gan yr Undeb mewn ymateb i gynigion blaenorol.
Serch bod rhai meysydd yn peri pryder mawr, a’r maglau all fod ynghlwm â manylion pellach, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau breision ymlaen ac erbyn hyn mae ganddi fframwaith cyffredinol sy’n ddigon tebyg i’r hyn mae’r Undeb wedi’i gynnig.
Mae’r cynigion bras yn cynnwys ‘taliad llinell sylfaen’ ar gyfer ‘gweithredu cyffredinol’, a fydd yn berthnasol i bob fferm sy’n rhan o’r cynllun, ac a fydd yn ‘darparu ffermwyr â’r sefydlogrwydd y mae ei wir angen’ yn ôl y Llywodraeth - gan adlewyrchu galwadau UAC am daliad cynaliadwyedd a sefydlogrwydd seiliedig ar weithredu cyffredinol.
Byddai gweithredu lefel uwch dewisol yn denu taliadau pellach, ac felly hefyd gweithredu ar y cyd â ffermwyr eraill – gan adlewyrchu unwaith eto y fframwaith sydd wedi’i hyrwyddo gan UAC ers 2018.
Fodd bynnag, mae yna rai awgrymiadau sy’n peri pryder mewn perthynas â’r gweithredu cyffredinol, a fyddai’n ymarferol ac o fewn cyrraedd rhai ffermwyr, ond nid felly nifer fawr o ffermwyr eraill.
Mi fydd y cynnig bod deg y cant o bob fferm dan orchudd coed yn bryder mawr i nifer o ffermwyr, a fyddai’n colli cyfran fawr o’u tir cynhyrchiol yn sgil hyn, ac mae yna bryderon hefyd am sut y byddai hyn yn effeithio ar denantiaid. Hefyd, ceir rhai ffermydd, megis rhai mewn ardaloedd arfordirol agored neu rai o fewn ardaloedd dynodedig, lle na fyddai unrhyw ffordd o fodloni’r ymrwymiad hwn.
Roedd UAC eisoes wedi codi pryderon ynghylch goblygiadau’r gofyniad am ddeg y cant o orchudd coed gyda Llywodraethu Cymru, ac wedi derbyn cydnabyddiaeth bod angen rhoi ystyriaeth i rwystrau ac effeithiau o’r fath yn ystod cam nesaf datblygiad y cynllun.
Yn ogystal â’r angen i sicrhau bod y gweithredu cyffredinol yn ymarferol ar bob fferm yng Nghymru, mae hi hefyd yn hanfodol bod y gyllideb ar gyfer y taliad llinell sylfaen yn ddigonol i sicrhau bod y cynllun yn ddeniadol, a’i fod yn caniatáu i deuluoedd ffermio barhau i gynhyrchu bwyd, gan gyfrannu at eu heconomi leol ar yr un pryd.
Serch bod nifer o ffermwyr yn rhwystredig na chafodd y cyfraddau talu eu cyhoeddi, mae UAC o’r farn y byddai’n rhy gynnar ac o bosib yn beryglus a chamarweiniol i ddarparu gwybodaeth o’r fath cyn sicrhau bod fframwaith bras y cynllun yn foddhaol.
Unwaith bod strwythur y cynllun wedi’i gwblhau’n derfynol, mae angen cymryd amser i sicrhau bod y taliadau wedi’u cynllunio mewn ffordd deg, i osgoi amharu i raddau anghymesur ar fusnesau, rhanbarthau neu sectorau. Bydd hyn yn gofyn am fodelu gofalus, ac mae UAC hefyd o’r farn bod angen sicrhau bod capio a thapro taliadau yn nodwedd o gynllun y dyfodol, fel bod ffermydd teuluol Cymru’n cael cymorth teg.
Mae’r cynigion hefyd yn cydnabod pwysigrwydd defnyddio’r data presennol a gasglwyd drwy systemau megis RPW Ar-lein, i leihau asesiadau anymarferol ac anfforddiadwy o ffermydd Cymru gan gynghorwyr, ac i fwydo gwybodaeth werthfawr yn ôl i ffermwyr.
Mae hyn, yn y bôn, yn adlewyrchu ymateb UAC i ymgynghoriad ‘Ffermio Cynaliadwy a’n Tir’ 2019 sef, ‘Dylid cadw’r system RPW Ar-lein a’r SAF presennol a’u datblygu fel nodwedd ganolog o gynllun y dyfodol, lle defnyddir data i sicrhau cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol hirdymor Cymru gyfan, a ffermydd teuluol Cymru fel unedau unigol. Byddai newidiadau sy’n arwain at golli’r system bresennol a’i disodli i bob pwrpas â chontractau Nwyddau Cyhoeddus cymhleth yn gam yn ôl.’
Fodd bynnag, mae yna bryderon ynghylch natur go iawn ac ymarferoldeb yr ‘arolwg cynaliadwyedd’ y bwriedir ei gynnal ar bob fferm ar ddechrau contractau.
Mae UAC yn cynnig bod adroddiadau blynyddol yn cael eu darparu ar sail y data a ddarperir gan ffermwyr drwy systemau megis RPW Ar-lein ac EID Cymru, tra bod cynigion Llywodraeth Cymru’n awgrymu gradd bellach o gymhlethdod a’r posibilrwydd o gyfnod o hyd at 5 mlynedd rhwng adroddiadau o’r fath.
Mae’n hanfodol hefyd nad yw contractau aml-flwyddyn yn eithrio niferoedd enfawr o ffermwyr ac ardaloedd o dir o’r cynllun. Er bod y datganiad y bydd contractau’n rhai hyd at bum mlynedd o hyd o’r dyddiad y mae’r ffermwr yn ymuno â’r cynllun yn rhoi rhywfaint o gysur bod anghenion tenantiaid, ac yn arbennig rhai sydd ar denantiaeth fyrrach, yn cael eu cydnabod, mae angen eglurhad pellach ar hyn.
Mae natur ymgynghorol y ddogfen hon i’w groesawu, ac mae UAC wedi ymrwymo i fod yn rhan o gam nesaf y broses ddatblygu er mwyn sicrhau bod cyn lleied â phosib o rwystrau i bob ffermwr.