Cynllun |
Crynodeb |
Dyddiadau ffenestri |
Llacio Rheolau Glastir |
Gall unrhyw ffermwr sy’n cael anhawster cwrdd â gofynion ei gontract Glastir ofyn am lacio’r rheolau, gan ddefnyddio’i gyfrif RPW Ar-lein. Gellir gwneud cais i lacio’r rheolau ar unrhyw opsiwn o fewn contract Glastir ac ystyrir y ceisiadau fesul achos. Dylid darparu manylion yr opsiwn a rhif y cae, ynghyd â chymaint o wybodaeth â phosib ynghylch yr amgylchiadau sydd wedi arwain at y cais. Gall fod angen dogfennau ategol mewn rhai amgylchiadau, yn dibynnu ar natur y cais. FODD BYNNAG, fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, bydd yn rhaid fforffedu’r taliad perthnasol ar y parsel tir dan sylw. |
|
Cynllun Cynllunio Creu Coetir |
Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cynnig grantiau o rhwng £1000 a £5000 i ddatblygu cynlluniau i greu coetir newydd. Ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru mi fydd yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i blannu coed. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma: https://llyw.cymru/cynllun-cynllunio-creu-coetir Mae dyluniad y cynllun yn seiliedig ar y cynllun peilot a gynhaliwyd y llynedd. Bydd y cynllun ar agor trwy’r flwyddyn (yn amodol ar gyllideb), gyda cheisiadau’n cael eu dethol bob 6 wythnos. Bydd cyllid ar gyfer creu coetir ar gael o Awst 2022, gyda ffenestri’n agor bob 3 mis o hynny ymlaen (yn amodol ar gyllideb). |
Ar agor tan 31ain Rhagfyr 2022 |
Y Cynllun Troi’n Organig |
Cynllun i helpu ffermwyr i newid i systemau cynhyrchu organig. Bydd un ffenestr mynegi diddordeb yn unig. Bydd y cynllun yn cynnwys taliad newid dwy flynedd. Bydd y cyfraddau talu’n seiliedig ar y defnydd tir a’r system gynhyrchu presennol. Rhaid cynnwys Rhif y Daliad (CPH) cyfan ac mae cyfanswm ymrwymiad o bum mlynedd o reolaeth organig yn ofynnol. Mwy o wybodaeth: https://llyw.cymru/cynllun-troin-organig |
18fed Gorffennaf – 26ain Awst 2022 |
Grantiau Bach – Amgylchedd |
Mae cyllid hyd at £7,500 ar gael i reolwyr tir a busnesau fferm yng Nghymru ar gyfer prosiectau gyda chanlyniadau amgylcheddol buddiol. Amcanion y cynllun yw cynorthwyo i gyflenwi prosiectau sydd o fudd i’r amgylchedd dan y themâu carbon, dŵr, a’r dirwedd a phryfed peillio. Mwy o wybodaeth: https://llyw.cymru/grantiau-bach-amgylchedd |
24ain Awst 2022 – 5ed Hydref 2022 |
Coedwig Genedlaethol i Gymru - Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) |
Mae’r cynllun ar agor unwaith eto i berchnogion a rheolwyr tir, gan gynnwys sefydliadau nid-er-elw. Bydd yn rhoi cymorth i bobl i greu coetiroedd newydd a/neu wella ac ehangu coetiroedd presennol yn unol â Safon Coedwigaeth y DU. Grantiau o £40,000 i £250,000 a hyd at 100% o arian cyfalaf a refeniw. Mae manylion llawn ar gael yma. Dylai unrhyw brosiectau sy’n golygu creu coetir o dros ddwy hectar wneud cais i Gynllun Creu Coetir Llywodraeth Cymru cyn gwneud cais am arian grant TWIG. |
Ffurflen Ymholiad Prosiect yn cau 14eg Hydref 2022 |
Tyfu er mwyn yr Amgylchedd (cnydau a heuir yn y gwanwyn) |
Mae Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gynllun grant sydd ar gael i bob ffermwr cymwys yng Nghymru. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth i dyfu a defnyddio cnydau, all arwain at welliannau ym mherfformiad amgylcheddol busnes fferm. Amcanion y cynllun yw cynorthwyo ffermwyr i:
Mae cnydau a gweithgaredd sy’n cael cymorth drwy’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd wedi’u nodi ymlaen llaw fel rhai sy’n cynnig buddiannau clir a mesuradwy i’r amgylchedd a’r busnes fferm. Yr uchafswm grant a ddyfarnir yw £5,000. Mae’r isafswm grant a ddyfarnir yn cyfateb i’r gyfradd dalu ar gyfer 1 hectar o gnwd cymwys. Gall eich cais fod yn uwch na’r uchafswm grant. Os caiff eich mynegiant o ddiddordeb ei ddewis, bydd y cais dan sylw’n cael ei gapio i’r uchafswm o £5,000. Mwy o wybodaeth: https://llyw.cymru/tyfu-er-mwyn-yr-amgylchedd |
3ydd Hydref – 11eg Tachwedd 2022 |
PWYSIG
Ni fydd unrhyw estyniadau i’r dyddiadau cau ar gyfer hawlio unrhyw un o’r cynlluniau uchod oherwydd y cyfyngiadau ar ddyrannu cyllideb. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru’n caniatáu i bobl archebu eitemau unwaith y byddant wedi derbyn cynnig o gontract, a chyn derbyn y contract.
Maent yn cynghori pobl i archebu, neu o leiaf i wneud ymholiadau yn ystod y cyfnod hwn i sicrhau bod eitemau’n cael eu dosbarthu mewn pryd neu’r gwaith yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen. Os na ellir gwneud hynny, a bod tystiolaeth ysgrifenedig yn cael ei darparu i gadarnhau’r rhesymau pam, gall ymgeiswyr dynnu’n ôl o’r cynllun ac ni fyddant yn cael eu heithrio o rowndiau yn y dyfodol.
Os byddant yn derbyn y contract ac yna’n methu â bodloni’r amodau o fewn yr amserlen berthnasol, mi allant gael eu heithrio o rowndiau’r cynllun yn y dyfodol.