Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi gwneud sylwadau ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru) gan ddweud bod y darn cynhwysfawr o ddeddfwriaeth hanner ffordd yna i ddarparu sylfaen sefydlog i ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru.
Cafodd drafft cyntaf y Bil ynghyd â’i ddogfennaeth ategol eu gosod gerbron y Senedd ar 26ain o Fedi, gan Weinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, cyn dadl yn y Senedd ar 27ain o Fedi.
Mae’r Bil Amaethyddiaeth gyntaf erioed i Gymru wedi’i osod gerbron y Senedd, gan roi’r cyfle i ddatblygu polisïau ffermio a allai fod o fudd gwirioneddol i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Bydd y Bil yn nodi’r ddeddfwriaeth gynhwysfawr ac yn sbarduno’r newid mwyaf i amaethyddiaeth yng Nghymru ers i’r DU ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.
Ers refferendwm Brexit, mae UAC wedi sefyll ei tir ac wedi dadlau o blaid ehangu egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy i gynnwys cynaliadwyedd economaidd ffermydd teuluol Cymru, cynhyrchu cynaliadwy o fwyd olrheiniadwy diogel, diwylliant Cymru a'r iaith sy’n rhoi ystyriaeth lawn i nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac amcanion Cymreig eraill.
Mae UAC felly’n falch o weld bod y Bil yn nodi pedwar amcan Rheoli Tir Cynaliadwy sy’n cynnwys cynhyrchu bwyd cynaliadwy a chynaliadwyedd yr iaith Gymraeg, a bydd gofyn i bob un ohonynt gyfrannu at y nodau llesiant.
Ynghlwm wrth y rhain bydd yna ofyniad bod gweinidogion Cymru yn paratoi ac yn cyhoeddi adroddiadau bob pum mlynedd yn nodi’r cynnydd a wnaed ers i’r amcanion ddod i rym, ac yn ystyried amcanion o’r fath wrth gyflwyno mecanweithiau neu reoliadau cymorth newydd.
Fodd bynnag, mae’r bil dim ond wedi cyrraedd hanner ffordd gan fod llawer o’r pryderon a godwyd gan yr Undeb yn ei hymateb i Bapur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth y llynedd yn parhau.
Er nad yw’r rhestr o ddibenion y gellir darparu cymorth ar eu cyfer yn holl gynhwysfawr ac y gellir ei ddiwygio, ei ddileu ac ychwanegu ato, mae’n destun pryder nad yw llesiant economaidd busnesau fferm na’r Gymraeg wedi’u cynnwys yn benodol.
Rhaid i UAC sicrhau bod tâl ac amodau byw priodol i ffermwyr a gweithwyr mewn amaethyddiaeth ac elw digonol ar fuddsoddiad cyfalaf yn y diwydiant yn cael eu cynnwys fel amcanion diffiniedig o’r Bil. Heb egwyddorion sylfaenol o’r fath, bydd amcanion eraill y Bil yn cael eu tanseilio neu eu negyddu’n llwyr.
Mae yna ddarpariaethau hefyd i gynyddu mynediad cyhoeddus i gefn gwlad, diffyg ystyriaeth i newydd-ddyfodiaid ifanc, a hepgor rheolau sy'n ymwneud â Safonau Gofynnol Cenedlaethol a Sancsiynau Sifil, a credir y cânt eu gweithredu maes o law.
Bydd y Bil nawr yn symud ymlaen drwy Gam un o’r broses seneddol tan ddechrau 2023 a fydd yn cynnwys archwiliad gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, ac yna’r Cyfnod Diwygio yn y Gwanwyn cyn pleidleisio arno yng Nghyfarfod Llawn y Senedd yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf.
Rhaid i UAC nawr werthuso’r 500 tudalen o ddeddfwriaeth, y Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol fel y gall ddod o hyd i’r manylion yn y print mân a pharhau i weithio gydag Aelodau’r Senedd a phwyllgorau perthnasol i sicrhau bod y Bil yn cyflawni ar gyfer sector ffermio cynaliadwy ffyniannus yma yng Nghymru.