Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhoi croeso gofalus i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gwtogi ar gynlluniau i blannu coed ar dir amaethyddol da yn nyffryn Tywi.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror eleni ei bod hi’n bwriadu plannu ar 94 hectar (232 acer) o dir ffermio a brynwyd ganddi yn Brownhill ger Llangadog yn Sir Gaerfyrddin – gan gythruddo’r gymuned leol a chymunedau ledled Cymru.
Amheuir bod y Llywodraeth o’r farn y byddai brandio’r prosiect yn ‘goetir coffa covid’ yn lliniaru’r gwrthwynebiad i golli tir ffermio gwerthfawr ar adeg pan welwyd llawer o dir yn yr ardal yn cael ei brynu gan bobl o’r tu allan ar gyfer plannu coed.
Roedd pobl yn gweld trwy hynny, ac roedd dicter mawr am y cynllun, nid yn unig yn lleol ond ledled Cymru.
Felly mae UAC yn croesawu’r penderfyniad i gwtogi ar y cynlluniau drwy gadw tua 50 acer o’r hyn a ystyrir yn dir ffermio gwell.
Fodd bynnag, mae colli tua 180 acer o dir ffermio i goedwigaeth yn dal i fod yn ergyd drom.
Y llynedd, roedd ceisiadau i blannu coetir yng Nghymru chwe gwaith yn uwch o’i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol, gyda thua 75% o’r ceisiadau’n dod gan unigolion neu gyrff o’r tu allan i Gymru a oedd wedi prynu tir ffermio yng Nghymru.
Roedd llawer o’r ceisiadau hyn ar gyfer plannu yn nwyrain Sir Gaerfyrddin a de orllewin Powys, felly mae colli mwy fyth o dir yn yr un ardal, a hynny dan gynllun a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dal i fod yn ergyd.
Rhaid i Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru ddysgu gwersi o hyn a phrofiadau eraill o amgylch Cymru. Ar ben arall y wlad, yn Nhynmynydd ar Ynys Môn, cynigiodd Llywodraeth Cymru fwy na ffermwyr lleol, a thalu’r swm enfawr o £14,000 yr acer am dir amaethyddol da i blannu coed arno – tir ddylai fod ar gael o hyd i dyfu bwyd, yn enwedig ar adeg o brinder bwyd byd-eang.
Os bwriedir plannu mwy o goed, rhaid canolbwyntio ar gadw hynny dan berchnogaeth leol, drwy helpu ffermwyr i wneud hynny mewn ffordd sy’n gweithio ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd ac amaethu. Ni ddylai Llywodraeth Cymru fod yn annog polisïau coedwigo ar raddfa eang, na chwaith yn eu rhoi ar waith ei hunan.