Mae UAC yn rhybuddio ei haelodau i fod yn ymwybodol o’r perygl o ddefaid a gwartheg yn cael eu gwenwyno gan fes, yn sgil nifer o adroddiadau diweddar am golli stoc.
Yn ôl NADIS, gwenwyno gan fes yw un o achosion mwyaf cyffredin gwenwyno gan blanhigion ymhlith gwartheg a defaid. Gall y broblem waethygu wrth i’r tywydd droi’n fwy garw yn yr hydref a chyda’r arolygon am wyntoedd cryfion a thywydd tymhestlog.
Mae’r arwyddion clinigol yn cynnwys iselder, colli pwysau’n gyflym, blinder, chwydu a dolur rhydd. Os bwyteir digon ohonynt, gall mes achosi namau geni mewn buchod cyflo. Gwyddys bod y tannin a geir mewn mes yn niweidio’r arennau, ac mae mwyafrif y marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwenwyno gan fes oherwydd methiant yr arennau.
Mae’r prognosis ar gyfer gwenwyno gan fes fel arfer yn wael, a’r costau trin yn hynod o uchel. Yr opsiwn gorau o hyd yw ceisio osgoi problemau drwy ffensio o amgylch coed derw, a symud gwartheg o gaeau gyda mes ynddynt yn dilyn stormydd garw, neu pan fydd nifer fawr o fes ar y llawr, i osgoi colledion yn sgil gwenwyno.
Pan amheuir bod yna wenwyno, dylid symud yr anifeiliaid o’r ffynhonnell cyn gynted â phosib a gofyn cyngor milfeddygol.