Mae Cymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Amaethyddol yn cynnal gweminar am ddim ar gadw’n ddiogel wrth weithio gyda choed.
Mae’r weminar am ddim yn agored i bawb sy’n gweithio gyda choed.
Mae hon yn weminar gan y Bartneriaeth Diogelwch Fferm.
Mae’r agenda’n cynnwys:
- Deddfwriaeth a phroblemau
- Cyfrifoldeb y perchennog tir os yn defnyddio gweithwyr hunangyflogedig neu gontractwyr
- Llif gadwyn ynteu llif dorri/bachu?
- Cyfle i glywed gan gontractwr sy’n gweithio gyda choed
- Canllawiau a hyfforddiant ar gael
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Does dim angen cofrestru ymlaen llaw.
Cynhelir y weminar ar 9fed Tachwedd am 9am. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.naac.co.uk/training-and-events/