Anogir ffermwyr ar draws Cymru i sicrhau bod yr yswiriant cyfreithiol iawn ganddynt ar gyfer eu busnesau, i osgoi cael eu hunain yn ddiamddiffyn mewn sefyllfa gyfreithiol.
Mae yswiriant cyfreithiol yn darparu cymorth cyfreithiol os bydd ei angen mewn sefyllfaoedd megis ymchwiliadau gan CThEM neu Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ymgyrchwyr dros hawliau anifeiliaid, damwain fferm angheuol neu gyflafareddiadau rhent.
Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW nawr yn cynnig gwasanaeth newydd, sef ‘Rural Protect’ gan HB Underwriting, sef yswiriant atebolrwydd rheoli sy’n cwrdd ag anghenion ffermwyr i ddiogelu pawb yn eu busnes.
Am fwy o wybodaeth ac i drefnu’r yswiriant iawn ar eich cyfer chi a’ch busnes fferm, cysylltwch â’ch Swyddog Cyfrif UAC lleol heddiw ar https://www.fuwinsurance.co.uk/cy/cysylltwch-a-ni/