Mae’r cynnydd yng ngwota mewnforio cig defaid Seland Newydd yn ystod blwyddyn gyntaf cytundebau masnach newydd a arwyddwyd gan y DU a’r UE dros ddeugain gwaith yn uwch fesul pen y boblogaeth yn y DU o’i gymharu â’r Undeb Ewropeaidd, sy’n dangos methiant Llywodraeth y DU i ddiogelu amaethyddiaeth y DU o fewn trafodaethau masnach, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru (UAC)
Mi fyddai cytundeb masnach UE-Seland Newydd a gytunwyd mewn egwyddor yn ddiweddar yn caniatáu mewnforio 5,429 tunnell ychwanegol o gig defaid yn ddi-doll i’r UE yn ystod blwyddyn gyntaf y cytundeb, tra bod y ffigur cyfatebol ar gyfer y DU yn y cytundeb a gyhoeddwyd yn Chwefror eleni yn 35,000 o dunelli.
Mi fyddai cynnydd y DU o ran y cwota di-doll o gig defaid o Seland Newydd bron chwe gwaith a hanner yn uwch yn ystod y flwyddyn gyntaf na’r hyn a sicrhawyd gan yr UE.
Fodd bynnag, o ystyried bod poblogaeth yr UE bron seithwaith yn fwy nag un y DU, mae’r cynnydd fesul defnyddiwr 43 o weithiau’n uwch yn y DU nag yn yr UE.
Er y byddai cytundeb y DU a’r UE ill dau’n cynyddu’r cwotâu di-dariff ar gyfer cig defaid yn y pen draw, erbyn blwyddyn saith y cytundebau, mi fyddai’r gwahaniaeth yn nifer y defnyddwyr yn golygu y byddai cyfanswm y meintiau y gellid eu mewnforio fesul pen y boblogaeth bron seithwaith yn uwch yn y DU nag yn yr UE.
Hefyd, mae cytundeb y DU yn caniatáu mewnforio meintiau anghyfyngedig o gig defaid yn y pen draw, tra bod yr UE wedi gosod terfyn uchaf ar fewnforion.
Mae gwahaniaethau tebyg yn bodoli rhwng cymarebau a chamau gwarchod ar gyfer cynnyrch arall allweddol sy’n rhan o’r ddau gytundeb masnach.
Er enghraifft, ym mlwyddyn un i saith o’r cytundeb UE-Seland Newydd, mi fyddai’r meintiau ychwanegol o gig eidion y gellid ei fewnforio i’r UE yn codi, o 3,333 o dunelli ym mlwyddyn un i 10,000 o dunelli ym mlwyddyn saith - ond ar dariff is o 7.5%; mewn cymhariaeth, mae’r DU wedi caniatáu mewnforio 12,000 o dunelli ychwanegol o gig eidion i’r DU yn ddi-doll ym mlwyddyn un, gan godi i faint anghyfyngedig ar ôl blwyddyn deg.
Ar gyfer caws, mae’r DU wedi cytuno i gwota di-doll ychwanegol o 24,000 o dunelli ym mlwyddyn un, yn codi i 48,000 erbyn blwyddyn pump, ac wedi hynny ni fydd unrhyw gyfyngiad ar fewnforion - o’i gymharu â chytundeb UE dros dro sy’n caniatáu cynyddu’r cwota mewnforio di-doll hyd at 25,000 erbyn blwyddyn saith, ond heb fasnach rydd lawn yn y pen draw.
Mae ffigurau’r DU ei hun wedi dangos bod y buddiannau i economi’r DU o gytundeb gyda Seland Newydd yn hynod o bitw, gyda gwerth ychwanegol gros y DU yn tyfu 0.03% yn unig yn ôl yr amcangyfrifon, a’r cyflog cyfartalog yn codi o geiniogau’r wythnos yn unig o ganlyniad i’r cytundeb.
Yn y cyfamser, mae’r un asesiad gan Lywodraeth y DU yn amcangyfrif y bydd gwerth ychwanegol gros y categorïau y mae ffermio a bwydydd wedi’u lled-brosesu yn perthyn iddynt yn gostwng £132 miliwn o ganlyniad i’r cytundeb.
Mae poblogaeth Seland Newydd yn 5 miliwn yn unig, o’i gymharu â phoblogaeth y DU o 67 miliwn, sy’n golygu bod y DU yn farchnad fwy deniadol o lawer i Seland Newydd nag y mae Seland Newydd i’r DU.
Mae’r cymariaethau rhwng cytundebau’r UE a’r DU yn dangos sut mae Llywodraeth y DU wedi methu â brwydro dros fuddiannau ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, a diogelwch cyflenwad bwyd y DU yn ei thrafodaethau masnach, serch bod â manteision bargeinio sylweddol.
Mae’r Pwyllgor Masnach Ryngwladol wedi beirniadu Llywodraeth y DU am sbarduno’r cyfnod craffu statudol ar gyfer y Bil serch rhoi sicrwydd y byddai’r Pwyllgor yn cael amser digonol i gyhoeddi adroddiad ymlaen llaw.
Mae’r Pwyllgor hefyd wedi gofyn i’r Llywodraeth i gadw at ei hymrwymiad i ganiatáu dadl ar y cytundeb DU-Awstralia, ac un ai ymestyn y cyfnod statudol neu roi cyfle i Dŷ’r Cyffredin ei ymestyn drwy basio cynnig yn penderfynu na ddylid cadarnhau’r cytundeb. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi gwrthod defnyddio’i phŵer statudol i ymestyn y cyfnod craffu dan Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010.
Yn ogystal â methu â sicrhau cytundeb masnach sydd o fudd i’r wlad, ymddengys bod y Llywodraeth am osgoi’r broses graffu a ganiateir ar gyfer cytundebau o’r fath o fewn unrhyw ddemocratiaeth arall yn y byd, drwy ruthro’r ddeddfwriaeth drwy’r Senedd.