Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ysgrifennu i longyfarch Prif Weinidog newydd y DU, Liz Truss, ac wedi gosod y pryderon presennol a’r pryderon hirdymor ar gyfer amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.
Ysgrifennodd Llywydd UAC, Glyn Roberts at Liz Truss ar ran UAC yn ei llongyfarch ar ymgyrch lwyddiannus ac ar gael ei phenodi’n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Mae’r DU gyfan yn wynebu cyfnod cythryblus ac er y bydd y blynyddoedd nesaf yn rhai heriol i Lywodraeth y DU, mae UAC o’r farn bod y rhaid i’r diwydiant bwyd ac amaeth a’r ffermydd teuluol hynny sydd wrth galon y diwydiant chwarae rôl ganolog yn taclo’r heriau presennol a’r heriau fydd yn wynebu’r wlad dros y tymor hirach.
Yn ei lythyr mae Mr Roberts yn pwysleisio, serch bod nifer o benderfyniadau polisi amaethyddol allweddol wedi’u datganoli i Gymru, bod Llywodraeth y DU yn parhau i reoli nifer o feysydd hanfodol sy’n dal i gael effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol ar amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.
Yn Sioe Frenhinol Cymru yng Ngorffennaf, lansiodd UAC gynllun pum pwynt y creda y dylid ei roi ar waith i daclo effeithiau rhyfel Wcráin a ffactorau eraill ar ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr. Mae pedwar pwynt, o blith y pump, yn dod yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn cylch gwaith Llywodraeth y DU.
Mae’r llythyr yn pwysleisio’r rôl ganolog y mae’n rhaid i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ffermydd ei chwarae yn nhermau taclo argyfwng diogelwch ynni’r DU, gan ddweud y dylai Llywodraeth y DU gymell ffermwyr i gynhyrchu ynni adnewyddadwy er mwyn lleihau dibyniaeth y DU at danwydd ffosil ac ynni a fewnforir, a rhoi cymorth ariannol i ddiwydiannau hanfodol i sicrhau bod ffermwyr yn gyfartal â ffermwyr yn yr UE.
Mae Mr Roberts hefyd yn tynnu sylw at gred UAC y dylai Llywodraeth y DU fynd ati i ail-osod y polisi masnach ryngwladol, fel bod diogelu’r cyflenwad bwyd wrth wraidd y broses o lunio polisïau, a bod adfer perthnasoedd da â gwledydd sy’n gymdogion agosaf i’r DU pan ddaw hi’n fater o ddiogelu’n cyflenwad bwyd ac ynni, yn hanfodol i hyn.
Mae’n hanfodol hefyd bod sectorau bwyd a ffermio Cymru’n cael eu cefnogi yn y dyfodol drwy adfer y gyllideb flynyddol y mae Llywodraeth Cymru’n ei derbyn ar gyfer amaethyddiaeth oddi wrth Drysorlys y DU, fel yr addawyd ym Maniffesto 2019 Plaid Geidwadol y DU.
Dim ond rhai o’r pryderon craidd yw’r rhain ac mae UAC wedi ymrwymo i weithio gyda’r Prif Weinidog newydd a Llywodraeth y DU i geisio taclo’r prif heriau sydd o’n blaenau.