Cynllun |
Crynodeb |
Dyddiadau ffenestri |
Llacio Rheolau Glastir |
Gall unrhyw ffermwr sy’n cael anhawster cwrdd â gofynion ei gontract Glastir ofyn am lacio’r rheolau, gan ddefnyddio’i gyfrif RPW Ar-lein. Gellir gwneud cais i lacio’r rheolau ar unrhyw opsiwn o fewn contract Glastir ac ystyrir y ceisiadau fesul achos. Dylid darparu manylion yr opsiwn a rhif y cae, ynghyd â chymaint o wybodaeth â phosib ynghylch yr amgylchiadau sydd wedi arwain at y cais. Gall fod angen dogfennau ategol mewn rhai amgylchiadau, yn dibynnu ar natur y cais. FODD BYNNAG, fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, bydd yn rhaid fforffedu’r taliad perthnasol ar y parsel tir dan sylw. |
|
Ffenestr Cais am Hyfforddiant Cyswllt Ffermio |
Bydd y ffenestr gais bresennol am hyfforddiant Cyswllt Ffermio yn cau ar Ddydd Gwener 28ain Gorffennaf 2022.
Am restr lawn o gyrsiau a/neu gymorth i ymgeisio, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.
Mae Llyfryn Hyfforddiant Cyswllt Ffermio ar gael yma. |
Cau 29ain Gorffennaf 2022 |
Cynllun Cynllunio Creu Coetir |
Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cynnig grantiau o rhwng £1000 a £5000 i ddatblygu cynlluniau i greu coetir newydd. Ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru mi fydd yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i blannu coed. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma Mae dyluniad y cynllun yn seiliedig ar y cynllun peilot a gynhaliwyd y llynedd. Bydd y cynllun ar agor trwy’r flwyddyn (yn amodol ar gyllideb), gyda cheisiadau’n cael eu dethol bob 6 wythnos. Bydd cyllid ar gyfer creu coetir ar gael o Awst 2022, gyda ffenestri’n agor bob 3 mis o hynny ymlaen (yn amodol ar gyllideb). |
Ar agor tan 31ain Rhagfyr 2022 |
Grantiau Bach – Tyfu er mwyn yr Amgylchedd (Hau yr Hydref) |
Cynllun peilot yn annog tyfu cnydau a phorfeydd i ddarparu budd amgylcheddol megis cnydau protein, gwndwn cymysg a chnydau gorchudd er budd yr amgylchedd, bioamrywiaeth a chynhyrchu. Bydd y ffenestr gyntaf wedi’i chyfyngu i sefydlu cnwd gorchudd heb ei chwistrellu ar ôl cynaeafu grawnfwyd neu india-corn yn yr hydref. Bydd ffenestr newydd ar gyfer plannu yng ngwanwyn 2023 yn agor yn yr hydref. Mwy o wybodaeth yma
|
20fed Mehefin – 29ain Gorffennaf 2022 |
Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau |
Cynllun i ddarparu cymorth drwy grantiau cyfalaf i wella rheolaeth o faetholion drwy fuddsoddi i orchuddio seilwaith presennol iard y fferm. Mwy o wybodaeth yma |
27ain Mehefin – 5ed Awst 2022 |
Y Cynllun Troi’n Organig |
Cynllun i helpu ffermwyr i newid i systemau cynhyrchu organig. Bydd un ffenestr mynegi diddordeb yn unig. Bydd y cynllun yn cynnwys taliad newid dwy flynedd. Bydd y cyfraddau talu’n seiliedig ar y defnydd tir a’r system gynhyrchu presennol. Rhaid cynnwys Rhif y Daliad (CPH) cyfan ac mae cyfanswm ymrwymiad o bum mlynedd o reolaeth organig yn ofynnol. https://llyw.cymru/ |
18fed Gorffennaf – 26ain Awst 2022 |
Y Cynllun Buddsoddi Mewn Rheoli Maethynnau |
Cynllun i ddarparu cymorth drwy grantiau cyfalaf i fuddsoddi mewn seilwaith i wella dulliau o reoli a storio maethynnau ar y fferm. Mae’r disgrifiadau o eitemau cymwys wedi’u hymestyn i esbonio’n gliriach beth sy’n gymwys. Ni fydd cyllid ar gael bellach ar gyfer pecynnau profi slyri a phridd na hambyrddau graddnodi gwrtaith dan y cynllun hwn. Mae ail gam y broses ymgeisio wedi’i symleiddio ac mi fydd angen cynllun busnes ffurfiol. Dosbarthir contractau yn gynnar yn 2023 a bydd angen cwblhau’r gwaith erbyn Mawrth 2025. |
4ydd Gorffennaf – 12fed Awst 2022 |
Creu (Plannu) Coetir |
Cynllun i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Coedwig Genedlaethol i Gymru. |
Yn agor Awst 2022 |
PWYSIG
Ni fydd unrhyw estyniadau i’r dyddiadau cau ar gyfer hawlio unrhyw un o’r cynlluniau uchod oherwydd y cyfyngiadau ar ddyrannu cyllideb. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru’n caniatáu i bobl archebu eitemau unwaith y byddant wedi derbyn cynnig o gontract, a chyn derbyn y contract.
Maent yn cynghori pobl i archebu, neu o leiaf i wneud ymholiadau yn ystod y cyfnod hwn i sicrhau bod eitemau’n cael eu dosbarthu mewn pryd neu’r gwaith yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen. Os na ellir gwneud hynny, a bod tystiolaeth ysgrifenedig yn cael ei darparu i gadarnhau’r rhesymau pam, gall ymgeiswyr dynnu’n ôl o’r cynllun ac ni fyddant yn cael eu heithrio o rowndiau yn y dyfodol.
Os byddant yn derbyn y contract ac yna’n methu â bodloni’r amodau o fewn yr amserlen berthnasol, mi allant gael eu heithrio o rowndiau’r cynllun yn y dyfodol.