Cynllun |
Crynodeb |
Dyddiadau ffenestri |
Llacio Rheolau Glastir |
Gall unrhyw ffermwr sy’n cael anhawster cwrdd â gofynion ei gontract Glastir ofyn am lacio’r rheolau, gan ddefnyddio’i gyfrif RPW Ar-lein. Gellir gwneud cais i lacio’r rheolau ar unrhyw opsiwn o fewn contract Glastir ac ystyrir y ceisiadau fesul achos. Dylid darparu manylion yr opsiwn a rhif y cae, ynghyd â chymaint o wybodaeth â phosib ynghylch yr amgylchiadau sydd wedi arwain at y cais. Gall fod angen dogfennau ategol mewn rhai amgylchiadau, yn dibynnu ar natur y cais. FODD BYNNAG, fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, bydd yn rhaid fforffedu’r taliad perthnasol ar y parsel tir dan sylw. |
|
Cynllun Cynllunio Creu Coetir |
Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cynnig grantiau o rhwng £1000 a £5000 i ddatblygu cynlluniau i greu coetir newydd. Ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru mi fydd yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i blannu coed. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma Mae dyluniad y cynllun yn seiliedig ar y cynllun peilot a gynhaliwyd y llynedd. Bydd y cynllun ar agor trwy’r flwyddyn (yn amodol ar gyllideb), gyda cheisiadau’n cael eu dethol bob 6 wythnos. Bydd cyllid ar gyfer creu coetir ar gael o Awst 2022, gyda ffenestri’n agor bob 3 mis o hynny ymlaen (yn amodol ar gyllideb). |
Ar agor tan 31ain Rhagfyr 2022 |
Grantiau Bach - Effeithlonrwydd |
Cynllun i gefnogi buddsoddiad mewn offer a thechnoleg newydd i wella perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol busnesau fferm. Mae hwn yn debyg i’r cynllun Grant Busnes i Ffermydd. Mae’r isafswm grant wedi’i ostwng i £1,000 a’r uchafswm yw £12,000. Ni fydd cymryd rhan eisoes yn y Grant Busnes i Ffermydd yn effeithio ar gymhwysedd. Mae uchafswm cyfraniad o 40% ar gael yn erbyn costau go iawn a anfonebwyd. Cafodd prisiau eu diweddaru a’u cymeradwyo ar ddiwedd Mawrth. Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar RPW Ar-lein maes o law. Mae gan y ffenestr hon gyllideb ddangosol o £5m |
18fed Mai – 29ain Mehefin 2022 |
Grantiau Bach - Amgylchedd |
Cynllun i gefnogi amrywiaeth eang o ymyriadau rheoli tir a darparu cymorth cyfalaf ar gyfer gwelliannau amgylcheddol ar y fferm, i wella ansawdd adnoddau naturiol Cymru. Mae hwn yn cyfateb i’r cynllun Grantiau Bach Glastir cynt. Mae’n gynllun annibynnol sy’n darparu uchafswm o £7,500 fesul ffenestr ar gyfer Prosiectau Gwaith Cyfalaf. Bydd y rownd hon yn ymwneud â’r thema Dŵr. Ni fydd parseli tir sydd eisoes dan gytundebau Glastir yn gymwys. Y gyllideb ddangosol ar gyfer y ffenestr hon yw £3m. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma |
23ain Mai – 1af Gorffennaf 2022 |
Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth |
Cynllun i gefnogi rhai sy’n sefydlu mentrau garddwriaeth masnachol newydd. Y grant sydd ar gael i bob ymgeisydd yw £3,000, a ddyfarnir ar ffurf cyfalaf gweithio. Y gyllideb ddangosol ar gyfer y ffenestr hon yw £300,000. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma |
25ain Mai – 29ain Mehefin 2022 |
Grantiau Bach – Tyfu ar gyfer yr Amgylchedd |
Cynllun peilot yn annog tyfu cnydau a phorfeydd i ddarparu budd amgylcheddol megis cnydau protein, gwndwn cymysg a chnydau gorchudd er budd yr amgylchedd, bioamrywiaeth a chynhyrchu. Bydd y ffenestr gyntaf wedi’i chyfyngu i sefydlu cnwd gorchudd heb ei chwistrellu ar ôl cynaeafu grawnfwyd neu india-corn yn yr hydref. Bydd ffenestr newydd ar gyfer plannu yng ngwanwyn 2023 yn agor yn yr hydref. Cadarnhad a manylion pellach i ddilyn. |
(Hau Hydref) Ail ffenestr 24 Awst - 5 Hydref 2022 |
Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau |
Cynllun i ddarparu cymorth drwy grantiau cyfalaf i wella rheolaeth o faetholion drwy fuddsoddi i orchuddio seilwaith presennol iard y fferm. |
27 Mehefin - 5 Awst 2022 |
Y Cynllun Troi’n Organig |
Cynllun i helpu ffermwyr i newid i systemau cynhyrchu organig. Ceir un ffenestr mynegi diddordeb yn unig. Bydd y cynllun yn cynnwys taliad newid dwy flynedd. Bydd y cyfraddau talu’n seiliedig ar y defnydd tir a’r system gynhyrchu presennol. Rhaid cynnwys Rhif y Daliad (CPH) cyfan ac mae cyfanswm ymrwymiad o bum mlynedd o reolaeth organig yn ofynnol. |
18 Gorffennaf - 26 Awst 2022 |
Y Cynllun Buddsoddi Mewn Rheoli Maethynnau |
Cynllun i ddarparu cymorth drwy grantiau cyfalaf i fuddsoddi mewn seilwaith i wella dulliau o reoli a storio maethynnau ar y fferm. |
4 Gorffennaf - 12 Awst 2022 |
Creu (Plannu) Coetir |
Cynllun i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Coedwig Genedlaethol i Gymru. |
Agor yn Awst 2022 |
Cyfoeth Naturiol Cymru – Cyllid Grant ar gyfer Mawndiroedd |
Mae grantiau datblygu cyfalaf o rhwng £10,000 a £30,000 ar gael i adfer cynefinoedd a gollwyd a gwella cyflwr mawndiroedd Cymru.
|
4ydd Ebrill – 4ydd Gorffennaf 2022 |
Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) |
Mae’r cynllun yn agored unwaith eto i berchnogion a rheolwyr tir, gan gynnwys sefydliadau nid-er-elw. Bydd yn rhoi cymorth i bobl i greu coetiroedd newydd a/neu wella ac ehangu coetiroedd presennol. Grantiau o £40,000 i £250,000 a hyd at 100% o arian cyfalaf a refeniw. Mae manylion llawn ar gael yma. Bwriedir cael rowndiau pellach yn nes ymlaen yn 2022 a 2023. |
Cau 15fed Gorffennaf 2022 |
PWYSIG
Ni fydd unrhyw estyniadau i’r dyddiadau cau ar gyfer hawlio unrhyw un o’r cynlluniau uchod oherwydd y cyfyngiadau ar ddyrannu cyllideb. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru’n caniatáu i bobl archebu eitemau unwaith y byddant wedi derbyn cynnig o gontract, a chyn derbyn y contract.
Maent yn cynghori pobl i archebu, neu o leiaf i wneud ymholiadau yn ystod y cyfnod hwn i sicrhau bod eitemau’n cael eu dosbarthu mewn pryd neu’r gwaith yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen. Os na ellir gwneud hynny, a bod tystiolaeth ysgrifenedig yn cael ei darparu i gadarnhau’r rhesymau pam, gall ymgeiswyr dynnu’n ôl o’r cynllun ac ni fyddant yn cael eu heithrio o rowndiau yn y dyfodol.
Os byddant yn derbyn y contract ac yna’n methu â bodloni’r amodau o fewn yr amserlen berthnasol, mi allant gael eu heithrio o rowndiau’r cynllun yn y dyfodol.