Lansiodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ei Maniffesto cyn etholiadau Llywodraeth Leol Cymru 2022 a gynhaliwyd ar 5ed Mai.
Mae’r Maniffesto’n gosod gofynion allweddol a galwadau’r Undeb ar Gynghorwyr ac Awdurdodau Lleol mewn perthynas â: caffael lleol, daliadau fferm cynghorau sir, cronfeydd sy’n disodli cyllid yr UE, tai lleol, twristiaeth gynaliadwy, gwrthbwyso carbon a choedwigo, cysylltedd digidol a safonau masnach.
Wrth i bob cwr o gymdeithas adfer ar ôl digwyddiadau diweddar a chyfredol ar draws y byd, mi fydd gan Awdurdodau Lleol ran fawr i’w chwarae yn sicrhau bod cymunedau lleol, economïau, cymdeithas a diwylliannau Cymru’n ffynnu - serch cydnabod bod y baich cynyddol ar Awdurdodau Lleol yn dod ochr yn ochr â chwtogi ar y gyllideb flynyddol a ddyrannir iddynt.
Er bod yna lawer o bwysau o hyd ar Awdurdodau Lleol i gynnal a gwella ardaloedd a gwasanaethau lleol, mae digwyddiadau byd-eang fel pandemig Covid-19 a rhyfel presennol Rwsia yn erbyn Wcráin wedi dangos pwysigrwydd diogelu ein cyflenwad bwyd.
Mae UAC yn parhau i ddatgan yn glir bod y fferm deuluol yng Nghymru yn ganolog i’n heconomi wledig, ein diwylliant a’n tirwedd. Mae’n cynnal cannoedd o filoedd o swyddi a degau o filoedd o fusnesau sy’n rhan o’r diwydiant cyflenwi bwyd yng Nghymru, ac yn gwneud cyfraniadau dirifedi eraill i lesiant trigolion Cymru a’r DU – gyda chynhyrchu bwyd, sef ein nwydd mwyaf gwerthfawr ochr yn ochr â dŵr – yn ganolog i’r buddiannau hynny.
Fel y cyfryw, mae cynnydd i’w wneud yn nhermau atgyfnerthu, ac mewn sawl achos, ailgysylltu’r bwyd cynaliadwy ac eco-gyfeillgar a gynhyrchir yng Nghymru â’n cymunedau lleol a sectorau cyhoeddus, er mwyn cynnal a gwella diogelwch ein cyflenwad bwyd, lleihau dibyniaeth y DU ar gynnyrch wedi’i fewnforio, a gweithio tuag at gyrraedd sero net.
Mae’r Maniffesto’n nodi’n glir bod gan Awdurdodau Lleol rôl i’w chwarae yn hyn o beth yn nhermau eu polisïau caffael, tra bod eu swyddogaethau eraill niferus yn chwarae rôl ganolog o ran cyflawni amcanion amgylcheddol, tra’n diogelu cymunedau lleol, cyflogaeth, cymdeithas a diwylliannau.
Mae UAC felly yn galw ar y Cynghorwyr lleol sydd newydd eu hethol i sefydlu polisïau caffael sy’n anogaeth i greu cwmnïau newydd er mwyn dod â buddiannau i gyflogaeth leol, a chynnal a buddsoddi yn naliadau’r Cyngor Sir i alluogi tenantiaid ac Awdurdodau Lleol i ddod yn sero net drwy ddefnyddio mentrau ategol.
Mae’r Maniffesto hefyd yn tynnu sylw at y rôl mae Cynghorau’n ei chwarae yn dehongli rheolau cynllunio, fel bod datblygiadau ar raddfa fawr megis coedwigo’n bodloni amcanion sydd o fudd i economïau lleol, cymunedau a diwylliant, ac i sicrhau bod y ffocws ar draws pob lefel o lywodraeth yn seiliedig ar leihau allyriadau carbon yn y lle cyntaf, yn hytrach na gwrthbwyso carbon.
O ystyried eu rôl ganolog yn nhermau prosesu ceisiadau cynllunio i fodloni deddfwriaeth newydd, a’u goblygiadau cyfreithiol o ran sicrhau bod eu daliadau amaethyddol eu hunain yn cwrdd â gofynion y ddeddfwriaeth honno, mae’r Maniffesto hefyd yn gofyn bod Awdurdodau Lleol yn lobïo Llywodraeth Cymru a’r Senedd i sicrhau bod yr adolygiad presennol o Reoliadau Adnoddau Dŵr 2021 yn arwain at ddeddfwriaeth gymesur a fforddiadwy i ffermwyr ac awdurdodau fel ei gilydd.
O ran cronfeydd disodli cyllid yr UE megis y Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae’r Maniffesto yn galw ar Awdurdodau Lleol i weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol eraill, waeth beth yw’r gwahaniaethau gwleidyddol, i weinyddu cyllid o’r fath mewn ffyrdd effeithiol ac effeithlon i gefnogi cymunedau Cymru yn y ffordd orau posib.
Yn nhermau mater dadleuol ail gartrefi, mae’r Maniffesto’n tanlinellu pa mor bwysig ydy hi bod Awdurdodau Lleol yn sicrhau hirhoedledd y cymunedau maent yn eu gwasanaethu, drwy osod premiwm treth gyngor uwch a chyfraddau uwch o dreth Trafodiadau Tir ar ail gartrefi.
Mae’n hanfodol hefyd bod awdurdodau’n sicrhau bod unrhyw refeniw ychwanegol o’r fath yn cael ei wario mewn ffordd fwy agored, ac yn cael ei neilltuo i liniaru effeithiau ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, gan ganiatáu i bobl leol fyw yn eu bröydd eu hunain.
Mae UAC hefyd yn galw ar Awdurdodau Lleol i weithio’n agos â heddluoedd lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau plismona gwledig digonol, a gwell addysg i hyrwyddo’r Cod Cefn Gwlad; i weithio gyda darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd i sicrhau bod gan bob eiddo fynediad at dechnoleg ffeibr rhannol neu lawn; ac i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau dull unffurf o archwilio ffermydd, sy’n effeithiol ac effeithlon.
I’r perwyl hwn, ac yn nhermau’r holl faterion eraill a drafodir ym Maniffesto’r Undeb, mae UAC wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda Chynghorwyr Sir a chynrychiolwyr pob un o’r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru i sicrhau bod rôl amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd, a’r fferm deuluol yn cael yn cael ei hadlewyrchu wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel.