Mae ymchwil newydd sy'n amcangyfrif y gallai de-orllewin Lloegr golli tua £800m o ganlyniad i ddiwygiadau Defra i gymorth amaethyddol Lloegr yn cadarnhau pryderon a godwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru mewn ymateb i ymgynghoriadau'r llywodraeth yng Nghymru a Lloegr.
Edrychodd adroddiad terfynol 'Asesu Effaith Newid Amaethyddol yng Nghernyw ac Ynysoedd Sili, Dyfnaint, Dorset a Gwlad yr Haf' gan Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymuned (CCRI) Prifysgol Caerloyw, a gomisiynwyd gan bartneriaeth Great South West ar effeithiau a chyfleoedd polisi ‘Newid Amaethyddol’ presennol Lloegr ar ffermwyr, rheolwyr tir a’r gymuned wledig ehangach.
Dangosodd yr ymchwil y bydd ffermwyr yr ardal yn colli cyfanswm o £884 miliwn mewn cymorth amaethyddol uniongyrchol dros y cyfnod pontio yn Lloegr erbyn diwedd 2027, gyda chyllid y cynllun disodli’n cyfrif am gyfran fach yn unig o'r golled hon, hyd yn oed yn y senarios achos gorau.
Mae’r ymchwil hefyd yn amlygu effaith ehangach ar draws yr economi wledig ‘fel cylchoedd yn y dŵr pan deflir carreg’, gan adleisio’n union yr hyn y bu’r Undeb yn rhybuddio’n gyson amdano, gan gynnwys yn ei hymatebion i ymgynghoriadau a gynhaliwyd ar gynigion yng Nghymru a Lloegr.”
Yn ei hymateb i gynigion ‘Health and Harmony’ Defra ar gyfer diwygiadau amaethyddol yn Chwefror 2018, dywedodd UAC:
‘...ni wnaed fawr mwy na siarad gwag ynghylch llesiant unigolion, teuluoedd ffermio, busnesau gwledig a’r economi wledig ac ehangach, yn ogystal ag eraill sy’n ymwneud â chadwyni cyflenwi amaethyddol a bwyd… rydym yn gwrthwynebu unrhyw gynlluniau dros dro neu hirdymor i leihau taliadau uniongyrchol i sero, a hynny heb gyflwyno polisiau sydd wedi’u harchwilio’n iawn, a fydd yn lliniaru canlyniadau difrifol dileu cymorth uniongyrchol i ffermydd teuluoedd a busnesau gwledig.’
Mae adroddiad CCRI yn nodi:
‘Mae’n anodd amcangyfrif yn fanwl gywir y llu o sgil-effeithiau posibl ar economïau a chymunedau gwledig…gan dybio bod 25-50% o’r £883 miliwn o Gynllun y Taliad Sylfaenol a gollwyd wedi’i wario’n flaenorol ar fusnesau sy’n cefnogi’r sector ffermio, mae’r golled yn cynrychioli £220-440 miliwn yn y 5 mlynedd nesaf i fasnachwyr porthiant, manwerthwyr peiriannau, contractwyr, milfeddygon, cyfreithwyr a llawer mwy. Bydd hyn hefyd yn lleihau eu pŵer gwario nhw yn yr economi wledig ac felly mae effaith y newid amaethyddol yn parhau.’#
Serch yr ymgynghoriad yn 2018 ar gynigion a oedd yn debyg iawn i’r rhai sy’n cael eu rhoi ar waith yn Lloegr nawr, roedd Llywodraeth Cymru wedi diwygio’i hamserlen a’i chynigion mewn ymateb i lobïo grymus a rhybuddion gan UAC ac eraill.
Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd yn y darn gwaith pwysig hwn, i sicrhau nad yw ei Chynllun Ffermio Cynaliadwy’n cael yr un effeithiau trychinebus â’r rhai sydd eioes yn cael eu teimlo yn Lloegr.
Mae gan yr Undeb bryderon difrifol hefyd am effaith y diwygio yn Lloegr ar aelodau trawsffiniol UAC, sy’n ffermio tir yng Nghymru a Lloegr, ac mae wedi galw ar Defra i ddiwygio ei bolisïau ar frys i ddiogelu cymunedau gwledig Seisnig a thrawsffiniol.
Fel y rhybuddiodd UAC yn ei hymateb i Defra yn 2018, dylid cymryd gofal mawr i sicrhau nad yw cymunedau gwledig yn cael eu gadael mewn cyflwr gwaeth nag y buont ers dirwasgiadau amaethyddol y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.