Arolwg ymchwil i ffermio sy’n ystyriol o natur

Mae UAC wedi derbyn y cais canlynol gan Ms Maryam Grassly, myfyriwr Daearyddiaeth sydd wrthi’n ysgrifennu traethawd ar yr hyn sy’n ysgogi gweithwyr tir i fabwysiadu arferion sy’n ystyriol o natur.

Mae Maryam yn cynnal prosiect ymchwil ar yr hyn sy’n ysgogi gweithwyr tir i fabwysiadu arferion sy’n ystyriol o natur, ond mae’n gobeithio y bydd yr ymchwil yn cael effaith ehangach o ran gwneud y newid/parhau i weithio’r tir yn gynaliadwy yn fwy teg i weithwyr tir.

I gyfrannu at yr ymchwil hwn, gofynnir i ffermwyr gwblhau arolwg 10-15 munud: https://forms.office.com/r/Dp84CHjHg3 

Mae’n gofyn am:

  1. Eich cefndir
  2. Arferion sy’n ystyriol o natur a’u pwysigrwydd i chi
  3. Pam fyddech chi, neu pam eich bod chi’n gweithio’r tir mewn ffordd sy’n ystyriol o natur?
  4. Pa rôl mae gweithwyr tir yn ei chwarae o fewn systemau bwyd a systemau naturiol ehangach?

 I gyfrannu ymhellach at yr ymchwil, mae Maryam hefyd yn chwilio am ffermwyr sy’n fodlon gwneud cyfweliad 30 munud i drafod y pwnc mewn mwy o fanylder.

 Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Maryam ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..