Nodyn atgoffa i gofrestru neu adnewyddu esemptiadau gwastraff

Mae gofyn cael esemptiadau gwastraff ar gyfer gweithgareddau rheoli gwastraff graddfa fach ar ffermydd, gan gynnwys llosgi toriadau gwrychoedd, defnyddio rwbel ar gyfer traciau fferm, a defnyddio hen deiars ar ben claddfeydd silwair.

Mae cofrestriadau Esemptiadau Gwastraff yn para am 3 blynedd ac erbyn hyn gellir eu hadnewyddu hyd at fis cyn iddynt ddod i ben.  Gallwch gofrestru neu adnewyddu’r holl esemptiadau gwastraff ar eich fferm yn rhad ac am ddim.

I wirio cofrestriad presennol, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, a gallwch chwilio drwy roi enw’r fferm neu enw deiliad yr esemptiad.

Os bydd y dyddiad adnewyddu wedi mynd heibio, bydd angen llenwi ffurflen gais newydd ar-lein.

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.