Anrhydeddodd UAC elusen iechyd meddwl wledig â’i gwobr allanol am wasanaethau i amaethyddiaeth yn nerbyniad y Llywydd yn ystod Sioe Frenhinol Cymru.
Cafodd Tir Dewi ei sefydlu gan yr Hybarch Eileen Davies, Archddiacon Aberteifi a’r Esgob Wyn yn 2015, wrth iddi gydnabod yr angen difrifol a chynyddol i helpu ffermwyr oedd yn mynd trwy gyfnodau anodd.
Gyda chyllid hael gan yr Eglwys yng Nghymru (Esgobaeth Tyddewi) a Chronfa Cefn Gwlad y Tywysog, llwyddodd Eileen i sefydlu Tir Dewi fel llinell gymorth a gwasanaeth cymorth gwerthfawr, un ai dros y ffôn neu ar y fferm, ar gyfer ffermwyr yng Ngorllewin Cymru.
Mae Tir Dewi wedi helpu cannoedd o ffermwyr a’u teuluoedd. Gall ffermwyr sydd mewn angen ledled Cymru gael mynediad at wasanaethau Tir Dewi.
Mae mwy o wybodaeth am Tir Dewi a sut i gysylltu â nhw ar gael yma.