Allforion cig dafad yn edrych yn bositif ar gyfer 2022
Mae data ar allforion cig oen yn dangos arwyddion positif o adferiad yn dilyn y pandemig ac effeithiau Brexit. Mae dadansoddiadau AHDB yn dangos bod yna adferiad bach ym mis Ionawr, gydag allforion cig dafad i fyny 13% o’i gymharu â 2021, ar dros 4,000 o dunelli. Roedd allforion mis Chwefror 37% yn uwch na rhai 2021, ar 6,300 o dunelli, gan gyrraedd lefelau nas gwelwyd ers cyn Brexit a’r pandemig.
Allforiwyd cyfanswm o 95,050 o dunelli yn 2019, a gwympodd i 88,200 o dunelli yn 2020. Ochr yn ochr â pandemig Covid-19, cafodd y trefniadau masnachu newydd a gwrthdaro masnachol yn dilyn diwedd cyfnod pontio Brexit effaith pellach ar allforion yn 2021, gyda’r allforion yn gyfanswm o 70,000 o dunelli.
Cytundeb Masnach UE - Seland Newydd
Ers i Gyngor yr Undeb Ewropeaidd (UE) agor trafodaethau ar gytundeb masnach rhwng yr UE a Seland Newydd ar 22ain Mai 2018, mae’r cynnydd wedi bod yn araf, ond, yn ôl adroddiadau diweddar mi ellid dod i gytundeb erbyn Gorffennaf 2022, cyn i Brif Weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern ymweld â’r UE yn hwyrach eleni.
Yn dilyn 12 rownd o drafodaethau mae’r ddwy ochr yn dod yn agos at ffurfio cytundeb, ond ymhlith y materion mwyaf hanfodol sydd eto i’w cytuno y mae cynnig nwyddau’r UE ar gwotâu ar gyfer eitemau sensitif Seland Newydd megis llaeth, cig eidion a chig oen.
Sector cig coch Cymru’n parhau i ymestyn oes silff cig oen Cymru
Mae data diweddaraf Hybu Cig Cymru (HCC) yn dangos bod sector cig coch Cymru wedi gwneud gwelliannau sylweddol i oes silff Cig Oen Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gan olygu ei fod yn fwy cystadleuol o fewn marchnadoedd allforio ar draws y byd.
Yn dilyn blynyddoedd o welliannau dilynol, mae oes silff cyfartalog Cig Oen Cymru ychydig o dan 40 diwrnod ar hyn o bryd, sef 39.2 o ddiwrnodau – o ganlyniad i gynnydd o 7% rhwng 2021 a 2022, yn dilyn cynnydd o 10% y flwyddyn flaenorol.