Mae’r ffermwr llaeth, Stephen James, o fferm Gelliolau yng Nghlunderwen, Sir Benfro wedi derbyn gwobr Gwasanaeth Cyfraniad Arbennig Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) i Ddiwydiant Llaeth Cymru yn Sioe Laeth Cymru 2024 yng Nghaerfyrddin.
Bydd Llywydd yr Undeb, Ian Rickman, yn cyflwyno’r wobr i’r enillydd yn ystod Sioe Laeth Cymru a gynhelir ar Faes Sioe’r Siroedd Unedig yn Nantyci, Caerfyrddin (dydd Mawrth 22 Hydref 2024).
Dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru: “Roedd y panel beirniaid yn hynod falch â’r holl enwebiadau eleni, ond roedd gwaith diwyd a diflino Stephen am dros 20 mlynedd yn cynrychioli’r diwydiant mewn rôl gyhoeddus ar faterion y diciau mewn gwartheg yn ei osod ar y brig.
“Mae Stephen yn enillydd teilwng. Mae wedi defnyddio ei brofiad o ddelio â’r diciau yn ei fusnes fferm wedi i’w fuches fod dan gyfyngiadau yn gyson dros gyfnod o chwarter canrif, gan roi sylw cyhoeddus i’r prif faterion sy’n effeithio ar ffermwyr llaeth Cymru.”
Stephen yw Cadeirydd Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, swydd y mae wedi’i dal ers mis Gorffennaf 2018. Fel Cadeirydd, mae’n gweithio’n agos gyda Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru, ac yn gweithio i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid ledled Cymru.
Mae hefyd wedi bod yn ffigwr blaenllaw wrth gynrychioli pryderon ffermio yng Nghymru gyda’r Llywodraeth. Fel cynrychiolydd y diwydiant ar fwrdd rhaglen TB Llywodraeth Cymru, mae wedi cymryd rhan mewn cyfweliadau di-ri gyda darlledwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae wedi tynnu sylw at yr effaith y mae’r clefyd yn ei gael ar deuluoedd ffermio a’r angen i Lywodraeth Cymru weithredu strategaeth gynhwysfawr i ddileu’r diciau mewn gwartheg.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Stephen James: “Mae derbyn y wobr hon yn fraint enfawr. Roedd yn dipyn o sioc clywed y newyddion. Dwi’n hynod ddiolchgar o’i derbyn, yn enwedig mewn digwyddiad sydd mor agos at fy nghalon ac sydd mor bwysig i’r diwydiant llaeth yng Nghymru. Diolch o galon am yr anrhydedd.”
Mae Stephen wedi dal amrywiaeth eang o swyddi o fewn NFU Cymru o Gadeirydd y Gangen Leol i Lywydd (2014 - 2018). Mae wedi gweithio ar nifer o feysydd polisi arwyddocaol gan gynnwys Diwygio’r Polisi Amaethydd Cyffredinol, Brexit a materion llaeth a bu’n ffigwr dylanwadol yn ystod cyfnod anodd argyfwng llaeth 2012. Anerchodd Stephen, ochr yn ochr ag arweinwyr undebau ffermio eraill y Deyrnas Gyfunol, rali’r ffermwyr llaeth yn San Steffan nôl ym mis Gorffennaf 2012.
Yn frwd dros gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr, rhannodd Stephen y cyfrifoldeb am ei fusnes fferm yng Ngelliolau gyda’i fab, Daniel, yn gynnar. Mae wedi bod yn ymwneud yn helaeth â Ffermwyr Ifanc Cymru, yn lleol ac yn genedlaethol, gan ddal nifer o swyddi gan gynnwys Cadeirydd Sir Benfro, Llywydd Sir Benfro ac aelod o Gyngor CFfI Cymru.
Yn aelod ers cyfnod maith gyda First Milk a Chyfarwyddwr a chyn Gadeirydd Ffermwyr Clunderwen ac Aberteifi, mae’n wirioneddol gredu yng ngwerthoedd ac egwyddorion sefydliadau cydweithredol.
Mae’n gyn Lywydd Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro, yn Llywydd ac yn aelod gweithgar o Fwrdd Cymdeithas Sioe Clunderwen, yn gyn-Gadeirydd Cyngor Cymuned Clunderwen ac yn aelod a chyn Gadeirydd Cymdeithas Tir Glas Arberth. Mae Stephen James hefyd yn Gymrawd y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol.
I gloi dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru: “Mae Stephen James wedi gwneud cyfraniad arbennig i Ddiwydiant Llaeth Cymru. Mae’n bleser gennym gyflwyno’r wobr hon gan Undeb Amaethwyr Cymru iddo i gydnabod y blynyddoedd o waith y mae wedi’i wneud ar ran ffermwyr Cymru. Ar ran yr Undeb, hoffwn longyfarch a diolch i Stephen am ei waith.”