Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn bryderus o glywed y cyhoeddiad gan Ganghellor y Trysorlys yng Nghyllideb yr Hydref heddiw (30.10.24) y bydd rhyddhad treth ar eiddo amaethyddol yn cael ei ddiwygio o 2026, gan adael dyfodol llawer o ffermydd Cymru yn y fantol.
Yn ystod y Gyllideb, cyhoeddwyd y bydd y gostyngiad treth o 100% yn dod i ben i fusnesau a thir gwerth dros £1 miliwn yn y sector amaethyddol. Bydd y gyfradd gyfredol o ryddhad 100% yn parhau ar gyfer tir amaethyddol a busnesau o dan £1 miliwn, ond ar gyfer asedau dros £1 miliwn, bydd treth etifeddiaeth yn berthnasol gyda rhyddhad o 50%, ar gyfradd weithredol o 20%.
Bydd y newid yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffermydd teuluol Cymru.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:
“Mae’r FUW wedi rhybuddio yn barod y byddai newidiadau i’r rhyddhad trethiannol ar eiddo amaethyddol yn cael effaith ar ddyfodol ffermydd teuluol a’n cymunedau gwledig – yn ogystal a chael effaith andwyol ar fusnesau a chyflogwyr sy’n gysylltiedig ȃ’r diwydiant.
“Rydyn ni’n gwybod, ar gyfartaledd, bod maint ffermydd yng Nghymru tua 120 erw – gydag amcangyfrifon ceidwadol o werth tir ac adeiladau yn rhoi gwerth o dros £1 miliwn ar asedau i’r rhan fwyaf o ffermydd.
“Mae’r Rhyddhad ar Eiddo Amaethyddol wedi chwarae rhan hanfodol o fewn y diwydiant ers blynyddoedd er mwyn sicrhau nad yw’r rhai sy’n etifeddu tir amaeth yn cael eu llethu gan drethi pan fydd ffermydd teuluol yn trosglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf.
“Bydd rhaid i ni ddisgwyl clywed beth yw’r glo mȃn dros y dyddiau nesaf, a beth fydd oblygiadau’r cyhoeddiad heddiw ar gyllid Llywodraeth Cymru. Ond mewn cyfnod heriol i ffermio yng Nghymru, bydd y newyddion hyn yn ychwanegu at ansicrwydd pellach i fusnesau amaeth sy’n gwneud eu gorau glas i gynhyrchu bwyd tra’n diogelu’r amgylchedd.”
Dylai aelodau sy'n pryderu am y newid hwn gysylltu â'u swyddfa FUW sirol am gyngor gan ein partneriaid, RDP Law.