Crynodeb o’r Newyddion Hydref 2023

Milfeddygon yn mynd ar streic yng Ngogledd Iwerddon

Mae milfeddygon sy’n gweithio i Adran Amaeth, Yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) Gogledd Iwerddon yn bwriadu mynd ar streic am 5 diwrnod o 30ain Hydref, i brotestio am gyflogau isel.

Disgwylir y bydd hyn yn amharu ar ladd-dai a phorthladdoedd. Mae’r milfeddygon yn gweithredu fel archwilwyr lladd-dai ac mae’n ofyniad cyfreithiol eu bod yn bresennol pan gaiff anifeiliaid eu lladd.

Mae’r dyfarniad cyflog o £552 i holl weision sifil Gogledd Iwerddon yn debygol o fod yn is o lawer na’r dyfarniad cyflog ar gyfer milfeddygon yng Nghymru a Lloegr, lle mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi clustnodi £29.5 miliwn ychwanegol ar gyfer costau contractau milfeddygol.

 

UE yn methu â dod i benderfyniad ar reolau Glyffosad

Methodd aelod-wladwriaethau’r UE â chyrraedd y 55% o fwyafrif gofynnol ar gyfer mabwysiadu rheolau newydd a fyddai’n cymeradwyo parhau i ddefnyddio Glyffosad am y 10 mlynedd nesaf.

Mae’r gymeradwyaeth bresennol yn dod i ben ar 15fed Rhagfyr, a bellach disgwylir y bydd y cynnig i adnewyddu’r gymeradwyaeth honno’n mynd gerbron y Pwyllgor Apêl yn ystod hanner cyntaf mis Tachwedd.

Glyffosad yw’r chwynladdwr sy’n cael ei ddefnyddio’n fwyaf eang yn yr UE ac os na lwyddir i ddod i benderfyniad erbyn 15fed Rhagfyr mae’n bur debyg y bydd y cytundeb presennol yn cael ei ymestyn dros dro.

 

Gostyngiad yn y cnydau grawnfwyd yn 2023

Mae adroddiad dros dro a gyhoeddwyd gan DEFRA wedi dangos bod yna ostyngiad yn yr holl brif gnydau grawnfwyd yn 2023 o’i gymharu â 2022, gyda gostyngiad o ran ardal hefyd, ar wahân i haidd y gaeaf, a gynyddodd 5.2% o ran ardal yn 2023.

Yr amcangyfrif dros dro ar gyfer cynhaeaf gwenith 2023 Lloegr yw 12.8 miliwn o dunelli, gostyngiad o 10% o 2022. Yr amcangyfrif dros dro ar gyfer cynhaeaf haidd 2023 Lloegr yw 4.8 miliwn o dunelli, gostyngiad o 5.8% o 2022. Yn 2023 gostyngodd y lefelau cynhyrchu ceirch 18% ac amcangyfrifir bod lefelau cynhyrchu rêp had olew wedi gostwng 14%.

Cyhoeddir canlyniadau llawn y DU ar 14eg Rhagfyr 2023 a byddant yn cynnwys ffigurau cynhaeaf terfynol Lloegr yn ogystal â rhai'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.