Gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw yn newyddion drwg i’r farchnad gartref – medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryder yn ei hymateb i’r cyhoeddiad am waharddiad ar allforio anifeiliaid byw yn Araith y Brenin, a oedd yn gosod blaenoriaethau’r llywodraeth i gyflwyno’r Bil Lles Anifeiliaid (Allforio Anifeiliaid Byw) a Bil Masnach (Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel).

Bydd y Bil Lles Anifeiliaid (Allforio Anifeiliaid Byw) yn cyflwyno gwaharddiad deddfwriaethol ar allforio gwartheg, defaid, geifr, moch a cheffylau byw o Brydain, i’w lladd neu’u pesgi.

Mi allai cyflwyno gwaharddiad deddfwriaethol ar allforio anifeiliaid byw greu gorgyflenwad o fewn marchnadoedd y DU, gan arwain at lai o alw, ac o ganlyniad, gostyngiad yn y prisiau a dderbynnir gan ffermwyr am eu stoc.

Mae Defra wedi amcangyfrif cyn hyn y byddai gwaharddiad o’r fath yn costio £6.6 miliwn y flwyddyn i’r diwydiant, ond roedd hyn yn seiliedig ar wahaniaeth pris tybiedig o 15% yn unig, heb unrhyw ystyriaeth i’r marchnadoedd a gollir, neu’r tebygolrwydd o gostau o’r fath yn disgyn yn ddigymesur ar ysgwyddau mentrau bach a mentrau micro.

Roedd yr Araith hefyd yn amlinellu blaenoriaeth y llywodraeth i gyflwyno Bil Masnach Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP), a fyddai, i bob pwrpas, yn sicrhau bod y DU yn gallu cwrdd â’i hymrwymiadau rhyngwladol dan y CPTPP.

Addawodd Llywodraeth y DU na fyddai’n cyfaddawdu o ran diogelu’r amgylchedd, lles anifeiliaid, a safonau bwyd uchel y DU yn unrhyw drafodaethau masnach.  Fodd bynnag, yr hyn a welir yw mwy o rwystrau ar gyfer cynhyrchwyr y DU tra bod y llywodraeth yn arwyddo cytundebau masnach rydd â gwledydd eraill.

Mae aelodau’r CPTPP yn cynnwys nifer fawr o wledydd gwahanol sydd â safonau sy’n amrywio’n helaeth, gyda nifer ohonynt yn cynhyrchu bwyd mewn ffyrdd a fyddai’n anghyfreithlon yn y DU, un ai o ran nodi ac olrhain anifeiliaid, agweddau tuag at ddefnydd o gyffuriau a chemegau, neu lefelau amddiffyn yr amgylchedd.

Fel y cyfryw, ymddengys bod yr ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth y DU i sicrhau, lle bo modd, bod safonau’n cael eu cynnwys o fewn cytundebau masnach i sicrhau cyfartaledd, i gynnal safonau bwyd y DU, ac i warchod ffermwyr y DU rhag cystadleuaeth annheg yn absennol neu’n hynod o brin.