Crynodeb o’r newyddion Tachwedd 2023

Defnydd o wrthfiotigau ar gyfer da byw yn y DU yn parhau i ostwng

Mae Cyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol y DU wedi cyhoeddi ei hadroddiad ar Werthiant a Gwyliadwriaeth o Ymwrthedd Gwrthfiotig ar gyfer Milfeddygon y DU 2022.

Roedd gwerthiant gwrthfiotigau milfeddygol i’w defnyddio mewn anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, wedi’i addasu ar gyfer y boblogaeth anifeiliaid, yn 25.7 mg/kg yn 2022, sy’n ostyngiad o 9% (2.6mg/kg) ers 2021 ac yn ostyngiad cyffredinol o 59% (36.6mg/kg) ers 2014. 

Mae’r ffigurau hyn yn cynrychioli’r gwerthiant isaf a gofnodwyd erioed yn y DU.  Mae lefelau gwerthiant y gwrthfiotigau blaenoriaeth uchaf, oherwydd eu pwysigrwydd hanfodol i iechyd dynol, yn parhau i fod yn isel iawn.  Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ddarlun positif o ostyngiad o ran ymwrthedd ar draws nifer o ddangosyddion canlyniad allweddol.

 

 

Llywodraeth Iwerddon am weddnewid ffermdai gwag

Mi fydd perchnogion ffermdai traddodiadol gwag ledled Gweriniaeth Iwerddon yn rhannu grantiau gwerth cyfanswm o €285,000 i gwrdd â chostau cael arbenigwr cadwraeth i ddarparu cyngor arbenigol wedi’i deilwra ar sut i atgyweirio a gwella’r adeilad.

Telir y grantiau dan gynllun peilot sy’n cael ei redeg gan yr Adran Tai, Llywodraeth Leol a Threftadaeth, i gwrdd â chostau cyngor cadwraeth arbenigol ar gyfer perchnogion ffermdai gwag sy’n ystyried gwneud cais am Grant Ailwampio Eiddo Gwag y llywodraeth.

Gall perchnogion eiddo sy’n wag neu wedi adfeilio wneud cais am Grant Ailwampio Eiddo Gwag gwerth €50,000, a lansiwyd gan lywodraeth Iwerddon fis Gorffennaf diwethaf, mewn ymdrech i annog perchnogion i droi  tŷ neu adeilad gwag yn gartref parhaol neu’n eiddo rhent.

 

 

EU-Awstralia yn methu â dod i gytundeb masnach

Mae cynrychiolwyr masnach yr UE ac Awstralia wedi methu â dod â thrafodaethau  a ddechreuodd yn 2018 ar gytundeb masnach rydd i ben, oherwydd anghytuno ynghylch mynediad i’r farchnad amaethyddol.

Y brif broblem o hyd yw’r cwestiwn o fynediad i’r farchnad amaethyddol.  Mae Awstralia am gael gwell mynediad i’r farchnad ar gyfer ei chynhyrchwyr cig defaid a chig eidion, ac mae’r UE yn gyndyn i’w roi am fod gwledydd fel Ffrainc ac Iwerddon yn gwrthwynebu.

Mae Comisiwn yr UE am gael cytundeb cyn diwedd y flwyddyn, oherwydd mi allai etholiadau’r UE ganol 2024 arwain at ad-drefnu personel a blaenoriaethau.