Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r ymgynghoriad allweddol a therfynol ar ddyfodol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sef y mecanwaith ar gyfer darparu cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025 ymlaen.
Bydd Tîm Polisi UAC yn mynd trwy bob rhan o’r ddogfen bolisi yn drwyadl a bydd yn teithio ar hyd a lled Cymru i gyflwyno’r ddogfen ymgynghori i aelodau UAC yn y flwyddyn newydd.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn amlinellu’r newidiadau pwysicaf i’r polisi amaethyddol yma yng Nghymru ers cyflwyno’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn 1962, ac mae UAC felly yn annog pob aelod i gymryd rhan a chyfrannu at ymateb yr Undeb.
Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael yma:https://www.llyw.cymru/cynllun-ffermio-cynaliadwy-ymgynghori
Cynhelir cyfarfodydd UAC fel a ganlyn:
22 Ionawr 2024 7.30 PM Caernarfon (lleoliad i’w gadarnhau)
23 Ionawr 2024 7.30 PM Ceredigion, Clwb Rygbi Aberaeron
24 Ionawr 2024 7.30 PM Dinbych a Fflint, Genus, Rhuthun
25 Ionawr 2024 7.30 PM Caerfyrddin, Clwb Rygbi Carmarthen Athletic
25 Ionawr 2024 12.00 PM Sir Benfro, Neuadd Goffa Ffordd Clarbeston
25 Ionawr 2024 7.00 PM Morgannwg, Clwb Golff y Grove, Porthcawl
29 Ionawr 2024 7.00 PM Brycheiniog a Sir Faesyfed, Pafiliwn UAC, Safle SFC
30 Ionawr 2024 7.30 PM Ynys Môn, swyddfa CFfI, Maes Sioe Môn
1 Chwefror 2024 10.00 AM Meirionnydd, Fferm Sylfaen, Y Bermo, Gwynedd, LL421DX
1 Chwefror 2024 7.00 PM Gwent, Marchnad Da Byw Sir Fynwy
6 Chwefror 2024 7.30 PM Sir Drefaldwyn, Marchnad Da Byw Y Trallwm