Mae disgybl chweched dosbarth yn Ysgol Brynrefail yn gwneud ymchwil fel rhan o’i Fagloriaeth Cymru.
Nod yr ymchwil yw canfod a oes yna brinder o filfeddygon gwledig ac ydy hynny’n effeithio ar driniaethau anifeiliaid yn y DU.
Mi fyddai’r myfyriwr yn gwerthfawrogi cael barn ffermwyr ar y sefyllfa o ran prinder milfeddygon gwledig ledled Cymru.
Gallwch helpu gyda’r ymchwil drwy glicio ar un o’r dolenni canlynol a llenwi holiadur:
Cymraeg - https://forms.gle/6u6rsHXcA9B4j5L6A
Saesneg - https://forms.gle/vm2e731Bkxj2e6J38