Mae mynd i’r afael â’r ‘anghyfiawnder ynni’ a wynebir gan gymunedau a busnesau ffermio yn un o’r prif heriau a wynebir gan economi cefn gwlad Cymru ar hyn o bryd, yn ôl panel o arbenigwyr a gasglwyd ynghyd gan Undeb Amaethwyr Cymru (UAC).
Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod y rhwystrau presennol a wynebir gan nifer fawr o ffermwyr sydd am fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy bach yn cael eu chwalu, megis cyfyngiadau cynllunio a phrinder capasiti grid. Dywedodd y Gweinidog sy’n gyfrifol am Ynni, Julie James AC wrth y panel fod camau wedi’u cymryd i hwyluso’r broses gyda chynllun Llywodraeth Cymru ‘Cymru’r Dyfodol’.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o gyrraedd allyriadau carbon sero erbyn 2050. Yn ystod Seminar yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, daethpwyd â phanel ynghyd i drafod sut y gall prosiectau ynni adnewyddadwy ar ffermydd helpu i gwrdd â thargedau’r dyfodol, heb danseilio’r gallu i gynhyrchu bwyd. Yn sgil diddymu’r tariffau cyflenwi trydan yn 2019, mae’r buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ar ffermydd wedi arafu’n sylweddol. Ar ben hynny, mae ffermydd a oedd efallai am fuddsoddi mewn prosiectau ynni dŵr wedi colli’r cymhelliad i wneud hynny ar ôl i’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer prosiectau o’r fath ddod i ben yn 2021, gan olygu deg gwaith yn fwy o gostau ardrethi.
Mae pa mor ddibynnol ac agored yr ydym i farchnadoedd tanwydd ffosil byd-eang wedi dod yn amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Mae meintiau enfawr o ynni adnewyddadwy’n cael ei gynhyrchu ar dir ffermio yng Nghymru, ond mae Cymru’n manteisio ar ffracsiwn yn unig o’r hyn sy’n bosibl. Mae angen sicrhau bod y rhwystrau’n cael eu chwalu a’r cymhellion yn cael eu hadfer i hybu cyfraniad amaethyddiaeth i dargedau ynni’r dyfodol.
Yn ôl un arbenigwr ynni adnewyddadwy, mae cymunedau gwledig yn wynebu ‘anghyfiawnder ynni’ ar hyn o bryd, ac mae angen symleiddio’r broses gynllunio ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy llai o faint. Mae Ed Bailey, Cyfarwyddwr Baileys & Partners, sydd wedi’i leoli ym Meirionnydd ac Ynys Môn, yn cynghori ffermwyr ar amrywiaeth eang o brosiectau, gan gynnwys prosiectau hydrodrydanol, ffermydd gwynt a solar ar raddfa fasnachol, systemau storio batri ac ynni’r llanw.
Fel ffermwr ei hun, mae’n gweld yr angen cynyddol i gynhyrchu ynni cartref, gan warchod bioamrywiaeth y tir a’r gallu i gynhyrchu bwyd yma yng Nghymru ar yr un pryd. Ond ychwanegodd fod nifer o’i gleientiaid yn dal i wynebu rhwystrau enfawr oedd yn eu hatal rhag gwneud cyfraniad go iawn tuag at gyrraedd y targedau hyn.
Yr hyn a gollir pan fydd cynlluniau’n cael eu gwrthod yw cymorth ar gyfer economi wledig, cymorth ar gyfer cymunedau gwledig, a buddsoddwyr yn colli hyder.
Cafodd y Grid Cenedlaethol ei gynllunio i gynhyrchu’n ganolog, ac mae ardaloedd gwledig wedi bod ar ben eithaf y lein. Mi fyddai ailstrwythuro’r grid cyfan, wrth gwrs, yn rhy ddrud. Mae ardaloedd gwledig yn wynebu anghyfiawnder ynni yn sgil diffyg mynediad at ynni carbon isel fforddiadwy. Mae angen atebion ynni ar lefel leol, ac mae angen symleiddio’r drefn o ganiatáu prosiectau. Mi all ddigalonni pobl sydd am greu cynlluniau cymharol syml, megis cynhyrchu ynni dŵr.
Wrth ateb rhai o’r pryderon a godwyd yn ystod y seminar, dywedodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James, AC, “rydym am wneud yn siŵr bod ynni’n cael ei gynhyrchu, hefyd bod y rhwydweithiau trosglwyddo’n gweithio mewn ffordd sy’n gydnaws â byw yng Nghymru. Rydym yn awyddus i weithio gyda phob cymuned yng Nghymru i greu rhwydweithiau ynni bach, er mwyn iddyn nhw allu creu ynni a’i storio i’w ddefnyddio pan fydd ei angen fwyaf. A dyna ble mae’r system gynllunio’n bwysig. Rydym am gael system gynllunio sy’n rhoi ystyriaeth go iawn i rinweddau ac effeithiau’r datblygiadau, a gwneud yn siwr eu bod yn dilyn y trywydd iawn yn y ffordd iawn.”
“Rydym yma i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu cynlluniau ynni lleol gyda chymunedau yng Nghymru sy’n elwa ohonynt yn y ffordd honno, a’u bod yn gydnaws â’n busnesau ffermio a’n cymunedau ledled Cymru.”
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru newydd adolygu Polisi Cynllunio Cymru, y cyfeirir ato yn y cynllun Cymru’r Dyfodol 2020, ac mi ddylai hynny gael gwared i raddau helaeth â nifer o’r rhwystrau sy’n wynebu prosiectau llai ar hyn o bryd.