Rhaid i reolaeth o TB yn y dyfodol edrych yn ôl er mwyn symud ymlaen, medd UAC

Mae UAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i werthuso ac adolygu’r mesurau rheoli gwartheg presennol yn dilyn y datganiad a ryddhawyd ar 28ain Mawrth, pan amlinellodd y Gweinidog gynlluniau i lansio cynllun cyflawni wedi’i adnewyddu, a fyddai’n gosod sut mae Llywodraeth Cymru am fynd ati i geisio dileu TB dros y pum mlynedd nesaf

Nod y cynllun pum mlynedd yw adeiladu ar “y stôr cynhwysfawr o fesurau sydd ar droed” fel rhan o raglen gyffredinol sy’n anelu at waredu Cymru o TB erbyn 2041. 

Yn dilyn galwadau mynych o du UAC, gosododd Llywodraeth Cymru dargedau gwaredu TB cenedlaethol ar gyfer pob un o’r ardaloedd TB yng Nghymru yn 2017.

Roedd y nodau rhanbarthol 6 blynedd a osodwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r targedau hyn yn anelu at weld Cymru’n ennill Statws Heb TB Swyddogol rhwng 2036 a 2041, gyda’r nod o drosglwyddo unedau gofodol o Ardaloedd TB Uchel i Ardaloedd TB Is, a thrwy hynny, ymestyn yr Ardaloedd TB Isel yng Nghymru.  Fodd bynnag, ers sefydlu’r targedau hyn, mae’r clefyd wedi lledaenu ac wedi ennill ei dir o fewn Ardaloedd TB Isel yng Nghymru.

Yn anffodus, mae data gwyliadwriaeth diweddar yn dangos bod yna ardal o bryder newydd yn Sir Fôn, lle cyrhaeddodd nifer yr achosion blynyddol ei lefel uchaf ers wyth mlynedd yn 2021.

Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu creu deddfwriaeth i ail-gyflwyno Profion Cyn Symud wrth symud gwartheg oddi mewn, ac allan o Ardaloedd TB Isel.  Mae hyn ochr yn ochr â newidiadau eraill megis ymestyn y gofyniad am Brofion Cyn Symud yn yr Ardaloedd TB Canolig, a threfn profion cyffyrddol mwy trylwyr ar gyfer buchesi sy’n ffinio ag achos o TB. 

Mae UAC unwaith eto’n bryderus y bydd y cynllun cyflawni newydd yn dal i ganolbwyntio ar gynyddu’r llu o reoliadau gwartheg y mae ceidwaid gwartheg yn eu hwynebu.  Mae UAC o’r farn y dylid cynnwys gwerthusiad o’r mesurau rheoli presennol fel rhan hanfodol o unrhyw bolisi yn y dyfodol, a hynny ar frys, er mwyn nodi’r rheolau gwartheg hynny sy’n costio’n ddrud i’r diwydiant, ond sy’n gwneud fawr ddim i reoli’r clefyd a’i atal rhag lledaenu.

Mae’r Undeb o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r Grŵp Cyngor Technegol TB newydd i gynnal gwerthusiad o’r fath, ochr yn ochr â phennu’r effaith ddisgwyliedig ar les gwartheg ac iechyd a diogelwch pobl, yn sgil y casglu a’r handlo ychwanegol sy’n ofynnol i gydymffurfio â’r cynigion i gyflwyno profion ychwanegol.

Yn ei hymateb i’r ymgynghoriad ar y Rhaglen Dileu TB wedi’i Hadnewyddu yn 2022, ail-bwysleisiodd UAC ei hymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn symud ymlaen i ddileu TB gwartheg.  Roedd yr Undeb yn hynod o siomedig felly o nodi y bydd y trefniadau llywodraethu ar gyfer rheoli TB gwartheg yn cynnwys penodiadau cyhoeddus ar gyfer Bwrdd y Rhaglen yn ogystal â’r Grŵp Cyngor Technegol.

O ystyried bod Bwrdd y rhaglen dileu TB yn gyfrifol am ddarparu cyfeiriad a rheolaeth o’r Rhaglen, mae’r Undeb yn nodi gyda siom felly awydd parhaus Llywodraeth Cymru i gael rhanddeiliaid yn aelodau o’r grŵp, sy’n golygu proses benodi gyhoeddus.

Er mwyn hwyluso gwaith partneriaeth mewn perthynas â chyfeiriad a rheolaeth o’r ymdrech i waredu Cymru o TB yn y dyfodol, mae UAC o’r farn ei bod hi’n hanfodol bod y diwydiant yn cymryd rhan yng ngwaith Bwrdd y Rhaglen i sicrhau cydweithio go iawn.  Er bod UAC yn croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn rhai o agweddau’r rhaglen, mae’r Undeb o’r farn bod angen mwy o weithredu holistaidd er mwyn gwneud camau pellach i waredu Cymru o TB.

Yn ei hymateb i’r ymgynghoriad ar y Rhaglen Dileu TB wedi’i Hadnewyddu yn 2022, galwodd UAC hefyd am sefydlu gweithgaredd Masnachu Seiliedig ar Risg, ac mae’r Undeb felly’n croesawu’r ymrwymiad o du’r Gweinidog i ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch taliadau TB, yn ogystal â Phrynu Gwybodus. 

Er nad yw UAC yn erbyn yr egwyddor o fasnachu seiliedig ar risg, mae’n dal i fod yn bryderus am gynigion sydd un ai’n rhy amrwd i fod yn ddefnyddiol neu’n rhy dechnegol i’w defnyddio.  Rhaid i’r trafodaethau ar fasnachu seiliedig ar risg gydnabod y cydbwysedd rhwng yr angen am wybodaeth, y baich o gasglu gwybodaeth o’r fath, a’r effaith andwyol dilynol ar rai buchesi.

Fodd bynnag, mae UAC yn parhau i wrthod yn y bôn unrhyw gynigion i symud tuag at daliadau iawndal TB tablaidd, ar sail y ffaith y byddent yn annheg, ac mi allent arwain at daliadau sy’n is na gwerth go iawn yr anifeiliaid.

Mae UAC yn dal i bwysleisio nad yw gosod gwerth ar anifeiliaid mewn ffordd mor syml yn system deg, am fod rhai cynhyrchwyr yn debygol o gael eu tandalu, gydag eraill yn cael eu gordalu.  Hefyd, nid yw anifeiliaid a roir ar y farchnad o angenrheidrwydd yn adlewyrchu safonau’r rhai sy’n aros ar y fferm, yn enwedig yn achos buchesi pedigri.  Felly, mae’n bosib na fydd darparu iawndal sy’n ymwneud â gwerthoedd marchnad cyfartalog yn adlewyrchu gwir werth yr anifeiliaid a gymerir, ac mi all fod yn anghymhelliad i gadw anifeiliaid o werth uwch, yn enwedig mewn ardaloedd gydag achosion o TB. 

Ar hyn y bryd, mae ffermwyr yn derbyn iawndal am werth marchnad uniongyrchol yr anifeiliaid a laddir yn unig.  Ni chynigir unrhyw iawndal am y costau ychwanegol a wynebir, megis colli refeniw, cynhyrchu llai o laeth, colli llinellau bridio, oedi cyn ail-stocio, a chyfyngiadau symud.  Gall y colledion ôl-ddilynol hyn a wynebir gan gynhyrchwyr y mae eu hanifeiliaid wedi’u prynu’n orfodol fod yn sylweddol, ac yn ddegau o filoedd o bunnau, a bydd unrhyw ostyngiad pellach yn yr iawndal a delir yn ddiamau yn golygu diwedd y daith i rai ffermydd.  Mae’n hanfodol bod y cynlluniau i reoli a gwaredu yn y dyfodol yn rhoi ystyriaeth gytbwys i wyddoniaeth TB, lles gwartheg, llesiant y ffermwr ac amglchiadau ariannol y fferm, i sicrhau rhaglen gynaliadwy a phragmatig ar gyfer rheoli TB yng Nghymru.