UAC yn croesawu cydnabyddiaeth o dechnolegau ynni adnewyddadwy graddfa fach

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar adolygu targedau ynni adnewyddadwy Cymru, sy’n cydnabod yr angen i osod targedau sy’n mynd tu hwnt i 2030.

Mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ffermydd wedi bod yn uchel ar agenda UAC am ddegawdau.  Fodd bynnag, mae pwysigrwydd hynny wedi dod yn fwy amlwg dros y blynyddoedd diwethaf wrth i’r DU wynebu argyfwng ynni.  Mae ffermydd yn parhau i chwilio am ffyrdd o arallgyfeirio ac mae’r ffocws ar gyrraedd sero net yn cynyddu.

Mae diddymu’r Tariffau Cyflenwi Trydan, a chynllun rhyddhad ardrethi busnes Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau ynni dŵr preifat, wedi arwain at arafu sylweddol yn y buddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy ar ffermydd, gan wanhau’r buddiannau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â mentrau preifat, a lleihau’r momentwm i gyrraedd y targed o 70% o’r trydan a ddefnyddir yng Nghymru’n dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030.

Mae angen gweithredu nawr yn fwy nag erioed i daclo prinder ynni’r DU ac i sicrhau bod ynni’n cael ei gynhyrchu yn y dyfodol.  Mae UAC eisoes wedi ysgrifennu at Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn annog y Gweinidog i weithio gyda chydweithwyr o fewn gweinyddiaethau eraill i sicrhau bod yr holl gamau posib yn cael eu cymryd i gynyddu maint yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru a’r DU, heb amharu ar y lefelau cynhyrchu amaethyddol.

Roedd UAC felly yn croesawu uchelgais Llywodraeth Cymru i osod targed bod o leiaf  1.5GW o’r capasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol erbyn 2035, a’r gydnabyddiaeth y gallai defnydd o dechnolegau ynni adnewyddadwy graddfa fach wneud cyfraniad allweddol tuag at gyrraedd y targed hwnnw. 

Dylai llwybrau tuag at gyrraedd targedau o’r fath gynnwys gweithredu brys ar bob lefel o lywodraeth.  Rhaid i hyn gynnwys cyflwyno cymhelliannau newydd i ffermwyr i fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy graddfa fach ar eu tir a’u hadeiladau, yn ogystal â chael gwared â’r rhwystrau sy’n atal datblygiadau o’r fath, os ydyn ni am lwyddo i gynhyrchu pum gwaith yn fwy o drydan yng Nghymru rhwng nawr a 2050.