Yn dilyn cais a wnaed gan Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol y DU ar y pryd, Liz Truss, i ymuno â Phartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ar 1af Chwefror 2021, a’r trafodaethau masnach ffurfiol dilynol, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar 31ain Mawrth 2023 fod y trafodaethau am y DU yn ymuno â’r CPTPP wedi dod i ben gan fwyaf.
Mae’r CPTPP yn floc masnachu gydag 11 o aelodau presennol, a phoblogaeth o tua hanner biliwn o bobl, oedd â chynnyrch domestig gros (GDP) o £9 triliwn yn 2021. Mae’r aelodau’n cynnwys Awstralia, Brunei, Canada, Chile, Japan, Malaysia, Mecsico, Seland Newydd, Periw, Singapore, a Fietnam.
Yn y 12 mis hyd at ddiwedd Chwarter 3 2022, roedd y fasnach rhwng y DU a’r CPTPP yn werth £110.9 biliwn, yn cynrychioli tua 6.8% o holl fasnach y DU, gan gynnwys gwerth £60.5 miliwn o allforion o’r DU i’r bloc masnachu.
Pan fydd y DU yn ymuno â’r bloc yn swyddogol, mi fydd dros 99% o allforion nwyddau presennol y DU i’r CPTPP yn gymwys ar gyfer masnach di-dariff. Amcangyfrifir y gallai hyn arwain at hwb o £1.8 biliwn i allforion y DU i wledydd y CPTPP.
Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd y fargen yn hybu GDP y DU gymaint â 0.08% dros 10 mlynedd, er bod adroddiadau’n awgrymu y gallai’r rhif hwnnw fod yn llawer is petai’r model blaenorol ar gyfer cyfrifo GDP wedi’i ddefnyddio.
Mi fydd holl allforion y DU i Awstralia, Brunei, Seland Newydd a Singapore yn gymwys ar gyfer mynediad di-dariff, ar ôl graddoli mewn rhai achosion, fel gyda’r cytundebau masnach rydd presennol.
Yn nhermau cig eidion, mi fydd allforion y DU i Ganada yn amodol ar Gwota Cyfraddau Tariff (TRQ). Bydd tariffau Gwlad a Ffefrir Fwyaf (MFN) o hyd at 25% yn cael eu diddymu ar allforion i Fecsico, ac mi fydd yna ryddfrydoli fesul cam mewn perthynas â chig eidion a allforir i Beriw.
Mi fydd yna gyfleoedd ychwanegol, i raddau amrywiol, i werthu cynnyrch llaeth, gan gynnwys caws, menyn, hufen a llaeth powdwr i Ganada, Chile, Japan a Mecsico. Bydd amodau tebyg yn berthnasol ar gyfer cynnyrch porc a dofednod.
Mae Llywodraeth y DU yn honni ei bod wedi negodi nifer o fesurau amddiffyn ar gyfer sectorau mwyaf sensitif y DU. Mae’r rhain yn cynnwys mynediad fesul cam i farchnadoedd y DU ar gyfer cynnyrch sensitif; terfynau blynyddol parhaol ar feintiau rhai nwyddau gyda thariff is neu dim tariff, a mecanwaith diogelu trosiannol i ddarparu rhwyd diogelwch dros dro i ddiwydiannau all wynebu bygythiad yn sgil mwy o fewnforion o ganlyniad i’r cytundeb.
Bydd y DU yn cadw mynediad llawn at fecanweithiau dan y cytundeb i godi unrhyw bryderon ynghylch yr effaith bosib ar ddiwydiannau cartref o ganlyniad i’r trefniadau masnach.
O ran cig eidion sy’n dod mewn i’r DU, bydd Brunei, Malaysia, Canada, Chile, Mecsico a Pheriw yn rhannu un TRQ di-doll, y bydd ei faint yn cynyddu fesul cam dros 10 mlynedd, wedi’i gapio ar gwota parhaol o 13,000 tunnell o flwyddyn 10. Bydd tollau Singapore, Japan, Fietnam, Awstralia a Seland Newydd yn cyd-fynd â’r Cytundeb Masnach Rydd dwyochrog.
Mae’r TRQ presennol ar gyfer allforion cig eidion ffres ac wedi’i rewi o Ganada yn 3,800 tunnell, sydd ddim yn cael ei ddefnyddio o gwbl am fod gofyn i fewnforion i’r DU fod yn rhydd o hormonau – mae ffermwyr Canada’n defnyddio hormonau twf i gynhyrchu cig eidion, hormonau y mae’r DU wedi’u gwahardd, ac ar hyn o bryd mae hyn yn atal Canada rhag allforio, ac mi all atal allforion rhag cynyddu’n sylweddol yn y dyfodol.
O ran cig defaid, bydd y tollau’n cael eu diddymu pan ddaw’r cytundeb i rym ar gyfer holl wledydd y CPTPP ar wahân i Awstralia a Seland Newydd, a fydd yn parhau dan amodau’r cytundebau masnach a arwyddwyd yn ddiweddar gyda’r gwledydd hynny.
Mae dadansoddiad cychwynnol gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) wedi dod i’r casgliad na fydd y cytundeb CPTPP yn achosi unrhyw newidiadau dramatig o ran masnachu, yn arbennig yn y tymor byr, ond mi all o bosib arwain at gynnydd bach yn allforion cig eidion, cynnyrch llaeth a phorc y DU yn y tymor canolig i’r tymor hir.
Yng ngoleuni’r cytundebau masnach gwbl rydd a gytunwyd ag Awstralia a Seland Newydd, mae’n dda gallu cydnabod y bydd o leiaf rhai mesurau diogelu yn eu lle.
Fodd bynnag, o ystyried bod y CPTPP yn gytundeb sy’n bodoli’n barod, mae Llywodraeth y DU wedi gorfod dod i delerau â’r trefniadau a gytunwyd eisoes gan ei aelodau yn hytrach na negodi trefniadau newydd, ar wahân i rai cyfleoedd i wneud mân newidiadau yn ystod y trafodaethau.
Mae’n werth nodi hefyd bod pedwar allan o’r un-ar-ddeg o aelodau presennol y CPTPP yn allforwyr net cig coch, ac maent eisoes wedi sefydlu marchnadoedd mewn gwledydd megis Tsieina, tra bod Awstralia a Seland Newydd gyda’i gilydd yn cyfrif am 70% o’r fasnach cig defaid byd-eang.
Bydd y DU ac aelodau’r CPTPP bellach yn cymryd y camau cyfreithiol a gweinyddol terfynol angenrheidiol er mwyn i’r DU ymuno’n swyddogol yn 2023.