UAC yn trafod cyfleoedd a heriau gyda Gwlân Prydain

Mae swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod wrthi’n trafod y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant gwlân gyda chynrychiolwyr Gwlân Prydain, yn eu depo graddio yn Y Drenewydd.

Roedd y cyfarfod adeiladol yn gyfle i UAC a Gwlân Prydain drafod sut mae dylanwadau lleol, cenedlaethol a byd-eang yn effeithio ar farchnadoedd nwyddau, ac o ganlyniad ar ffermwyr yng Nghymru.  

Yn ystod y pandemig, roedd y gostyngiad yn y galw am wlân o Tsieina’n golygu bod cynhyrchwyr y DU wedi derbyn taliadau balans cyfartalog o 17 ceiniog y cilogram am gneifiad 2019, sef tua 70% yn llai na’r taliadau a dderbyniwyd yn y flwyddyn flaenorol.

Er bod y prisiau gwlân byd-eang wedi adfer i raddau, mae’r gost o sgwrio gwlân yn unig wedi cynyddu 0 30% dros y 12 mis diwethaf.  Mae hyn, ynghyd â phwysau costau byw ar ddefnyddwyr, yn debygol o gael ei adlewyrchu yn y prisiau y gall Gwlân Prydain eu talu i ffermwyr am gneifiad y llynedd.

Fodd bynnag, mae Gwlân Prydain yn parhau i ymgysylltu â’i gynhyrchwyr, er mwyn cynyddu effeithlonrwydd, a gweithio gyda’r brandiau terfynol i ddarparu’r enillion gorau posib.  Mae gan UAC ac eraill rôl i’w chwarae yn hyrwyddo’r deunydd naturiol gwych hwn, gan lobïo Llywodraeth Cymru i gynnwys gwlân Cymru yn ei pholisïau caffael.

Mae canlyniad adolygiad diweddar Defra i fodel presennol Gwlân Prydain hefyd yn golygu y gellir cyflwyno gwelliannau i orchymyn 1950, yn y gobaith y bydd dod yn gorff annibynnol yn y dyfodol yn caniatáu iddyn nhw wneud y mwyaf o’r marchnadoedd presennol ac ymateb yn fwy effeithiol i heriau masnachol.