Tîm llywyddol newydd i arwain Undeb Amaethwyr Cymru

Mae gan Undeb Amaethwyr Cymru dîm llywyddol newydd wrth y llyw, i arwain y sefydliad yn ei Genhadaeth i sicrhau bod yna ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy yng Nghymru.

Yn ymuno â’r Llywydd newydd, Ian Rickman, ar y brig y mae’r ffermwr llaeth o Sir Benfro, Dai Miles fel Dirprwy Lywydd; y ffermwr cig eidion a defaid o Ogledd Cymru, Alun Owen fel Is-lywydd Gogledd Cymru; y ffermwr cig eidion a defaid o Sir Forgannwg, Brian Bowen, fel Is-lywydd De Cymru, a’r ffermwr defaid o Geredigion, Anwen Hughes, fel Is-lywydd Canolbarth Cymru.

Tyfodd Dai Miles i fyny yn Felin-fach a mynychodd Ysgol Gyfun Aberaeron.   Heb fod yn perthyn i deulu ffermio, dechreuodd Dai ei yrfa ffermio drwy fynychu Coleg Amaethyddol Cymru yn Aberystwyth, lle cafodd Ddiploma Cenedlaethol mewn Amaethyddiaeth a chwblhau blwyddyn rhyng-gwrs yn Godor Nantgaredig.

Ar ôl coleg, treuliodd pum mlynedd yn gowmon yn Waun Fawr, Glynarthen, Llandysul ac yna pum mlynedd pellach yn IGER Trawscoed yn gweithio ar y fuches gonfensiynol a’r fuches organig yn Nhŷ Gwyn, cyn mentro cymryd tenantiaeth yn Sir Benfro gyda’i wraig Sharron.

Ar hyn o bryd maent yn ffermio tua 70 acer o dir sy’n berchen iddyn nhw, 200 acer ar Denantiaeth Busnes Fferm (FBT) a 100 acer ar osod am dymor byr, y cyfan yn organig. Mae ganddynt 120 o fuchod ar system borfa a godro’n robotig, ac maent yn magu eu lloi eu hunain, ar gyfer y fuches neu fel gwartheg cig eidion stôr. Mae un o’u meibion, Llŷr, wedi ymuno â’r busnes yn ddiweddar.

Mae Dai, a oedd yn Is-lywydd UAC ar gyfer De Cymru, hefyd yn gyn-gadeirydd Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth UAC, yn gyn-gadeirydd sirol UAC yn Sir Benfro, ac yn Is-gadeirydd Pwyllgor Tenantiaid UAC.

Yn ogystal, bu Dai yn cymryd rhan yn Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, sydd wedi’i helpu i ddatblygu ei sgiliau cyfathrebu ymhellach, er mwyn gallu cyflawni ei rolau i ffwrdd o’r fferm yn fwy effeithiol.

Yn ogystal â rhedeg y fferm deuluol gyda Sharron, ac yn ddiweddar, Llŷr, yn 2000 sefydlodd Dai a phedwar ffermwr llaeth organig arall gwmni llaeth cydweithredol Calon Wen. Mae’r cwmni cydweithredol, sy’n berchen i 25 o deuluoedd ffermio, yn helpu i sicrhau marchnad hirdymor ar gyfer llaeth organig o Gymru, drwy gefnogi anghenion prosesu organig yng Nghymru.

Yn 2013 daeth yn Rheolwr Gyfarwyddwr y fenter. Erbyn hyn mae’r cwmni’n cyflenwi ei frand ei hun o laeth, menyn a chawsiau i brif fanwerthwyr yng Nghymru a’r DU, yn ogystal â nifer fawr o siopau manwerthu eraill, ac mae hefyd yn allforio i Japan a’r Dwyrain Canol.

Rhan ganolog o lwyddiant Dai yw ei gred angerddol mai diwydiant ffermio llewyrchus yw’r allwedd i gynnal ardaloedd gwledig a diwylliant cefn gwlad Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Alun Owen yn ffermio yn Gallt-y-Celyn, Pentrefoelas gyda’i wraig Marian a’u mab, Siôn. Mae Gallt-y-Celyn yn fferm ucheldir sy’n cynhyrchu gwartheg stôr ac ŵyn tew ar ystad y Foelas yn ardal Uwchaled, ac mae rhwng 600 ac 800 troedfedd uwchlaw lefel y môr. Hefyd, mae daliad arall yn rhan o’r fusnes sydd wedi’i leoli ym Mhen Llŷn. Cymerodd Alun a’i wraig Marian awenau’r busnes oddi ar ei rieni dro yn ôl, ac maent wedi bod yn aelodau o UAC ers blynyddoedd.

Mae Alun yn credu ei bod hi’n bwysig bod gan Gymru lais cryf o fewn y diwydiant amaethyddol a bu’n gadeirydd sirol UAC yn Sir Ddinbych. Mae’n credu ei bod hi’n bwysig, a’i bod hi’n ddyletswydd arno i geisio cwrdd â phawb o’r tu allan i’r diwydiant, er mwyn cynyddu eu dealltwriaeth o’r sector amaethyddol.

Mae Brian Bowen yn ffermio uned gymysg o fuchod sugno a defaid mynydd ger Tredegar. Mae’r fferm yn cynnwys 150 acer o dir sydd dan berchnogaeth, ynghyd â 1,000 o aceri pellach o dir rhent, a 1,200 o aceri o hawliau comin ar dir comin gwahanol. Mae’n rhedeg y fferm, ochr yn ochr â’i dad, ei fam a’i fab.

Bu’n Is-gadeirydd UAC ar gyfer Brycheiniog a Maesyfed o 2008 a chafod ei ethol yn Gadeirydd Sirol yn 2010. Mae wedi bod yn gynrychiolydd Brycheiniog a Maesyfed ar bwyllgor da byw, gwlân a marchnadoedd UAC ers 2009.

Mae Anwen Hughes yn ffermio 80 acer ar fferm Bryngido ar gyrion Aberaeron yng Ngheredigion, mewn partneriaeth â’i gŵr Rhodri. Mae’r teulu’n cadw tua 200 o ddefaid Llŷn a Llŷn croes ar system borfa mewnbwn isel, allbwn uchel. Mae Anwen wedi bod yn ffermio ers 1995 ac mae hi hefyd yn berchen 48 acer arall, mewn partneriaeth â’i mam Betty Davies, sy’n cael ei rentu i’w mab hynaf hi, Glyn.