Bydd Cyswllt Ffermio’n cynnal ei ail ddigwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio ar 15fed Mehefin 2022 ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Denodd y digwyddiad cyntaf, a gynhaliwyd ym Medi 2019, dros 1,000 o ymwelwyr a 90 o arddangoswyr.
I adeiladu ar y momentwm, nod y digwyddiad eleni yw annog mwy o fusnesau fferm a choedwigaeth i gael cymorth, gwybodaeth a syniadau gan brif siaradwyr, cymorthfeydd un i un, gweithdai a seminarau, ar bynciau sy’n cynnwys:
- Arloesi – ffyrdd mwy effeithlon o weithio sy’n manteisio ar dechnolegau newydd cyffrous
- Arallgyfeirio – syniadau newydd a fydd yn eich helpu i gynyddu elw
- Da byw – ffyrdd newydd o gryfhau perfformiad a gwella cynhyrchiant
- Cynaliadwyedd – arbed amser ac arian, cynyddu allbynnau, lleihau eich ôl troed carbon
- Newid y ffordd rydych chi'n meddwl ac yn gweithio – cymorth, arweiniad, hyfforddiant ac arddangosiadau ymarferol a fydd yn eich paratoi chi a'ch busnes ar gyfer y dyfodol.
Bydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim i ymwelwyr. Bydd gwybodaeth bellach, gan gynnwys rhestr lawn o arddangoswyr ac amserlen siaradwyr a seminarau ar gael maes o law.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma neu cysylltwch â thîm digwyddiadau Cyswllt Ffermio’n uniongyrchol ar: