Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu cyhoeddiad gan CThEM na fydd gofyn talu treth pecynnu amaethyddol ar ddeunydd lapio silwair o 1af Ebrill 2022, yn sgil cydnabod ei fod yn hanfodol i eplesu glaswellt.
Heb y consesiwn hwn, byddai treth o £200 y dunnell wedi’i chyflwyno ar bob deunydd pecynnu plastig untro, gan ychwanegu at y baich ariannol presennol ar y diwydiant.
Mae costau mewnbwn yn uwch nag erioed yn nhermau cost ynni, gwrtaith a phorthiant. Gyda hyn mewn golwg, croesewir penderfyniad CThEM i eithrio deunydd lapio silwair o’r dreth pecynnu plastig ar gyfer amaethyddiaeth.