Ar 21 Chwefror 2022, cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru bod achos o Ffliw Adar H5N1 wedi ei gadarnhau ar ddau safle:
Cafodd achos newydd ei gadarnhau ar safle masnachol ger Y Trallwng, Sir Drefaldwyn, Powys. Mae Parth Diogelu 3km, Parth Gwyliadwriaeth 10km a Pharth Cyfyngedig 10km wedi’u sefydlu o amgylch y safle. Amlinellir manylion y mesurau o fewn y parthau rheoli clefyd ar gyfer y parth hwn ar Gov.Wales
Cadarnhawyd achos newydd hefyd ar safle masnachol ger Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn, Powys. Mae Parth Diogelu 3km a Pharth Gwyliadwriaeth 10km wedi’u sefydlu. Mae rhan o’r Parth Gwyliadwriaeth yn ymestyn i Loegr mewn nifer o leoedd ac felly mae datganiadau wedi’u rhoi ar waith yng Nghymru a Lloegr. Mae Parth Cyfyngedig o 10km hefyd wedi’i ddatgan yng Nghymru gyda’r un mesurau â’r Parth Gwyliadwriaeth. Amlinellir manylion y mesurau o fewn y parthau rheoli clefyd ar gyfer y parth hwn ar Gov.Wales.
Sylwch fod y https://llyw.cymru/parth-atal-ffliw-adar-cymru-gyfan yn parhau i fod ar waith ledled Prydain Fawr.
Atgoffir pob ceidwad adar i gyflawni ei rwymedigaethau i gynnal y safonau bioddiogelwch uchaf i amddiffyn eu hadar ac i’w cadw o dan do. Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wedi rhyddhau fideo byr llawn gwybodaeth sy’n rhoi arweiniad ar arferion bioddiogelwch da ar gyfer ceidwaid haid yn yr iard gefn er mwyn diogelu adar rhag Ffliw Adar. Yn dilyn y stormydd diweddar, anogir ceidwaid adar i archwilio eu cytiau am unrhyw arwyddion o ddifrod, a’i hatgyweirio yn ôl yr angen er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo ffliw adar i ddofednod neu adar dof eraill o adar gwyllt neu o unrhyw ffynhonnell arall.
Maent hefyd yn annog pob ceidwad i gofrestru eu hadar ar y Gofrestr Dofednod. Mae hyn eisoes yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer y rheini sydd â 50 neu fwy o adar. Mae cofrestru yn golygu y bydd modd cysylltu â cheidwaid gyda'r wybodaeth berthnasol neu'r camau gweithredu sydd eu hangen os bydd achos yn agos atynt.
Cyhoeddwyd datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael i'w ddarllen yma https://llyw.cymru/achosion-o-ffliw-adar-ym-mhowys.