Daeth yr adeg honno o’r flwyddyn unwaith eto pan fydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn dechrau meddwl am y Ffurflenni Cais Sengl (SAF). Mae’r ffenestr ymgeisio’n agor ar 1af Mawrth ac mae UAC yn atgoffa’i haelodau bod staff sirol ar gael i helpu, a lliniaru’r straen o lenwi’r ffurflen.
Mae UAC yn darparu’r gwasanaeth hwn yn benodol i’w holl aelodau taledig fel rhan o’u pecyn aelodaeth, ac mae wedi bod yn gymorth amhrisiadwy i filoedd o aelodau dros y blynyddoedd – gan arbed amser a phoen pen gwaith papur iddyn nhw.
Mae’n siŵr mai’r broses o lenwi ffurflen SAF yw’r ymarfer llenwi ffurflen pwysicaf a wneir gan ffermwyr Cymru, a hynny ers 2004, ac mae ôl-effeithiau ariannol camgymeriadau yn y ffurflen yn rhai difrifol. Mae staff UAC nid yn unig wedi’u hyfforddi’n dda ond maent yn gyfarwydd iawn â delio â’r broses ymgeisio gymhleth.
Ers i Lywodraeth Cymru fynnu bod yr holl geisiadau’n cael eu gwneud ar-lein, mae UAC wedi canolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i’w haelodau.
Mae UAC yn annog ei haelodau, a’r rheiny sy’n llenwi’r ffurflen am y tro cyntaf, i gysylltu â’u swyddfa leol cyn gynted â phosib i drefnu apwyntiad, os oes angen help arnynt i lenwi’r ffurflen.