Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi disgrifio agwedd Llywodraeth y DU tuag at ddiogelu’r cyflenwad bwyd ac amaethyddiaeth fel un ddi-hid mewn ymateb i’r cyhoeddiad bod cytundeb masnach rydd wedi’i arwyddo â Seland Newydd.
Mae ffermwyr yn teimlo’n ddig iawn bod Llywodraeth y DU wrthi’n ffurfio cytundebau masnach a fydd, yn ôl yr hyn mae ei ffigurau ei hun yn cadarnhau, yn niweidiol i sectorau bwyd a ffermio’r DU, ac yn tanseilio diogelwch y cyflenwad bwyd.
Does dim angen edrych yn bellach na’r hyn sy’n digwydd yn Wcráin, a’r effaith ar gyflenwadau nwy a thanwydd, i weld pa mor gyflym y gall pethau newid ar y llwyfan rhyngwladol, ac eto mae polisi masnach Llywodraeth y DU yn mynd ati’n ddi-hid i danseilio diogelwch ein cyflenwad bwyd, drwy symud y ddibyniaeth i wledydd sydd ddegau o filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Byddai’r cytundeb yn gweld y meintiau o gig eidion y gellir eu mewnforio’n ddi-dariff o Seland Newydd yn codi ar unwaith i 12,000 o dunelli, yna’n raddol i 38,820 o dunelli o fewn cyfnod o ddeng mlynedd. Mi fyddai cynnydd pellach yn y pum mlynedd dilynol, ac wedi hynny ni fyddai cyfyngiad o unrhyw fath.
O ran cig oen, byddai’r meintiau y gellid eu mewnforio’n ddi-dariff yn cynyddu o 35,000 tunnell y flwyddyn ym mlynyddoedd un i bedwar, yna o 50,000 tunnell y flwyddyn ym mlynyddoedd pump i bymtheg, ac wedi hynny ni fyddai cyfyngiad o unrhyw fath.
Bydd tariffau ar gaws a menyn yn cael eu diddymu’n raddol dros bum mlynedd.
Mae asesiad o effaith y cytundeb gyda Seland Newydd yn amcangyfrif y bydd yn arwain at ostyngiad o £129 miliwn yng ngwerth ychwanegol gros y categorïau sector y mae bwyd a ffermio’n perthyn iddynt – sydd, yn ôl cyfaddefiad Llywodraeth y DU “yn bennaf oherwydd mwy o gystadleuaeth o du mewnforion cig eidion”. Mi fyddai hyn ar ben y gostyngiad amcangyfrifol o £278 miliwn yng ngwerth ychwanegol gros y sectorau hyn o ganlyniad i’r cytundeb rhydd cyffelyb a arwyddwyd gydag Awstralia ym mis Rhagfyr.
Yn y cyfamser, mi fyddai’r buddiannau i’r economi gyfan yn rhai pitw iawn – cynnydd amcangyfrifol o 0.03% yn ein cynnyrch domestig gros, gan olygu y byddai angen 130 o gytundebau masnach tebyg i wneud iawn am y gostyngiad a ragwelir yn ein cynnyrch domestig gros o ganlyniad i Brexit.
Mae asesiad effaith Llywodraeth y DU yn awgrymu y gallai cyflogau’r DU godi o 18c yr wythnos yn y pen draw o ganlyniad i’r cytundeb masnach rhwng y DU a Seland Newydd.
Mae’r difrod cronnus a wneir i sector bwyd ac amaeth y DU gan y cytundebau hyn ac eraill sydd ar y gweill, ar adeg pan mae cyllidebau gwledig yn cael eu cwtogi’n llym a rheoliadau’n tynhau, yn anfon neges negyddol am gefnogaeth Llywodraeth y DU i amaethyddiaeth.
Mae yna deimlad cynyddol o fewn y diwydiant bod y polisïau hyn yn bygwth bodolaeth cymunedau gwledig Cymru a diogelwch y cyflenwad bwyd.