Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ailadrodd ei phryderon am y cytundeb masnach presennol ag Awstralia a’i effeithiau ar amaethyddiaeth y DU, wrth roi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Cymru.
Mae yna bryder naturiol bod rhyddfrydoli’r drefn masnachu nwyddau amaethyddol yn llwyr yn creu’r risg o ddisodi bwyd a gynhyrchir yng Nghymru a’r DU..
Er bod asesiad effaith Llywodraeth y DU yn amcangyfrif colled o £29 miliwn o ran cynnyrch gros sectorau cig eidion a chig oen Cymru, mae angen ystyried hyn yng nghyd-destun y ffaith bod cytundeb masnach y DU-Awstralia’n debygol o osod cynsail ar gyfer cytundebau masnach yn y dyfodol.
Mae’r effaith gronnol y byddem yn ei disgwyl o gytundebau masnach â gwledydd megis Seland Newydd ac eraill o fewn Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) yn golygu bod y £29 miliwn yna’n cynyddu’n sylweddol, dros y tymor hirach o leiaf.
Mae yna botensial hefyd i gytundebau masnach fel hwn osod rhwystrau pellach ar allforion y DU i’r UE, yn enwedig o ystyried y gwahaniaethau o ran safonau cynhyrchu rhwng y DU ac Awstralia.
Bu llawer o ganolbwyntio ac ymdrech fawr ar arwyddo cytundebau masnach fel yr un gydag Awstralia ers i’r DU adael yr UE, yn hytrach na gwella’r cytundeb masnach DU-UE presennol a’i wneud yn fwy effeithlon.
Bu gostyngiad o 25% hefyd yn yr allforion cig defaid o’r DU i’r UE ers cyflwyno gwiriadau a biwrocratiaeth ar y ffiniau ar ôl Brexit. Felly, mae gwelliannau i’w gwneud i’r trefniadau masnachu presennol â’r UE, sef y farchnad allforio fwyaf ar gyfer cig coch y DU.
Byddai’r cynnydd o ran bwyd a fewnforir o ganlyniad i’r cytundeb hwn yn arwain yn anorfod hefyd at leihau diogelwch cyflenwad bwyd y DU, un ai yn sgil disodli cynnyrch y DU neu drwy fwy o ddibyniaeth ar fwyd a gynhyrchir miloedd o filltiroedd i ffwrdd.
Yn ogystal, mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ohirio cyflwyno unrhyw fiwrocratiaeth ychwanegol, a allai danseilio diwydiant amaeth y DU ymhellach. Rhaid osgoi biwrocratiaeth ychwanegol o unrhyw fath, p’un ai’n rheoliadau cludo da byw, rheoliadau NVZ, neu unrhyw beth arall a fyddai’n rhoi cynhyrchwyr Cymru a’r DU dan anfantais bellach o’i gymharu â rhai mewn gwledydd fel Awstralia.