Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi lansio menter a elwir yn ‘Natur a Ni’, sy’n anelu at greu platfform a fydd yn caniatáu i bobl Cymru ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer ein hamgylchedd naturiol.
Hyd at ddiwedd Mai, gall unrhyw un yng Nghymru gymryd rhan a dweud eu dweud ar https://freshwater.eventscase.com/CY/Natureandus
Mae hyn yn cynnwys cwblhau arolwg Natur a Ni neu gymryd rhan yn un o’r digwyddiadau neu grwpiau ffocws ar-lein. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gobeithio y bydd hyn yn help i ddeall sut mae pobl yn teimlo am fyd natur, ac yn gwneud iddyn nhw feddwl am y newidiadau y gallwn eu mabwysiadu i warchod byd natur a’r amgylchedd.