Tra bod Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar newidiadau i drefniadau adnabod, cofrestru ac adrodd ar symudiadau da byw y llynedd, cyhoeddodd Gweinidog Iwerddon dros Amaeth, Bwyd a’r Môr, Charlie McConalogue y penderfyniad i gyflwyno Tagiau Adnabod Electronig (EID) gorfodol ar gyfer gwartheg yn Awst 2021.
Fel rhan o’r symudiad tuag at dagiau EID gorfodol yn Iwerddon, bydd pob set o dagiau gwartheg newydd gan gyflenwyr cymeradwy yn cynnwys tag EID gwyn.
O 1af Ionawr 2022, mae’n ofynnol bod pob cyflenwr tagiau gwartheg cymeradwy’n cyflenwi tag EID gyda phob archeb tagiau newydd. Bydd pob set o dagiau newydd yn cynnwys un tag EID ac un tag meinwe.
O 1af Gorffennaf 2022, mi fydd yn ofyniad cyfreithiol ar geidwaid buchesi i adnabod pob llo newydd-anedig yn swyddogol gyda set dagiau sy’n cynnwys tag EID.
Yn ogystal, fel rhan o becyn ariannol gwerth €4.25 miliwn i gynorthwyo ceidwaid gwartheg gyda chostau ychwanegol y tagiau newydd, bydd ffermwyr yn derbyn hyd at €100 yn ystod oes y cynllun, a gyfrifir drwy ddefnyddio nifer y setiau o dagiau EID a brynwyd o 1af Ionawr 2022, ar gyfradd o €1 y set.
Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canlyniad ei hymgynghoriad yng ngwanwyn 2022 ac mae wedi argymell bod ffermwyr yng Nghymru’n archebu digon o dagiau confensiynol ar gyfer lloi a ddisgwylir eleni’n unig.
Er y disgwylir diweddariad ar gyflwyno EID Gwartheg yn ddiweddarach eleni, mae UAC yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n cydnabod cost ychwanegol y tagiau newydd, fel y gwnaeth Adran Amaeth, Bwyd a’r Môr yn Iwerddon.