Newidiadau i gynhyrchwyr organig Cymdeithas y Pridd o 1af Ionawr

Mae Cymdeithas y Pridd wedi paratoi tudalen o ganllawiau cyn y cyflwynir newidiadau sylweddol ar gyfer ffermwyr, tyfwyr, gweithgynhyrchwyr a masnachwyr organig sy’n allforio i’r UE ar 1af Ionawr.

Allforio i’r UE a Gogledd Iwerddon o 1af Ionawr 2021

Mae’n edrych yn debyg y bydd y drefn ar gyfer derbyn cynnyrch organig o Brydain i’r UE yn seiledig ar gymeradwyaeth unigol ardystwyr DU dan reoliad EC1235/2008 y Comisiwn Ewropeaidd – sydd gan holl ardystwyr y DU ar hyn o bryd.

Bydd angen i bob gweithredwr ar hyd cadwyn gyflenwi’r DU gael ei ardystio gan ardystiwr sy’n meddu ar gymeradwyaeth y cynnyrch perthnasol ar hyn o bryd. Mae cymeradwyaeth ardystiad Cymdeithas y Pridd yn berthnasol hyd at ddiwedd 2023.

Bydd disgwyl i’r DU weithio’n unol â rheoliad organig presennol yr UE, sef EC834/2007 am gyfnod o dair blynedd o leiaf o 1af Ionawr 2021, er gwaetha’r ffaith bod yr UE yn symud i reoliad organig newydd yn 2022.

Gweminarau i aelodau FUW yn unig ar gael i’w hail-wylio

Mae FUW wedi cynnal nifer o seminarau rhithwir a gweminarau yn ystod 2020 yn sgil y pandemig, gan gynnwys Cynhadledd Iechyd Meddwl Cymru Gyfan, a gweminar Defnydd Tir, Cadwraeth a Gwaredu Diwylliannol.

Gall aelodau ail-wylio’r recordiadau hyn ar wefan FUW.

I gael canllaw cam wrth gam ar fewngofnodi i’r wefan Aelodau er mwyn gwylio’r gweminarau hyn cliciwch yma.

Canllaw newydd ar gael i wella diogelwch brecio tractor-trelar

Mae Cymdeithas y Peirianwyr Amaethyddol (AEA) wedi cyhoeddi rhifyn diwygiedig o’r canllaw brecio tractor-trelar ‘Look Behind You’. Mae’r canllaw ar gyfer unrhyw un sy’n defnyddio neu’n cynnal a chadw tractorau a threlars, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o’r ffordd mae’r systemau’n gweithio a’r gofynion cyfreithiol lleiaf.

Cyhoeddodd yr AEA y canllaw ‘Look Behind You’ cyntaf ddeg mlynedd yn ôl, i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyfuniadau diogel o offer tractor-trelar neu offer sy’n cael ei dynnu gan dractor.

Ers hynny, mae tractorau, trelars ac offer sy’n cael ei dynnu gan dractor wedi tyfu o ran maint, gall mwy o dractorau gyrraedd cyflymder o 50cya ac mae systemau brecio niwmatig (aer) yn fwy cyffredin.

Mae’r canllaw diweddaraf yn dal i gynnwys yr wybodaeth sylfaenol, yn ogystal â gwybodaeth am systemau brecio cymhleth ar beiriannau modern, i wella dealltwriaeth, y ffordd maent yn cael eu defnyddio, a’u diogelwch yn gyffredinol.

Gallwch weld a lawrlwytho’r canllaw newydd yma.

Arolygon a holiaduron Rhagfyr 2020

i) Arolwg ar y Ddeddfwriaeth Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru

Mae’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth annibynnol yn cynghori Gweinidogion Cymru ar yr isafswm cyflog amaethyddol, a thelerau ac amodau gweithwyr yn y sector amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth.

Mae’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yn ei bumed flwyddyn ac mae’n bwysig sicrhau ei fod yn parhau i gwrdd ag anghenion diwydiant sy’n esblygu. Felly, comisiynodd Llywodraeth Cymru ADAS i gynnal arolwg o gyflogaeth amaethyddol yng Nghymru.

Mae eich barn a’ch profiadau fel cyflogwr ac fel gweithiwr yn bwysig er mwyn dylanwadu ar waith y Panel Cynghori ac ar ddatblygiad polisïau Llywodraeth Cymru.

Gallwch gwblhau’r arolwg ar-lein yma.

Neu dilynwch y ddolen i drefnu apwyntiad i gael cyfweliad dros y ffôn gydag ADAS. Bydd yr arolwg yn cau ar y 31ain Ionawr 2020.

Bydd yr wybodaeth a rowch yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei rhannu efo Llywodraeth Cymru nac unrhyw gorff arall. Caiff data cyfanredol ei roi i Lywodraeth Cymru a’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth i’w helpu gyda’u gwaith.

 

ii) Arolwg ‘llawr gwlad’ ar flaenoriaethau iechyd a lles gwartheg a defaid

Mae’r Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid sy’n Cnoi Cil (RHWG) wedi lansio arolwg ‘llawr gwlad’ i geisio rhoi blaenoriaeth i faterion iechyd a lles, gan ddefnyddio tystiolaeth a gwell dealltwriaeth o farn ffermwyr, bugeiliaid, rheolwyr buchesi a milfeddygon fferm.

Mae’r arolwg, y gellir ei gwblhau yma, yn cynnwys cwestiynau sy’n seiliedig ar amryw o glefydau a chyflyrau sydd wedi’u nodi gan grwpiau arbenigol fel rhai sy’n cael effaith sylweddol ar allyriadau tŷ gwydr. Gall ymatebwyr hefyd awgrymu rhai eraill y dylid eu cynnwys, ond mae’n bwysig nodi bod RHWG yn cydnabod straen ac effeithiau TB Gwartheg.

Bydd y canlyniadau’n helpu i nodi clefydau a’u heffeithiau ar les anifeiliaid, yn ogystal â materion rhanbarthol penodol yn seiliedig ar brofiadau’r rhai sy’n gweithio gyda defaid a gwartheg, a bydd y rhain yn cael eu bwydo mewn i weithgareddau RHWG yn y dyfodol.

Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 25 munud i’w gwblhau. Bydd ymatebwyr sy’n rhoi eu henwau a’u cyfeiriadau e-bost (gweler telerau ac amodau) yn cael cyfle i ennill un o dri hamper Nadolig.

Sylwer na fydd manylion adnabod ymatebwyr yn cael eu cysylltu â’u hymatebion.

 

 

iii) ‘Yr Arolwg Ffermio Mawr’ – RABI i daflu goleuni ar y materion sy’n effeithio ar bobl sy’n ffermio

Ar 11 Ionawr 2021, bydd RABI yn lansio’r prosiect ymchwil mwyaf erioed ar draws Cymru a Lloegr yn ymwneud â llesiant pobl sy’n ffermio. Bydd yr arolwg eang ei gwmpas hwn yn ystyried y berthynas rhwng iechyd corfforol, lles meddyliol ac iechyd busnesau ffermio am y tro cyntaf.

Wrth i’r pwysau allanol gynyddu, bydd yr ymchwil hanfodol hwn yn darparu’r trosolwg mwyaf cynhwysfawr ar y gymuned ffermio. Bydd yn nodi’r heriau penodol a wynebir gan genhedlaeth o bobl sy’n ffermio, ac yn amlygu sut mae’r rhain yn effeithio ar fywyd bob dydd.

Mae UAC yn cefnogi’r fenter bwysig hon ac yn annog pawb i gyfrannu at yr ymchwil hwn er mwyn cyrraedd y tharged o gasglu 26,000 o ymatebion i’r arolwg.

Nodau’r #BigFarmingSurvey (#ArolwgFfermioMawr)

  • Deall llesiant cenhedlaeth sy’n ffermio
  • Deall iechyd ein ffermwyr a’u busnesau
  • Ennill dealltwriaeth o bwysau ac effeithiau allanol
  • Llunio cymorth a gwasanaethau yn y dyfodol

Pwy all gymryd rhan: Ffermwyr, gweithwyr fferm, eu cymheiriaid, a phlant sy’n oedolion
Pryd: 11 Ionawr - 31 Mawrth 2021
Ar-lein: http://ex.ac.uk/BigFarmingSurvey
Print: Gofynnwch am gopi printiedig gan This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Neilltuwch 15 munud i gymryd rhan drwy ymateb i’r arolwg printiedig neu drwy lenwi ein ffurflen ar-lein mewn Cymraeg a Saesneg.

 

iv) Ymchwil i effeithiau TB Gwartheg ar iechyd meddwl

Mae Rebecca John yn fyfyrwraig trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio Amaethyddiaeth a Rheoli Busnes. Fel rhan o’i hastudiaethau mae hi’n gwneud traethawd estynedig ar ‘Effaith TB Gwartheg ar iechyd meddwl ffermwyr yng Nghymru’. Er mwyn casglu data ar gyfer ei thraethawd, mae hi wedi creu holiadur byr, dienw ar gyfer ffermwyr llaeth a chig eidion yng Nghymru, er mwyn iddyn nhw allu rhannu eu barn ar y ffordd mae TB Gwartheg wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl. Oherwydd Coronafeirws, mae hi wedi’i chyfyngu i ddosbarthu ei holiadur ar-lein yn unig, ac felly mae angen help arni i sicrhau ei bod yn cael digon o ymateb.

Mae ei holiadur ar gael yma

 

v) Arolwg ffermio, y newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd

Yn ystod cyfnod o newid sylweddol i ffermwyr y DU, mae’r Athro John Whitton a’i dîm yn y Ganolfan Pontio Cynaliadwy (CST) ym Mhrifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn yn gofyn i ffermwyr am eu profiadau yn byw o ddydd i ddydd ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Maent yn gofyn i’r rhai sy’n cymryd rhan am effaith tywydd eithafol ar dir, da byw a chnydau, ac am eu barn ar gynlluniau amgylcheddol a dulliau o addasu i’r newid yn yr hinsawdd.

Mae’r arolwg yn ddienw. Fodd bynnag, os ydy’r rhai sy’n cymryd rhan am gadw mewn cysylltiad, a gweithio gyda nhw ymhellach, maent yn cael yr opsiwn o wneud hynny a chyfle i ennill taleb Amazon gwerth £25.

Mae’r arolwg ar gael yma ac ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Rhagfyr 2020

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Creu Coetir Glastir

Mae’r 10fed ffenestr Mynegi Diddordeb nawr ar agor ar gyfer cynllun Creu Coetir Glastir gyda chyllideb o £9 miliwn.

Mae’r cynllun yn darparu cymorth ariannol ar gyfer gwaith cyfalaf, gan gynnwys plannu, ffensio, ac mewn rhai amgylchiadau, cynnal a chadw blynyddol a thaliadau premiwm.


Rhaid ichi gysylltu â chynlluniwr cofrestredig i drafod eich cynigion a rhaid iddyn nhw gwblhau a chyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb ar eich rhan. Rhaid i’r tir dan sylw fod wedi’i gofrestru gyda System Adnabod Parseli Tir Taliadau Gwledig Cymru a bod yn gyfan gwbl dan eich rheolaeth chi.


Gweler yma am fwy o wybodaeth ac i fynegi diddordeb.

15 Ionawr 2021

Ffenestr ceisiadau  hyfforddiant Cyswllt Ffermio

Bydd y ffenestr nesaf ar gyfer gwneud cais am gyllid hyfforddiant yn agor ar Ddydd Llun 11 Ionawr ac yn cau ar Ddydd Gwener 26 Chwefror 2021.

Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf yn ystod y ffenestr sgiliau uchod i wneud cais am gwrs hyfforddiant wedi’i ariannu, neu rai sydd angen diweddaru eu manylion cyfrif gysylltu â Cyswllt Ffermio cyn 5pm ar Ddydd Llun 22 Chwefror 2021

11 Ionawr - 26 Chwefror 2021

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd.

Ceir mwy o wybodaeth yma:
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

 

Senedd yn gwrthod y ddeddf fasnach ôl-Brexit

Mae Bil Marchnad Fewnol dadleuol Llywodraeth y DU yn parhau ar ei daith trwy San Steffan ac yn y camau ‘ping pong’, a hynny er iddo gael ei wrthod sawl gwaith gan Dŷ’r Arglwyddi.

Nod y Bil yw sicrhau bod masnach yn parhau oddi fewn i’r DU yn ddi-rwystr. Yn ddiweddar pleidleisiodd gwrthwynebwyr Llafur a Phlaid Cymru yn erbyn y bil, oherwydd y perygl o ganoli grym yn Llundain ac o ganlyniad tanseilio datganoli.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn tanseilio gallu’r Senedd i reoleiddio nwyddau a gwasanaethau. Mae Senedd Yr Alban eisoes wedi penderfynu peidio â chymeradwyo’r bil, ac mae pleidlais debyg yn erbyn wedi ei chynnal yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon.

Ers pleidlais Brexit yn 2016, mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi amlygu’r perygl o wahaniaethau posib rhwng safonau a rheolau mewn gwahanol rannau o’r DU – a’r angen i ddod i gytundeb a rhoi mecanweithiau yn eu lle sy’n parchu datganoli a hynny cyn gynted â phosib er mwyn osgoi hyn rhag digwydd.

Bwriad Llywodraeth y DU bellach yw i dynnu’n ôl y cymalau a fyddai wedi rhoi’r grym i weinidogion y DU i ddisytyru rhannau o’r cytundeb ymadael Brexit er mwyn osgoi torri cyfraith rhyngwladol.

FUW yn ymateb i Bapur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru)

Mewn ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Amaethyddiaeth (Cymru), mae FUW o’r farn nad yw’n gwneud llawer i leihau pryderon yn ymwneud â’r effaith ar deuluoedd a chymunedau o ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig i gefnogaeth amaethyddol.

Tra bod FUW’n cytuno gyda’r amcan o ddiogelu a gwella ein cymunedau gwledig yn economaidd, yn amgylcheddol a’u gwneud yn fwy cynaliadwy; mae ganddynt bryderon difrifol a fydd y cynigion mewn gwirionedd yn cwrdd â’r amcanion hyn neu a fyddant yn cael eu tanseilio.

Er gwaetha’r newid o ran iaith gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf a’r gydnabyddiaeth o’r angen i fod yn fwy realistig a hefyd amserlen llai niweidiol na’r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol, mae’r egwyddorion sylfaenol sy’n sail i’r cynigion yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) yn parhau i fod yr un peth â’r rheini a gynigiwyd yn Lloegr, yn hytrach na gwneud y gorau o’r cyfle i greu cynllun yn seiliedig ar syniadau ac egwyddorion Cymreig.

FUW yn annog aelodau i lobïo yn erbyn toriadau i gyllid gwledig

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn annog ffermwyr ac aelodau’r cyhoedd i lobïo Gwleidyddion o Gymru dros doriadau i gyllideb amaeth a datblygu gwledig Cymru a gyhoeddwyd gan Ganghellor y DU ar y 25 Tachwedd.

Ar wefan FUW mae modd i bobl fynd ar lein ac anfon ebost at Aelodau Seneddol, Aelodau Senedd Cymru a chynrychiolwyr lleol i alw arnynt i lobïo er mwyn adfer cyllideb amaeth a datblygu gwledig Cymru i’r hyn oedd cyn ymadael â’r UE mewn termau go iawn – yn unol â’r addewidion a wnaed i etholwyr Cymru a’r DU gan niferoedd o wleidyddion.

Mae Trysorlys y DU wedi defnyddio arian o’r gyllideb CAP 2014-2020 sydd heb ei wario er mwyn cyfrifo cyfanswm y cyllid ar gyfer amaeth a datblygu gwledig Cymru ar gyfer y cyfnod 2021-22, sy’n golygu fydd Cymru’n derbyn £95 miliwn (28%) yn llai na’r disgwyl, lleihad o £137 miliwn (41%) ar ôl ystyried y trosglwyddiad Colofn.

Rhaid i’r DU a’r UE ddod i gytundeb er mwyn osgoi effeithiau trychinebus

Mae FUW wedi rhybuddio y bydd methiant gan y DU a’r UE i ganfod cytundeb masnach cyn diwedd y flwyddyn yn drychinebus i ddiwydiannau a chymunedau yng Nghymru a hefyd ar draws y DU a rhaid osgoi hynny ar bob cyfrif.

Mae cadwyn fwyd a diod Cymru’n chwarae rhan ganolog yn economi a chymunedau Cymru, gan gyflogi mwy na 240,000 o bobl mewn diwydiannau gyda throsiant cyfunol o fwy na £22 biliwn.

Yr UE yw’r farchnad sengl fwyaf a chyfoethocaf yn y byd, ac mae 73% o holl allforion bwyd a diod o Gymru yn mynd i’r UE, gan gynnwys y rhan fwyaf o’r allforion cig coch a chynnyrch llaeth gydag amcangyfrif gwerth o £320 miliwn i Gymru.

Os yw’r DU yn gadael yr UE gyda chytundeb neu beidio, mae diwydiannau’n paratoi i wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i rwystrau di-doll ar hyd ffiniau, i gostau ychwanegol ar gyfer allforion amaethyddol a goblygiadau ymarferol o ran llif nwyddau.

Angen i gefnogaeth i’r sector defaid fod yn barod ar amrantiad

Mae angen i gefnogaeth ariannol i’r diwydiant defaid yn y DU fod ar gael ar amrantiad os yw’r perygl o Brexit heb gytundeb yn dod yn fwy o bosibilrwydd wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod trosglwyddo.

Er gwaethaf nifer o ymdrechion gan FUW a chynrychiolwyr eraill o’r diwydiant i bwysleisio effeithiau trychinebus y byddai Brexit heb gytundeb yn ei gael ar y diwydiant defaid yn y DU, mae cynhyrchwyr cig oen yn parhau yn y tywyllwch p’un ai fydd rhyw fath o gefnogaeth ar gael iddynt pe bai Brexit caled yn digwydd tra bod trafodaethau rhwng y DU – UE wedi’u hymestyn unwaith eto y tu hwnt i’r 13eg Rhagfyr.

Mae mwy na thrydydd y cig defaid a gynhyrchir yng Nghymru yn cael ei allforio’n flynyddol ac o’r gyfran honno, mae mwy na 90% yn cael ei allforio i’r UE. Barn Hybu Cig Cymru - yw bod newidiadau i’r diwydiant cig coch yn anorfod beth bynnag fydd canlyniad y trafodaethau Brexit. Maent hefyd yn amcangyfrif y bydd y biwrocratiaeth ychwanegol a’r gofynion allforio ar gig oen sy’n mynd i’r UE o’r 1af Ionawr yn cynyddu costau rhwng 4-8%, hyd yn oed os fydd cytundeb masnach rydd. Os na ddaw cytundeb, bydd tollau o tua 50% o werth y cynnyrch yn ychwanegol i hynny, sy’n debygol o haneri gwerth y cynnyrch sy’n cael ei allforio oherwydd mae’n annhebygol y bydd y rheini sy’n mewnforio yn fodlon talu’r toll ar bris y farchnad gyfredol.

Crynodeb o newyddion Rhafyr 2020

i) 95% o hawlwyr BPS Cymru wedi derbyn taliad yn ystod yr wythnos gyntaf

Cyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gweinidog Lesley Griffiths bod mwy na 94.6% o ymgeiswyr Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghymru (BPS) wedi’i dderbyn yn ystod yr wythnos gyntaf o’i ddosbarthu (1-7 Rhagfyr) sy’n cyfateb i fwy na £219.3 miliwn i 14,900 o hawlwyr.

Cyhoeddwyd llwyddiant tebyg gan Asiantaethau Talu yn Lloegr, Yr alban a Gogledd Iwerddon, gyda’r cyfnod talu yng Ngogledd Iwerddon yn cychwyn mor gynnar â 16 Hydref.
Croesawyd y cyhoeddiad gan FUW a diolchwyd i staff Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â phrosesu taliadau yn ystod y flwyddyn anodd hon – taliadau sy’n rhoi chwistrelliad hanfodol o gyllid i fusnesau a chymunedau gwledig.

ii) Y DU yn arwyddo cytundebau masnach gyda Singapore a Fietnam

Bydd parhad yn y cytundeb masnach gyda Singapore yn caniatáu i fusnesau’r DU barhau i elwa o’r berthynas fasnach sydd eisoes yn bodoli rhwng (UE-Singapore), perthynas gwerth £17.6 biliwn yn 2019, a gobaith Llywodraeth y DU yw fydd y cytundeb yn dod â’r DU yn agosach at y Bartneriaeth Traws-Pasiffig (CPTPP), cytundeb masnach sy’n ymestyn ar draws 11 o Wledydd y Pasiffig.

Mae cynlluniau hefyd i lansio trafodaethau ar gyfer Cytundeb Economi Digidol, y cyntaf i’w arwyddo rhwng Singapore a Gwlad Ewropeaidd.

Bydd cytundeb gyda Fietnam yn golygu gwaredu 99% o’r tollau ar ôl saith mlynedd gan gynnwys rhai ar beiriannau, un o’r allforion allweddol i Fietnam.

iii) Ymestyn ‘GB glyphosate’ tan ddiwedd 2025 yn debygol

Yn wreiddiol roedd y defnydd o’r chwynladdwr ‘glyphosate’ i ddod i ben ar draws yr UE ar y 15 Rhagfyr 2022. Fodd bynnag, credir bod y sylweddau actif a oedd i ddod i ben rhwng 2021 a 2023 yn derbyn estyniad tair blynedd o dan reoliadau newydd i bla-laddwyr ‘GB’.

Bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn parhau i gadw’r grym i adolygu sylweddau actif ar unrhyw adeg os oes pryderon yn codi o ran iechyd dynol neu amgylcheddol. Ni fydd yr estyniad yn berthnasol i Ogledd Iwerddon oherwydd Protocol Gogledd Iwerddon.

Toriad o 28% i gyllideb amaethyddiaeth a datblygu gwledig Cymru

Er gwaethaf addewidion mynych gan yr Ysgrifennydd Gwladol a chyn Ysgrifenyddion Gwladol megis George Eustice, Michael Gove ac Alun Cairns na fyddai cyllideb amaethyddiaeth a datblygu gwledig Cymru’n cael ei chwtogi ar ôl Brexit - a’r addewid a wnaed ym Maniffesto’r Ceidwadwyr yn 2019, sef “...byddwn yn gwarantu’r gyllideb PAC flynyddol bresennol ar gyfer ffermwyr ym mhob blwyddyn o’r Senedd nesaf” - ar 25ain Tachwedd cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai £242 miliwn yn cael ei ddyrannu i Gymru am y flwyddyn ariannol 2021-22, sef £95 miliwn yn llai na’r £337 miliwn a dderbyniwyd gan yr UE drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn 2019.

Mae Llywodraeth y DU yn mynnu nad yw wedi torri ei haddewid, am fod y swm o £242 miliwn, a’r arian UE a neilltuwyd gan Lywodraeth Cymru o gyllideb PAC 2014-2020 yn dod i £337 miliwn.

Fodd bynnag, mae FUW wedi disgrifio’r dyraniad fel ‘bradychiad Brexit’ am fod gan Lywodraeth Cymru bob hawl dan reol ‘N+3’ yr UE i ddwyn arian ymlaen i’r cyfnod cyllidebol nesaf – a dan amgylchiadau arferol ni fyddai hynny’n tanseilio cyllidebau dilynol.

Bil Amaeth y DU yn cael Cydsyniad Brenhinol ac yn agor y drws i effeithiau peryglus

Daeth y dadleuon am Fil Amaeth y DU i ben pan gafodd hwnnw Gydsyniad Brenhinol ar 11eg Tachwedd a dod yn Ddeddf Amaeth 2020, yn dilyn misoedd o drafodaethau a chwarae ‘ping pong’ rhwng Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.

Mae’r Ddeddf yn amlinellu sut y bydd cymorth i ffermwyr Lloegr yn cael ei ddarparu yn y dyfodol, wrth i’r DU ymadael â Pholisi Amaethyddol Cyffredin yr UE, yn ogystal â gosod y ddeddfwriaeth mewn perthynas ag ystod eang o faterion amaethyddol a gwledig sy’n berthnasol i Gymru a’r DU - gan gynnwys caniatáu pwerau dros dro i Weinidogion Cymru nes bod Bil Amaeth yn cael ei gyflwyno ar gyfer Cymru.

Serch cael y mwyaf o sylw mewn perthynas â diogelu safonau Prydain o ran diogelwch bwyd a lles anifeiliaid, cafodd gwelliant a gyflwynwyd yn gofyn bod mewnforion amaethyddol a bwyd ar ôl Brexit yn cwrdd â’r un safonau â rhai’r DU, ei drechu.

Er bod y dadleuon wedi dod i ben ar y Bil Amaeth, mi ellid cynnwys y mesurau diogelu cyfreithiol hyn fel rhan o’r Bil Masnach newydd, sy’n dal i wneud ei ffordd tuag at y cam adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Tŷ’r Arglwyddi’n trechu agweddau dadleuol Bil y Farchnad Fewnol

Yn gynharach eleni, anogodd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) Aelodau Senedd San Steffan i atal Llywodraeth y DU rhag cyflwyno newidiadau arfaethedig i Fil y Farchnad Fewnol, a fyddai’n mynd yn groes i’r Cytundeb Ymadael â’r UE ac yn torri cyfraith ryngwladol.

Heb newid cyfeiriad, byddai torri’r gyfraith ryngwladol yn golygu bod y DU yn yr un categori â gwledydd a ystyrir yn gyffredinol yn annibynadwy – rhwystr mawr yn y cyd-destun presennol wrth geisio negodi cytundebau masnach rhyngwladol newydd – er bod goblygiadau hyn wedi’u deall yn iawn ar y pryd ac wedi’u trafod yn ddiddiwedd ers cyn y refferendwm.

Pleidleisiodd Tŷ’r Arglwyddi ar adrannau dadleuol y Bil ar 9 Tachwedd. Cafodd y rhan o’r Bil a fyddai wedi caniatáu i Weinidogion dorri’r gyfraith ryngwladol, a’r cymal yn caniatáu i Weinidogion ddiystyru rhannau o Gytundeb Ymadael Brexit mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, eu trechu o 433 pleidlais i 165, ac o 407 i 148 yn y drefn honno, a chafodd adrannau eraill eu dileu heb bleidlais.

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad ar Symleiddio Cymorth Amaethyddol

Mae datganiad a wnaed gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffith, ar 16 Tachwedd ynghylch canlyniad ymgynghoriad diweddar ar symleiddio cymorth amaethyddol yng Nghymru, wedi cael croeso gofalus gan y diwydiant ffermio.

Roedd yr ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir: Symleiddio Cymorth Amaethyddol, a ddaeth i ben ar 23 Hydref 2020, yn cynnig un ar ddeg o newidiadau i’r Cynllun Taliadau Sylfaenol (BPS) a nifer o newidiadau mawr i egwyddorion creiddiol y Rhaglen Datblygu Gwledig.

Croesewir y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nifer o’r pryderon a godwyd gan y diwydiant, gan gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), yn nhermau’r effeithiau ar ffermwyr trawsffiniol a ffermwyr ifanc ymhlith pethau eraill.

Yn hytrach nag ystyried tir yng Nghymru’n unig ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), gan atal ffermwyr trawsffiniol gyda llai na 5 hectar cymwys yng Nghymru rhag hawlio’r taliad i bob pwrpas, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i lacio’r rheolau ar gyfer ffermwyr trawsffiniol, fel eu bod yn gallu dibynnu ar dir oedd ar gael ganddynt o fewn gweinyddiaethau eraill yn 2020.

Bil Amaeth y DU yn darparu mwy o eglurder o ran yr ardoll cig coch

Er bod gwelliant a gyflwynwyd yn gofyn bod mewnforion amaethyddol a bwyd ar ôl Brexit yn cwrdd â’r un safonau â rhai Prydain wedi’i drechu, mae Bil Amaeth y DU yn cynnwys rhai Cymalau arbennig a fydd yn fuddiol i Amaethyddiaeth Cymru a’r DU mewn ffyrdd gwahanol.

Nawr bod y Bil wedi cael Cydsyniad Brenhinol, bydd taliadau ardoll cig coch yn dod yn fwy clir, er mwyn rhoi ystyriaeth i’r drefn o ladd da byw Cymru yn Lloegr.

Mae 15 mlynedd wedi mynd heibio ers i FUW ddweud wrth Adolygiad Radcliffe o’r byrddau ardoll y dylai arian ardoll a delir gan ffermwyr Cymru am dda byw sy’n cael eu lladd yn Lloegr fod ar gael i HCC, nid AHDB erbyn hyn. Ers hynny mae’r colledion blynyddol o arian ardoll ‘Cymru’ i Loegr wedi cynyddu cannoedd o filoedd – yn bennaf o ganlyniad i gau Welsh Country Foods yn Gaerwen, ac anfon da byw i ladd-dai yn Lloegr. Bu’n nod hirdymor i bob un o’r tri bwrdd ardoll i gael mwy o reolaeth dros eu harian ardoll eu hunain, ar gyfer ymgyrchoedd domestig ac i’w fuddsoddi yn y diwydiant. Amcangyfrifir y bydd y symudiad hwn yn golygu bod dros £1 filiwn o arian lladd-dai Lloegr yn dod yn ôl i Gymru a’r Alban.

FUW yn rhoi croeso gofalus i brofion clafr am ddim yng Nghymru.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi rhoi croeso gofalus i’r newyddion bod y gwasanaeth archwilio samplau o grafiadau croen defaid sy’n dangos arwyddion clinigol amheus o’r clafr yn cael ei gynnig am ddim yng Nghymru gan APHA, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru tan 31 Mawrth 2021.

Bydd y cynllun yn helpu i sicrhau diagnosis cywir, sy’n rhagofyniad ar gyfer trin y clafr mewn ffordd briodol a llwyddiannus, sy’n flaenoriaeth i Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.

Ar ben hynny, bydd y cynllun hefyd yn annog ffermwyr defaid i weithio gyda’u milfeddygon i ddiogelu eu diadell rhag y clafr. Yn ogystal â diagnosis cywir er mwyn rheoli’r clefyd os yw’n bresennol, mae bioddiogelwch da ar gyfer y ddiadell yn hanfodol i’w gadw draw.

Crynodeb o newyddion Tachwedd 2020

i) Pymtheg o wledydd Asiaidd y Môr Tawel yn arwyddo cytundeb masnach rydd mwyaf y byd

Mae pymtheg o wledydd Asiaidd y Môr Tawel, gan gynnwys Seland Newydd a Tsieina, wedi arwyddo Cytundeb Partneriaeth Economaidd Gyfun Rhanbarthol (RCEP), sef cytundeb masnach rydd mwyaf y byd.

Y gred yw y bydd yn dod â $2 biliwn ychwanegol i Seland Newydd, ond mae ‘It’s Our Future’ o’r farn na fu unrhyw ymgynghori cyhoeddus effeithiol ar y cytundeb, ac yn ôl y modelau economaidd, ni fydd yn arwain at unrhyw fudd economaidd mawr.

ii) Llywodraeth Cymru’n rhyddhau’r ystadegau TB diweddaraf

Cafodd yr ystadegau TB diweddaraf eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru ar 17 Tachwedd. Roedd nifer y gwartheg a gafodd eu difa yn ystod y 12 mis hyd at Awst 2020 yn 10,462, i lawr 18%, ond o’r lefel uchaf erioed y flwyddyn flaenorol.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn cynnwys rhai canlyniadau addawol, ond nid yw’r cynnydd yn digwydd ar raddfa mor gyflym â rhai ardaloedd yn Lloegr, yn arbennig yr ardaloedd hynny lle mae moch daear yn cael eu difa, sydd wedi gweld gostyngiad yn y nifer o achosion, gymaint â 66% yn Swydd Gaerloyw, a 37% yng Ngwlad yr Haf.

iii) Prif Weithredwr Dros Dro newydd ar gyfer Gwlân Prydain

Wrth i Joe Farren roi’r gorau i fod yn Brif Weithredwr Gwlân Prydain, mae Andrew Hogley, a fu’n gweithio’n agos gyda Mr Farren dros y blynyddoedd diwethaf, wedi’i benodi i gymryd ei le.

Bydd Andrew Hogley, a raddiodd o Goleg y Drindod, Caergrawnt ac sydd wedi gweithio fel dadansoddwr ymchwil yn y gorffennol, yn cael ei ddyrchafu o’i rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Gwerthiant a Gwasanaethau Cynhyrchu Gwlân.

 

FUW yn annog aelodau i fanteisio ar brofion clafr am ddim

Mae FUW wedi rhoi croeso gofalus i’r newyddion bod y gwasanaeth archwilio samplau o grafiadau croen defaid sy’n dangos arwyddion clinigol amheus o’r clafr yn cael ei gynnig am ddim yng Nghymru gan APHA, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru tan 31 Mawrth 2021.

Bydd y cynllun yn helpu i sicrhau diagnosis cywir, sy’n rhagofyniad ar gyfer trin y clafr mewn ffordd briodol a llwyddiannus, sy’n flaenoriaeth i Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.

Ar ben hynny, bydd y cynllun hefyd yn annog ffermwyr defaid i weithio gyda’u milfeddygon i ddiogelu eu diadell rhag y clafr. Yn ogystal â diagnosis cywir er mwyn rheoli’r clefyd os yw’n bresennol, mae bioddiogelwch da ar gyfer y ddiadell yn hanfodol i’w gadw draw.

Mae’n siom mawr fod y rhaglen a gymeradwywyd gan y diwydiant i ddileu’r clafr, a oedd i dderbyn £5.1 miliwn fel rhan o’r Rhaglen Datblygu Gwledig y llynedd, wedi’i daflu o’r neilltu, serch bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £106 miliwn yn ddiweddar i nifer o brosiectau ‘blaenoriaeth’ eraill.

Mae FUW wedi gwneud hi’n glir i’r Gweinidog Lesley Griffiths, serch bod y dull newydd hwn yn mynd i’r afael â rhan fach o’r broblem - sef yr elfen brofi - bod angen i hynny ddigwydd ochr yn ochr â phrofion cyffiniol a thriniaeth gydlynus pan fydd y clefyd wedi’i gadarnhau ar fferm, fel y cynigiwyd gan Grŵp Dileu’r Clafr y diwydiant.

Serch hynny, mae FUW yn annog aelodau i fanteisio ar y profion am ddim hyn.

Seland Newydd yn mynegi pryder ynghylch cwotâu cig defaid yn y dyfodol

Mae Sefydliad Diwydiant Cig (MIA) Seland Newydd wedi mynegi pryderon ynghylch penderfyniadau i rannu ei gwota cig defaid rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd (UE) ar ddiwedd cyfnod pontio Brexit.

Mae allforwyr Seland Newydd yn paratoi ar gyfer y tarfu ar y fasnach, ar ffurf oedi a phrosesau newydd, wrth iddi ddod yn fwy a mwy tebygol y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb.

Mae’r DU a’r UE wedi cytuno rhyngddyn nhw i haneru cwota cig defaid Seland Newydd o 228,000 o dunelli rhwng y ddwy farchnad. Serch y cynnydd o ran allforion cig defaid i’r DU dros y misoedd diwethaf oherwydd y pandemig Covid-19, anaml iawn y mae Seland Newydd wedi cyflenwi’r cwota hwnnw, ac felly ni ddylai hyn gael effaith sylweddol ar y fasnach.

Fodd bynnag, fel rhan o’r cytundeb hwn, bydd cyfran y DU o gwota cig eidion Seland Newydd yn gyfanswm o tua 450 o dunelli, sef dyraniad ‘masnachol anymarferol‘ ac felly cwbl ddiwerth yn ôl Prif Weithredwr MIA, Sirma Karapeeva, o ystyried y bydd unrhyw allforion dros y cwota’n wynebu tariff o 12%.

Dywed y Weinyddiaeth Materion Tramor a Masnach eu bod am sicrhau bod y mynediad presennol i’r ddwy farchnad yn parhau o ddechrau 2021, am nad yw’r cynlluniau presennol yn caniatáu hyblygrwydd i allforwyr addasu i’r galw.

Ar nodyn tebyg, mae’r ail rownd o drafodaethau ar gyfer cytundeb masnach rydd rhwng y DU a Seland Newydd wedi’i chwblhau, ac mae trydedd rownd wedi’i threfnu tua diwedd Ionawr 2021, sef ar ôl i gyfnod pontio Brexit ddod i ben.

Cyhoeddi Parth Atal Cymru Gyfan i ddiogelu dofednod rhag Ffliw Adar

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Barth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan ar 11 Tachwedd, fel mesur rhagofalus i liniaru’r perygl o heintiad yn dilyn achosion diweddar yn Lloegr.

Am fod achosion o’r Ffliw Adar H5N8 hynod bathogenaidd wedi’u canfod ymhlith adar domestig ac adar gwyllt yn Lloegr, mae lefel y risg o du’r clefyd ymhlith adar gwyllt yn uchel erbyn hyn, ac mae’r risg o drosglwyddiad uniongyrchol ac anuniongyrchol i ddofednod wedi codi i lefel ganolig.

Mae’r parth atal yn gwneud hi‘n ofynnol bod unrhyw un sy’n cadw dofednod ac adar caeth eraill yn cymryd camau priodol ac ymarferol i gydymffurfio â mesurau bioddiogelwch uwch gorfodol, gan gynnwys:

  • Sicrhau nad yw’r ardaloedd lle cedwir yr adar yn denu adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod rhwydi dros byllau, a symud unrhyw ffynonellau o fwyd adar gwyllt;
  • Bwydo a dyfrio’ch adar mewn ardaloedd caeedig i gadw adar gwyllt allan;
  • Sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosib o’r ardaloedd lle cedwir yr adar;
  • Glanhau a diheintio esgidiau a chadw ardaloedd lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus;
  • Lleihau unrhyw halogiad presennol drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrid, a ffensio o amgylch ardaloedd gwlyb neu gorsiog.

DAFM yn cynnig cynlluniau ar gyfer profion TB llymach mewn buchesi risg uchel yn Iwerddon

Mae Adran Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Môr Llywodraeth Iwerddon (DAFM) wedi amlinellu cynlluniau i gyflwyno profion TB gorfodol ar gyfer gwartheg, 30 diwrnod cyn eu symud allan o fuchesi sydd â risg uchel o TB, yn ei dogfen ddrafft‚‘Ten Year Roadmap to Reduce bTB and Drive Towards Eradication 2020-2030’.

Mae’r cynllun yn awgrymu bod buchesi sydd wedi cael nifer o achosion yn y gorffennol yn wynebu risg uwch o gael y clefyd yn dychwelyd ar ôl cael prawf clir, a bydd DAFM yn darparu gwell cymorth i’r buchesi hyn, gan gynnwys cynllun rheoli TB sydd wedi’i deilwra ar gyfer pob buches unigol.

Bydd gwartheg sy’n cael canlyniad prawf croen amhendant yn cael prawf gwaed yn fuan wedyn, ac os ydy hwnnw’n glir cynhelir profion gwaed rheolaidd wedi hynny tra bod yr anifail yn rhan o’r fuches.

Mae ICSA (Sefydliad Ffermwyr Gwartheg a Defaid Iwerddon) yn cytuno bod angen gwell cymorth ar gyfer buchesi sydd â risg uwch o TB, ond mae wedi dweud, fodd bynnag, na fydd yn cytuno i unrhyw un o’r cynigion hyn nes bod yr holl faterion sy’n gysylltiedig â digolledu am TB, a mesurau bywyd gwyllt wedi cael sylw.

Bydd DAFM yn cynnal cyfarfodydd â Rhanddeiliaid ar y Fforwm TB i drafod y strategaeth ddrafft.

Sefydliad DPJ yn galw ar bawb sy’n gwau

Mae Sefydliad DPJ wedi lansio ymgyrch ‘gwau bobl ar gyfer y wobl’ sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth ac arian i gefnogi iechyd meddwl o fewn cymunedau ffermio yng Nghymru.

Profwyd eisoes bod nifer o fuddiannau corfforol a meddyliol yn gysylltiedig â gwau, gan gynnwys gostwng pwysedd gwaed a lleihau iselder. Y nod yw casglu 100 o hetiau ‘bobl‘ wedi’u gwau cyn diwedd y gaeaf, a fydd yna’n cael label Sefydliad DPJ wedi’i wnïo arnynt, a’u gwerthu i godi arian i’r elusen.

Gallwch ddilyn y ddolen yma i gael tiwtorial os nad ydych wedi gwau o’r blaen.

Os gwelwch yn dda, anfonwch eich het/hetiau wedi’u gwau i swyddfa Sefydliad DPJ: Swyddfa Gefn Llawr Gwaelod, 5 Stryd Dywyll, Hwlffordd, SA61 2DS.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Kate Miles, Rheolwr yr Elusen ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu 07984 169652.

 

Rhaid microsglodynnu ceffylau cyn 12 Chwefror 2021

Daeth y Rheoliadau Adnabod Ceffylau i rym yn Chwefror 2019, sy’n gosod y gofynion ar gyfer adnabod ceffylau, merlod, asynnod neu anifeiliaid tebyg drwy ficrosglodyn a phasbort cyn 12 Chwefror 2021.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at berchnogion ceffylau gyda hyn, gan amlinellu beth sydd angen ei wneud.

Gwnewch drefniadau gyda’ch milfeddyg i ficrosglodynnu eich anifeiliaid a diweddaru eu pasbortau gyda rhifau’r microsglodion.

Dylech hefyd gysylltu â’ch Corff Cyhoeddi Pasbortau lleol am fod angen digon o amser i brosesu a dychwelyd y pasbortau cyn y dyddiad cau.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Monitro ymwrthedd i wenwyn llygod yn arwain at alwad i weithredu

Yn ôl arolwg a gynhaliwyd yn 2019-2020 ar ymwrthedd i wenwyn llygod, roedd 74% o’r llygod mawr a ddadansoddwyd yn cario genyn ymwrthedd, ac o’r cyfanswm a astudiwyd, roedd gan un o bob pump ddau enyn ymwrthedd gwahanol, a hynny mewn lleoliadau gwasgaredig megis County Durham, Swydd Efrog, Manceinion a Glannau Myrswy.

Er na chanfuwyd unrhyw lygod mawr yng Nghymru oedd â genau ymwrthedd dwbl, mae astudiaethau blaenorol wedi canfod ymwrthedd sengl mewn rhannau o’r wlad.

Dyma’r tro cyntaf i ‘ymwrthedd hybrid’ gael ei ganfod ar raddfa sylweddol yn y DU o ganlyniad i ryngfridio ymhlith llygod mawr sy’n cario dau wahanol fath o enyn ymwrthedd.

Mae FUW yn annog rheolwyr plâu, ffermwyr a chiperiaid i gynyddu eu gwybodaeth, a gwneud penderfyniadau cyfrifol sy’n seiliedig ar ffeithiau ynghylch mesurau i reoli plâu, yn unol â Chod Ymarfer Gorau'r Ymgyrch Dros Ddefnydd Cyfrifol o Wenwyn Llygod: https://www.thinkwildlife.org/code-of-best-practice/

 

Gweminarau DEFRA ar allforio anifeiliaid byw a chynnyrch anifeiliaid ar gael ar-lein

Mae gweminarau DEFRA ar allforio anifeiliaid byw neu gynnyrch anifeiliaid o Brydain i’r UE, a Thystysgrifau Iechyd Allforio, ar gael i’w hail-wylio ar-lein erbyn hyn ar YouTube gan ddefnyddio’r dolenni canlynol:


Mae mwy o wybodaeth i’w gweld ar wefan DEFRA.

Cyswllt Ffermio’n cynnal Gweminarau yn lle digwyddiadau agored

Oherwydd pandemig Covid-19, mae Cyswllt Ffermio wedi gohirio pob digwyddiad agored hyd nes ceir rhybudd pellach. Yn lle hynny, byddant yn cynnal nifer o weminarau a gweithgareddau rhithwir am y tro.


Mae mwy o wybodaeth a rhestr lawn o ddigwyddiadau i'w gweld yma ar wefan Cyswllt Ffermio

 

Astudiaeth Ymchwil ar Gerbydau Pob Tirwedd (ATV)

Mae Ysgol Seicoleg Prifysgol Aberdeen yn gwahodd ffermwyr i gymryd rhan mewn astudiaeth arolwg sydd wedi’i gynllunio i archwilio barn ac agweddau tuag at yrru cerbydau ATV a gwisgo helmed.

Mae’r arolwg yn cynnwys cwestiynau am reoliadau cerbydau ATV, eich barn am ddiogelwch cerbydau o’r fath, a’r defnydd o gyfarpar diogelwch personol (PPE) megis helmedau, ac ni ddylai gymryd mwy nag 20 munud i’w gwblhau.

Mae croeso i unrhyw ffermwr, gweithiwr fferm neu gontractwr dros 18 oed sydd â phrofiad o ddefnyddio cerbydau ATV i ffermio i gymryd rhan.

I gwblhau’r arolwg a chael mwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Rhaglen Dyddiau Llun Ffermydd Monitro AHDB

Oherwydd y pandemig Covid-19 bydd cyfarfodydd fferm rhaglen Dyddiau Llun Ffermydd Monitro (‘Monitor Farm Mondays’) AHDB yn cael eu disodli â chyfres o weminarau wythnosol gyda ffermydd monitro, a fydd yn ymdrin ag amryw o bynciau gwahanol.

Bydd pob gweminar yn dechrau am 7pm ac yn para oddeutu awr, gyda sesiwn holi ac ateb i gloi.

Cliciwch ar y dolenni isod am fwy o wybodaeth ac i gofrestru am ddim.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Tachwedd 2020

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau

Grant Busnes i Ffermydd – Gorchuddion Iardiau

Nod y cynllun Grant Busnes Fferm – Gorchuddio Iardiau yw cynorthwyo ffermwyr i wella’u seilwaith presennol ar gyfer gorchuddio iardiau – gorchuddio ardaloedd bwydo, storfeydd slyri, storfeydd silwair ac ati – lle gellir gwahanu dŵr glaw.

Bydd dwy ffenestr i’r cynllun a chynigir cymorth o rhwng £3,000 a £12,000.

Gall Swyddogion Gweithredol Sirol FUW esbonio gofynion y cynllun i’r aelodau. Ni fydd staff FUW yn cael llenwi’r Datganiad o Ddiddordeb ar ran aelodau oherwydd y gofynion technegol.

Mae mwy o gwybodaeh ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru 

18 Rhagfyr 2020 (£1.5 miliwn)

Creu Coetir Glastir

Mae’r 10fed ffenestr Mynegi Diddordeb nawr ar agor ar gyfer cynllun Creu Coetir Glastir gyda chyllideb o £9 miliwn.

Mae’r cynllun yn darparu cymorth ariannol ar gyfer gwaith cyfalaf, gan gynnwys plannu, ffensio, ac mewn rhai amgylchiadau, cynnal a chadw blynyddol a thaliadau premiwm.


Rhaid ichi gysylltu â chynlluniwr cofrestredig i drafod eich cynigion a rhaid iddyn nhw gwblhau a chyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb ar eich rhan. Rhaid i’r tir dan sylw fod wedi’i gofrestru gyda System Adnabod Parseli Tir Taliadau Gwledig Cymru a bod yn gyfan gwbl dan eich rheolaeth chi.


Gweler yma am fwy o wybodaeth ac i fynegi diddordeb.

15 Ionawr 2021

FUW yn cynnal cynhadledd iechyd meddwl Cymru gyfan

Ar noswyl Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (Dydd Gwener, Hydref 9), cynhaliodd FUW gynhadledd Iechyd Meddwl Cymru Gyfan rithwir, a fu’n archwilio cyd-destun ehangach iechyd meddwl gwael o fewn cymunedau gwledig, a pha gamau sydd angen eu cymryd gan y Llywodraeth a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn llunio polisïau, i fynd i’r afael â’r sefyllfa, yn enwedig am fod Covid-19 yn debygol o roi pobl dan fwy o bwysau, yn feddyliol ac yn ariannol.

Cafodd y digwyddiad gefnogaeth hefyd gan Weinidog Yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, a’r ffermwr a hyrwyddwr iechyd meddwl o Seland Newydd, Doug Avery, drwy neges fideo.

Yn dilyn y Gynhadledd, mae FUW wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Eluned Morgan, yn amlinellu rhai o’r pwyntiau allweddol a godwyd yn ystod y gynhadledd.

Gwerthu mwyafrif cyfranddaliadau ASDA yn gyfle i gynnyrch Prydain

Mae’r brodyr Issa, sef y ddau filiwnydd o Swydd Gaerhirfryn sy’n berchen y grŵp gorsafoedd petrol European Garages (EG) a’r cwmni ecwiti preifat TDR Capital, wedi prynu’r prif gyfran, sef gwerth £6.8 biliwn, o randdaliadau ASDA, un o fanwerthwyr pennaf y DU.

Cafodd y cynnig gwreiddiol yn 2019 bod ASDA yn uno â Sainsbury’s ei daflu o’r neilltu gan reolydd cystadlu’r DU oherwydd y rheolau cystadlu, a’r posibilrwydd y gallai prisiau godi ac ansawdd y cynnyrch ddirywio.

Sefydliad DPJ yn cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl am ddim

Mae Sefydliad DPJ wedi trefnu sesiynau Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl newydd am ddim, i’w cyflenwi ar-lein trwy gydol mis Tachwedd. Mae’r hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn gan Gronfa Ymateb i Coronafeirws Cymru: Iechyd Meddwl, fel rhan o raglen sy’n anelu at helpu sefydliadau’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol i barhau i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig.

Mae’r hyfforddiant ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio/byw yn y sector amaethyddol neu’n gweithio’n uniongyrchol â ffermwyr yng Nghymru. Mi fydd yn apelio at ffermwyr, partneriaid ffermwyr, a’r rhai sy’n dod i gysylltiad â ffermwyr, megis milfeddygon, cynrychiolwyr cwmnïau bwyd anifeiliaid, gyrwyr tanceri, gwerthwyr, ac arolygwyr lles anifeiliaid.

Mynegi diddordeb mewn cyllid ar gyfer rheoli ymwrthedd i gyffuriau (AMR)

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi clustnodi £4 miliwn o gyllideb y Rhaglen Datblygu Gwledig ar gyfer rheoli ymwrthedd i gyffuriau (AMR) mewn anifeiliaid a’r amgylchedd.

Agorodd y ffenestr mynegi diddordeb ar 5ed Hydref ac mi fydd yn cau ar 16eg Tachwedd 2020. Gweler yma am fwy o wybodaeth ac i fynegi diddordeb.

Mae dull Llywodraeth Cymru o reoli ymwrthedd i gyffuriau yn cynnwys mabwysiadu’r egwyddor o atal yn hytrach na gwella, a rhaid i geisiadau am y cyllid hwn ddangos sut y byddant yn cyfrannu ar yr amcanion a osodwyd yn y Cynllun Gweithredu Pum Mlynedd.

Mae’r cyhoeddiad yn cyd-daro â’r adolygiad blynyddol cyntaf o waith Grŵp Cyflawni AMR Anifeiliaid a’r Amgylchedd.

Dim amser i’w golli wrth wynebu rhybudd i adael

Mae ffermwyr tenant yng Nghymru’n cael eu rhybuddio i weithredu’n gyflym os byddan nhw’n cael Rhybudd i Adael gan eu landlordiaid.

Daw’r rhybudd gan Eifion Bibby o Ymgynghorwyr Eiddo Davis Meade, a fu’n cynghori aelodau FUW sydd wedi derbyn gohebiaeth o’r fath.

Mae’n hanfodol bod tenantaid yn gofyn cyngor ar unwaith os byddant yn derbyn rhybudd i adael, am mai dim ond hyn a hyn o amser sydd ar gael – dim ond mis weithiau, er enghraifft – i weithredu, megis drwy gyflwyno gwrth-rybudd, lle bo’n briodol.

Mae amgylchiadau wedi codi lle mae tenantiaid wedi colli eu hawliau tenantiaeth yn ddiangen drwy beidio â gweithredu’n ddigon cyflym.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Eifion Bibby yn swyddfa Bae Colwyn yr Ymgynghorwyr Eiddo Davis Meade ar 01492 510360, ebost This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Logos newydd ar gyfer cynnyrch bwyd gwarchodedig

Bydd cynnyrch bwyd gyda statws Enw Bwyd Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd (EUPFN) yn cael logos newydd o 1af Ionawr 2021 dan statws Dynodiad Daearyddol DU newydd.

Ar hyn o bryd mae gan Gymru 16 o gynhyrchion bwyd a diod sydd â statws EUPFN, gan gynnwys Caws Caerffili a Chig Oen Cymru, sy’n cael eu cydnabod am eu nodweddion unigryw gan ddefnyddwyr ar draws y byd.

Mae gan y DU dri logo Dynodiad Daearyddol, sy’n nodi pob categori o Ddynodiad Daearyddol, sef: Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO); Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (GPI); a Gwarant Arbenigedd Traddodiadol (TSG).

Bydd gan gynhyrchwyr cofrestredig y cynnyrch Dynodiad Daearyddol hwn hyd at 1af Ionawr 2024 i newid eu pecynnu i gynnwys logos Dynodiad Daearyddol newydd y DU.

Grantiau ar gael gan Gronfa Cefn Gwlad y Tywysog ar gyfer prosiectau cymunedol gwledig

Ar draws y DU, gall prosiectau sy’n gweithio tuag at greu cymunedau gwledig cydnerth wneud cais nawr am grant gwerth hyd at £10,000 o Gronfa Cefn Gwlad y Tywysog.

Ers ei sefydlu yn 2010, mae’r Gronfa wedi rhoi dros £10 miliwn o arian grant i dros 350 o brosiectau, gan gynnwys gwerth £120,000 o grantiau i 62 o gymunedau gwledig i daclo effeithiau pandemig Covid-19. Mae prosiectau a ariannwyd yn flaenorol i’w gweld yma.

Gellir gwneud cais drwy lenwi holiadur cymhwysedd byr a ffurflen gais yma: https://www.princescountrysidefund.org.uk/grant-giving-programme/grant-programme

Bydd ceisiadau’n cau ar 3ydd Tachwedd 2020 am hanner dydd, a rhaid i’r prosiectau gael eu cwblhau erbyn 31ain Mawrth 2022.

Barclays yn cynnig £250 miliwn i helpu ffermwyr i ddod yn fwy effeithlon

Mae Barclays wedi ymuno â Nigel Owens MBE i lansio ymgyrch newydd, i godi ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr o fuddiannau cefnogi ffermwyr i ddod yn garbon sero-net, i gyd-fynd â phecyn gwerth £250 miliwn i gefnogi atebion amaethyddol-dechnolegol.

Fel rhan o’u hymrwymiad i gynorthwyo ffermwyr i fuddsoddi mewn prosiectau amaethyddol-dechnolegol, mae Barclays yn hyfforddi pob un o’u 130 o reolwyr amaeth ar draws y DU ym maes cynaliadwyedd a pholisïau amaeth y dyfodol.

I gael cymorth a benthyciad o’r pot ariannol o £250 miliwn, rhaid i’r busnes fferm ddangos y bydd y prosiect dan sylw’n cynyddu effeithlonrwydd a chynaliadwyedd drwy ddefnyddio technoleg, gwybodaeth neu seilwaith gwell, megis prosiectau sy’n ymwneud ag atafael carbon, asesu carbon neu iechyd pridd.

Am fwy o wybodaeth a meini prawf cymhwysedd, cliciwch yma

Gair i’ch Atgoffa o gyfradd gyfnewid y BPS ar gyfer taliadau 2020

I’ch atgoffa, bydd Taliadau Sylfaenol 2020 yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio’r un gyfradd gyfnewid â’r un a ddefnyddiwyd yn 2019, sef €1 = £0.89092 – ac fe’u telir mewn sterling yn unig.

Yn y blynyddoedd blaenorol, mae’r UE wedi defnyddio’r Mecanwaith Disgyblu Ariannol (FDM) i helpu i reoli cyllideb y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC). Yn 2019, roedd hynny’n golygu gostyngiad o 1.43 y cant ar bob taliad. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn berthnasol yn 2020.

Bydd cyfraddau terfynol taliadau 2020 ar gael ym mis Tachwedd, unwaith bod cyfanswm nifer y taliadau a hawliwyd wedi’i bennu.

Gweminarau Llywodraeth Cymru ar gyfer allforwyr ar gael i’w gwylio

Mae Tîm Allforio Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu set o weminarau gyda’r nod o gynorthwyo allforwyr Cymru i baratoi ar gyfer 1af Ionawr.

Mae’r pedwar pwnc allweddol yn cynnwys:

  • Brexit – Deall Rheolau Tarddiad
  • Brexit – Gweithio gydag asiantau a dosbarthwyr
  • Brexit – Eich allforion a Chytundebau Masnach Rydd, beth nesaf?
  • Datganiadau Tollau, ar ôl Brexit

Ceir mwy o wybodaeth am y pynciau hyn yma

Mae’r gweminarau hyn ar gael drwy Barth Allforio Busnes Cymru neu drwy Sianel YouTube Busnes Cymru.

AHDB yn cynnal cyfres o weminarau ar y newid yn agweddau defnyddwyr

Mae Tîm Manwerthu ac Arferion Defnyddwyr AHDB yn cynnal cyfres o weminarau rhwng 10fed a 12fed Tachwedd, sy’n canolbwyntio ar y newid yn agweddau defnyddwyr tuag at faterion allweddol y diwydiant yn ystod pandemig Covid-19, a sut y disgwylir i’w hymddygiad newid yn y misoedd sydd i ddod.

Bydd y cyflwynydd Steven Evans yn cael cwmni arbenigwyr o sectorau llaeth, cynnyrch ffres a chig coch AHDB, a fydd yn adolygu enw da’r diwydiant o ran prynu’n lleol, yr amgylchedd, iechyd a lles anifeiliaid, a sut mae’n effeithio ar y galw o du defnyddwyr ar draws pob sector.

Bydd Liam Bryne, Pennaeth Marchnata Domestig AHDB hefyd yn adolygu’r cyfleoedd a’r bygythiadau posib sydd ar y gorwel, o ganlyniad i’r newid mewn agweddau dros y misoedd diwethaf.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan AHDB yma.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Hydref 2020

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau
Cynllun cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol BPS 2020 

Bydd y cynllun yn talu benthyciad o hyd at 90% o’r hyn a ragwelir yw gwerth hawliad BPS busnes unigol o 7 Rhagfyr i hawlwyr llwyddiannus nad yw eu hawliad BPS llawn wedi’i brosesu.

Bydd RPW yn sicrhau bod hawlwyr sydd wedi’u gwrthod trwy geisiadau’r cynllun cymorth yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer prosesu er mwyn naill ai derbyn taliad llawn neu gefnogaeth cyn gynted â phosib.

Mae FUW yn annog Aelodau i wneud cais i’r cynllun cymorth ac i gysylltu â’u Staff yn y Siroedd os oes angen cymorth.

27 Tachwedd 2020

Optio i mewn trwy RPW Ar-lein

Grant Busnes i Ffermydd – Gorchuddion Iardiau

Nod y cynllun Grant Busnes Fferm – Gorchuddio Iardiau yw cynorthwyo ffermwyr i wella’u seilwaith presennol ar gyfer gorchuddio iardiau – gorchuddio ardaloedd bwydo, storfeydd slyri, storfeydd silwair ac ati – lle gellir gwahanu dŵr glaw.

Bydd dwy ffenestr i’r cynllun a chynigir cymorth o rhwng £3,000 a £12,000.

Gall Swyddogion Gweithredol Sirol FUW esbonio gofynion y cynllun i’r aelodau. Ni fydd staff FUW yn cael llenwi’r Datganiad o Ddiddordeb ar ran aelodau oherwydd y gofynion technegol.

Bydd gwybodaeh a chanllawiau pellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru cyn 9 Tachwedd.

Hefyd, bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal gweminar ar 4 Tachwedd. Mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw, ond nid yw’n ofynnol ar gyfer gwneud cais am y grant.

9 Tachwedd - 18 Rhagfyr 2020 (£1.5 miliwn)

Cyswllt Ffermio:
Rhagori ar Bori

Mae rhaglen Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio yn cael ei hariannu’n llawn, a bydd yn cynnwys lefel mynediad, canolradd ac uwch ar gyfer y rhai sydd am ddysgu mwy am dechnegau tir glas gwahanol.
I fynegi diddordeb ac i gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.

26 Tachwedd
2020

Cyhoeddiad Cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig yn codi pryderon am flaenoriaethau’r dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi manylion am flaenoriaethau cyllid y CDG buddsoddiad o £106 miliwn am y tair blynedd nesaf.

Caiff y cynlluniau eu hariannu drwy gyfuniad o Gynllun Datblygu Gwledig (CDG) yr UE cyllideb 2014-20 – yn cynnwys y 15% a drosglwyddwyd o’r Taliadau Sylfaenol i ffermwyr – ac o gronfeydd Llywodraeth Cymru ei hun.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd cynlluniau allweddol sy’n sail i economi wledig, bioamrywiaeth a blaenoriaethau amgylcheddol Cymru yn cael cymorth pellach, yn ogystal â chynlluniau newydd a gynlluniwyd mewn ymateb i heriau cyfredol a rhai sydd ar ddod. Bydd cyfran o’r gyllideb hefyd yn mynd tuag at reolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol Cymru.

Bydd blaenoriaethau Llywodraeth Cymru’n cynnwys:

Gweminar UAC: Defnydd tir, cadwraeth a gwaredu diwylliannol – gwersi i Gymru a’r DU o wahanol rannau’r byd

Am fwy na phum degawd mae'r elusen Survival International wedi gweithio gyda phobloedd lwythol a brodorol ledled y byd i'w hamddiffyn rhag hiliaeth, dwyn tir, datblygu gorfodol a thrais hil-leiddiol - yn aml gan grwpiau cadwraeth neu lywodraethau fel y'u gelwir sy’n gweithredu newidiadau defnydd tir ysgubol.


Mae Cyfarwyddwr y sefydliad Stephen Corry a Swyddog Ymchwil ac Adfocatiaeth Fiore Longo yn ymuno â siaradwyr o Gymru a Cymbria i ystyried sut y gall polisïau defnydd tir a chadwraeth ddod yn orchudd i wladychiaeth a gorthrwm poblogaethau lleol - a pham na ddylem ystyried hyn fel mater ar gyfer De’r Byd yn unig- a elwid unwaith yn “Fyd sy’n Datblygu”.

“Mae grwpiau cadwraeth bellach yn galw’n agored am i ddarnau enfawr o dir gael eu ‘gwarchod’ rhag ‘ymyrraeth ddynol’ (ac eithrio rhai nhw), heb ystyried sut mae defnyddwyr tir traddodiadol wedi llunio tirweddau ers nifer o genedlaethau - er budd goroesiad dynol a bioamrywiaeth."


“Maent am roi diwedd ar hunangynhaliaeth miliynau o bobl a’u gwthio oddi ar y tir ac i ddibynnu ar fwyd a ffermir neu a gynhyrchir mewn ffatri. Bydd hyn yn drychineb i bobl a'r blaned.”

             Stephen Corry, Cyfarwyddwr, Survival International

 

Dylai’r rheini sydd â diddordeb mewn ymuno â’r weminar gysylltu â Swyddog Cyfathrebu Polisi FUW trwy anfon ebost This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ffonio 07872 903641.

FUW i gynnal Cynhadledd rithwir Iechyd Meddwl i Gymru Gyfan

Yn anffodus mae iechyd meddwl gwael a hunanladdiad mewn cymunedau gwledig a ffermio yn broblem gynyddol ac yn un y mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hi.

Gan agosáu at y bedwaredd flwyddyn o godi ymwybyddiaeth a gwneud popeth o fewn gallu i dorri’r stigma, mae’r Undeb yn cynnal Cynhadledd rithwir Iechyd Meddwl i Gymru Gyfan ddydd Gwener 9 Hydref 2020 trwy Zoom, cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Mae FUW yn deall y gall problemau iechyd meddwl effeithio ar allu unigolyn i brosesu gwybodaeth a datrys problemau, sugno eu hegni a’u cymhelliant, a chynyddu ymddygiad byrbwyll. Tra bod y symptomau’n cael eu trin, yn aml iawn, nid yw achosion sylfaenol y materion hyn yn cael sylw.

Bydd y gynhadledd hon yn mynd y tu hwnt i’r pwyntiau trafod arferol ac yn archwilio’r pwnc ymhellach. Mae’n ddigwyddiad agored ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl ymuno â ni, yn rhithwir, ar y diwrnod.

Diweddariad Llywodraeth Cymru ar y darlun TB mewn Ardaloedd TB Isel yng Ngogledd Cymru

Mae Tîm TB Llywodraeth Cymru wedi darparu diweddariad ar yr haint yn ardal TB Isel yng Ngogledd Cymru yn dilyn achosion diweddar o’r haint yno.

Mae tystiolaeth epidemigol yn dangos mai gwartheg a brynwyd i mewn oedd ffynhonnell yr achosion newydd hyn yn yr ardal TB Isel o Gymru.

Mae Profion Cyn ac Ar ôl symud yn lleihau risg, ond eto’n nid yw’n gwaredu’r risg yn llwyr oherwydd gall gwartheg gael eu heintio wedi iddynt gael eu profi cyn iddynt gael eu symud, neu o bosib eu bod yn y camau cyntaf o’r haint pan gynhaliwyd y prawf ac felly roedd yn rhy gynnar i fedru darganfod yr haint.

Dywedodd Llywodraeth Cymru yn yr hirdymor, dim ond system orfodol fydd yn sicrhau bod gwerthwyr gwartheg yn datgelu hanes unrhyw glefyd mewn buches ar yr adeg y mae’r gwartheg yn cael eu gwerthu.

Ystadegau Ardal TB Isel

Nifer yr achosion

Cafwyd 27 o achosion erbyn diwedd Mawrth 2020, sef y nifer uchaf o achosion ers Chwarter 2 2011. Fodd bynnag, dim ond 1% o’r buchesi yn yr Ardal TB Isel yw hyn, gyda’r 99% arall yn rhydd o TB ar ddiwedd Mawrth 2020. Dywed Llywodraeth Cymru y gellir priodoli o leiaf 70% o’r achosion agored yn yr Ardal TB Isel ar ddiwedd Mawrth 2020 i symud gwartheg. Nid yw hyn yn golygu bod y 30% sy’n weddill o’r rheini sydd ag achos o TB heb ddod o wartheg a brynwyd ond o bosib wedi dod i gysylltiad â’r clefyd mewn rhyw ffordd arall.

Achosion newydd

Cafwyd 17 o achosion newydd o TB mewn Ardal TB Isel ar ddiwedd Mawrth 2020, sef y nifer uchaf o achosion ers Chwarter 1 2016. Fodd bynnag, mae rhywfaint o ansicrwydd gyda’r niferoedd bach a welwyd yn yr Ardal TB Isel ac mae’n parhau i fod yn isel o gymharu â nifer y profion buches sy’n Swyddogol Heb TB (OTF). Yn ystod y chwarter hwn roedd 1.7 achos newydd fesul 100 o brofion buches OTF, sy’n parhau i fod yr isaf yng Nghymru.

Roedd ffynhonnell y gwartheg a brynwyd yn amrywio rhwng daliadau. Fe wnaeth tua dwy ran o dair o’r daliadau brynu gwartheg o ardaloedd TB uchel sydd â mwy o achosion gyda bron i bumed rhan o’r daliadau yn prynu mwy na hanner eu gwartheg o ardaloedd TB uchel.

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn chwilio am gyfraniad ffermwyr ifanc i Weledigaeth Wledig i Gymru

Mae'r Gymdeithas Lywodraeth Lleol yn galw ar bobl ifanc rhwng 16-30 oed, o gefn gwlad Cymru, i rannu eu barn ar eu dyfodol, fel rhan o’n gwaith i ddatblygu Weledigaeth i Gymru Wledig.

Mae Fforwm Wledig y Gymdeithas Lywodraeth Lleol yn gweithio ar y cyd gyda Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu Bargen Wledig, drwy ddatblygu Weledigaeth a sicrhau’r adnoddau i’w wireddu. Mae'r Gymdeithas Lywodraeth Lleol yn awyddus i glywed eich barn chi er mwyn llunio’n gwaith.

Bydd yr hyn sy’n cael ei drafod yn y digwyddiad yn cael ei adrodd yn ôl i Arweinwyr Llywodraeth Leol yn ardaloedd Wledig Cymru, y bobl sy’n gyfrifol dros benderfyniadau i ymwneud â chaniatad cynllunio, addysg, a gwasanaethau cyhoeddus yn eich ardal chi.

Wrth ymuno yn y sgwrs, byddwch hefyd yn rhan o waith ymchwil dros Ewrop sy’n asesu’r cysylltiadau rhwng ardaloedd gwledig a threfol, sef prosiect ROBUST.

Cofrestrwch i leisio’ch barn ar y 14ed Hydref rhwng 18:30-20:30 ar Zoom, fan hyn- https://bit.ly/2G5MiuC.

 

 

Cyngor SCOPS i ddefnyddio dau grŵp lladd llyngyr mwy newydd

Mewn cydweithrediad â Elanco Animal Health, mae rhanddeiliaid yn y diwydiant defaid yn cynnwys y National Sheep Association (NSA) yn annog ffermwyr defaid i ystyried cyngor gan y grŵp (SCOPS) Rheoli Parasitiaid ar Ddefaid mewn Ffordd Gynaliadwy, ac i ddefnyddio dau grŵp lladd llyngyr mwy newydd.

Trwy ddefnyddio triniaethau llyngyr 4-AD oren a 5-SI porffor ceir gwared o’r llyngyr sydd wedi cronni a goroesi triniaethau blaenorol gan arafu’r broses o ddatblygu ymwrthedd i’r grwpiau eraill o driniaethau llyngyr. Gellir eu defnyddio fel triniaethau cwarantin ar gyfer defaid sy’n dod i mewn a hefyd fel triniaeth sengl ar gyfer ŵyn tua diwedd y tymor pori ac yn dilyn cyfrif wyau os oes angen. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma.

Er mwyn lleihau’r risg o ymwrthedd i’r grwpiau newydd hyn o driniaethau lladd llyngyr, dylid trin ŵyn sy’n sefyll ar y fferm a’u dychwelyd i’r un caeau am 5 niwrnod cyn eu symud i dir pori glanach. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma.

Am ragor o wybodaeth am reoli parasitiaid yn gynaliadwy, ewch i wefan SCOPS.

Storfa Sgiliau Cyswllt Ffermio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Mae LANTRA wedi cefnogi Cyswllt Ffermio i ddatblygu offeryn storio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gadw cofnod o wybodaeth a gweithgarwch hyfforddi a ymgymerwyd gan unigolion sydd wedi cofrestru ar y rhaglen bresennol.

Gall defnyddwyr:

  • Adolygu eu tystysgrifau hyfforddi
  • Weld cofnod presenoldeb mewn digwyddiadau Cyswllt Ffermio a digwyddiadau eraill lle y trosglwyddir gwybodaeth
  • Rhestr o ysgoloriaethau, teithiau astudio a mentrau datblygu personol eraill a gymerwyd rhan ynddynt
  • Manylion profiad gwaith a’r sgiliau a ddatblygwyd
  • Lawrlwytho adroddiadau y gellir eu hargraffu fel tystiolaeth ar gyfer Cynlluniau
  • Gwarant Fferm ac archwiliadau Cadwyni Cyflenwi yn ogystal â chywain tystiolaeth o sgiliau a chymwyseddau mewn un man
  • Cefnogi datblygiad proffesiynol

Er mwyn cael mynediad i Storfa Sgiliau, rhaid i chi yn gyntaf gofrestru gyda Cyswllt Ffermio, a mynd i’r cyfrif BOSS trwy Sign on Cymru.

I gael gwybod sut mae cadw a diweddaru eich holl gofnodion perthnasol ewch i Cyswllt Ffermio.

 

FUW i gefnogi arolwg newydd yn galw ar ieuenctid Cymru i godi eu lleisiau gwledig

Lansiwyd arolwg newydd sy’n gobeithio deall yn well anghenion a dyheadau pobl ifanc sy’n byw yn ardaloedd gwledig Cymru.

Gwahoddir unrhyw un rhwng 16-28 oed sy’n byw, gweithio neu’n astudio yn ardaloedd gwledig Cymru i gwblhau’r arolwg, fydd yn cymryd tua 20 munud.

Mae’r arolwg dwyieithog ar gael yma a bydd yn cau 23ain Hydref 2020. Os oes gennych chi gwestiynau, neu os hoffech ddysgu mwy am y prosiect hwn, cysylltwch â Ffion Jones ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..