Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n cydnabod pa mor bwysig yw hi fod pob un sector - gan gynnwys amaethyddiaeth - yn chwarae ei ran i daclo’r newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, roedd hi’n frawychus darllen yr argymhellion diweddaraf a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ar gyfer gostwng allyriadau Cymru rhwng nawr a 2050 gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd.
Dan ofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’r Pwyllgor wedi cynhyrchu dau adroddiad yn ddiweddar, sef Adroddiad Cynghori: Y llwybr tuag at Gymru Sero Net, ac Adroddiad Cynnydd: lleihau allyriadau yng Nghymru, gan ddarparu Gweinidogion â chyngor ar dargedau hinsawdd Cymru.
Mae’r rhain yn cynnwys cynigion i ‘drawsnewid tir’ gan blannu 43,000 hectar o goetir cymysg erbyn 2030, a chyfanswm o 180,000 hectar erbyn 2050. Byddai hyn, ochr yn ochr â gadael 27,000 hectar o dir agored heb ei blannu i hyrwyddo bioamrywiaeth, a neilltuo 56,000 hectar o dir amaethyddol i gynhyrchu bio-ynni erbyn 2050 yn golygu ein bod yn colli 263,000 hectar, sef 17.5% o’n tir amaethyddol. O ystyried y nifer o ganlyniadau negyddol anfwriadol sy’n gysylltiedig â chreu coetiroedd, a’r ffaith bod Gwerth Ychwanegol Gros coedwigaeth a gwaith coed oddeutu £300 miliwn yn llai nag un amaethyddiaeth yng Nghymru, dylid gwneud pob ymdrech i lwyr ddeall effeithiau cynigion o’r fath, i sicrhau nad yw bywoliaethau, diwylliant, cynhyrchu bwyd a busnesau fferm yn cael eu tanseilio.
Yn ogystal, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn awgrymu “y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau cost isel, gofid isel, i annog symudiad i ffwrdd o gig a chynnyrch llaeth”, er gwaethaf gwaith diweddar gan FUW a chynrychiolwyr y diwydiant yn hyrwyddo buddiannau iechyd niferus bwyta cig coch a chynnyrch llaeth. Mae Cymru mewn sefyllfa dda i gynhyrchu cig oen, cig eidion a chynnyrch llaeth o fewn rhai o’r systemau mwyaf cynaliadwy yn y byd, ac fel yr amlinellir yn nogfen ddiweddar Cig Cymru ‘Y Ffordd Gymreig’, gall cig coch sydd wedi’i ffermio’n gyfrifol yng Nghymru gael yr effaith lleiaf posib ar gynhesu byd-eang, a gall weithredu fel dalfa garbon, drwy reoli’r tir yn ofalus. Felly, dylai’r Pwyllgor ganolbwyntio ar fesurau i wella effeithlonrwydd dulliau cynhyrchu amaethyddol, er mwyn galluogi’r diwydiant i fabwysiadu dulliau arloesol o gynhyrchu’r un maint o fwyd neu ragor gyda llai o fewnbynnau, yn hytrach na chynigion a fyddai’n anorfod yn golygu bod ein bwyd yn cael ei gynhyrchu dramor.
Mae FUW o’r farn bod y cyngor a roir gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn hynod o annoeth ac nid yw’n rhoi ystyriaeth i’r darlun cyfan. Os caiff ffermwyr y gefnogaeth briodol o fewn y system ffermio, gall diwydiant amaethyddol ffyniannus, gyda phobl sy’n deall egwyddorion rheoli tir, gael canlyniadau positif o ran y newid yn yr hinsawdd.