Arolygon a holiaduron Ionawr 2021

i) Arolwg ar y Ddeddfwriaeth Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru

Mae’r Panel Annibynnol Adborth Amaethyddiaeth yn cynghori Gweinidogion Cymru ar yr isafswm cyflog amaethyddol a thelerau ac amodau cyflogaeth gweithwyr yn y sectorau amaeth, garddwriaeth a choedwigaeth.

Mae’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yn ei bumed flwyddyn ac mae’n bwysig sicrhau ei fod yn parhau i gwrdd ag anghenion diwydiant sy’n esblygu. Felly, comisiynodd Llywodraeth Cymru ADAS i gynnal arolwg ar gyflogaeth amaethyddol yng Nghymru.

Mae eich barn a’ch profiadau fel cyflogwr a gweithiwr yn bwysig i ddylanwadu ar waith y Panel Cynghori ac ar ddatblygiad polisïau Llywodraeth Cymru.

Gallwch gwblhau’r arolwg ar-lein drwy’r ddolen yma.

Neu dilynwch y ddolen i drefnu apwyntiad a chwblhau cyfweliad dros y ffôn gydag ADAS. Bydd yr arolwg yn cau ar y 31ain o Ionawr 2021.

Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei rhannu efo Llywodraeth Cymru nac unrhyw barti arall. Caiff data cyfanredol ei roi i Lywodraeth Cymru a’r Panel Adborth Amaethyddiaeth i ddylanwadu ar eu gwaith.

 

ii) Prosiect ymchwil Prifysgol Aberystwyth ar drosglwyddiad Neospora caninum drwy faw cŵn.

Mae neosborosis yn glefyd difrifol a achosir gan y parasit protosoaidd Neospora caninum, clefyd heintus sy’n un o achosion mwyaf cyffredin erthyliad ymhlith gwartheg ledled y byd. Profwyd bod cŵn domestig yn gyfranwyr allweddol i epidemioleg Neosborosis, am eu bod yn gollwng oocystau yn eu baw, sy’n hanfodol i ledaenu’r clefyd.

Mae prosiect ar droed gan Brifysgol Aberystwyth sy’n archwilio heintiad N. caninum. Fel rhan o’r ymchwil hwn bydd maint yr oocystau N. caninum mewn baw cŵn yn cael ei archwilio ar lwybrau cyhoeddus ar draws Cymru. Maent yn chwilio am ffermydd sy’n barod i gymryd rhan yn y prosiect hwn, a allai helpu i nodi’r rhanbarthau sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ran y clefyd, ac am ffermydd gwartheg sydd â llwybr troed yn rhedeg ochr yn ochr neu drwy’r fferm, ac sydd â hanes o broblemau gyda baw cŵn. Mae ganddynt ddiddordeb mewn ffermydd sydd â hanes o Neosborosis, yn ogystal â rhai sydd ddim yn ystyried Neosborosis yn broblem. Maent hefyd am gynnal arolwg o gŵn fferm ar ffermydd penodol.

Bydd yr ymchwil hwn yn rhoi cyfle i Brifysgol Aberystwyth i wella dealltwriaeth o glefyd sy’n achosi colledion economaidd enfawr i ffermwyr. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan ac am gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.; bydd unrhyw wybodaeth a roir gennych yn ystod y prosiect hwn yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol a bydd yr holl data’n cael ei grynhoi fel na fydd modd adnabod ffermydd unigol.

 

iii) ‘Yr Arolwg Ffermio Mawr’ – RABI i daflu goleuni ar y materion sy’n effeithio ar bobl sy’n ffermio

Ar 11 Ionawr 2021, lansiodd RABI y prosiect ymchwil mwyaf erioed ar draws Cymru a Lloegr yn ymwneud â llesiant pobl sy’n ffermio. Bydd yr arolwg eang ei gwmpas hwn yn ystyried y berthynas rhwng iechyd corfforol, lles meddyliol ac iechyd busnesau ffermio am y tro cyntaf.

Wrth i’r pwysau allanol gynyddu, bydd yr ymchwil hanfodol hwn yn darparu’r trosolwg mwyaf cynhwysfawr erioed o’r gymuned ffermio. Bydd yn nodi’r heriau penodol a wynebir gan genhedlaeth o bobl sy’n ffermio, ac yn amlygu sut mae’r rhain yn effeithio ar fywyd bob dydd.

Mae FUW yn cefnogi’r fenter bwysig hon ac yn annog pawb i gyfrannu at yr ymchwil er mwyn cyrraedd y targed o gasglu 26,000 o ymatebion i’r arolwg.

Nodau’r #BigFarmingSurvey (#ArolwgFfermioMawr)

  • Deall llesiant cenhedlaeth sy’n ffermio
  • Deall iechyd ein ffermwyr a’u busnesau
  • Ennill dealltwriaeth o bwysau ac effeithiau allanol
  • Llunio cymorth a gwasanaethau yn y dyfodol

Pwy all gymryd rhan: Ffermwyr, gweithwyr fferm, eu cymheiriaid, a phlant sy’n
oedolion
Pryd: 11 Ionawr - 31 Mawrth 2021
Ar-lein: http://ex.ac.uk/BigFarmingSurvey
Print: Gofynnwch am gopi printiedig gan This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Neilltuwch 15 munud i gymryd rhan drwy ymateb i’r arolwg printiedig neu drwy lenwi ein ffurflen ar-lein yn Gymraeg neu Saesneg.


iv) Arolwg BeefQ o’r farn ar ansawdd bwyta cig eidion

Mae prosiect ansawdd bwyta cig eidion BeefQ yn dechrau ar ei gyfnod ymgynghori, a bydd yn lansio arolwg ar 25ain Ionawr, i gael gwell dealltwriaeth o farn bresennol y diwydiant cig eidion ehangach ar ansawdd bwyta cig eidion, a’r awydd i droi o’r dulliau presennol o werthuso cig eidion i un sy’n seiliedig ar broffwydo’r ansawdd bwyta, sut y gellir gwneud hynny’n ymarferol, a’r rhwystrau rhag gwneud hynny.

I gyd-fynd â’r arolwg, bydd BeefQ yn cynnal dwy weminar ar wahân:

  • Dydd Llun 25ain Ionawr am 7.30pm ar gyfer diwydiant bwyd cig eidion Cymru (ID ZOOM y Weminar – 983 0239 8129/Cod Cyfrin y Weminar 342227)
  • Dydd Mercher 27ain Ionawr am 7.30pm ar gyfer diwydiant ffermio cig eidion Cymru (ID ZOOM y Weminar – 994 4263 4872/Cod Cyfrin y Weminar 782052)

Bydd y gweminarau’n gyfle i ddysgu am waith BeefQ hyd yma, i ystyried effeithiau a heriau rhoi system proffwydo ansawdd bwyta cig eidion ar waith, ac yna sesiwn holi ac ateb.

Bydd yr arolwg ar-lein yn fyw ar wefan BeefQ hyd ddiwedd Mawrth 2021: http://www.beefq.wales/index.html


v) Gwarchod y Gylfinir yng Nghymru – cyfle i ddweud eich dweud

Mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt (GWCT) wedi cynnal arolwg i gasglu barn ar bwysigrwydd gwarchod y Gylfinir yng Nghymru.

Credir bod poblogaeth y Gylfinir wedi gostwng erbyn hyn i oddeutu 400 o barau, ac mi allai ddiflannu fel poblogaeth fagu yng Nghymru erbyn 2033.

Defnyddir yr ymatebion i’r arolwg i ddangos i Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru sut mae unigolion yn credu y dylid rheoli a gwarchod y Gylfinir.

Mae’r arolwg ar gael yma ac mae’n cau ar 12fed Chwefror.


vi) Cyfle i ddweud eich dweud yn Arolwg BVD Cenedlaethol 2021

Mae’r chweched Arolwg BVD Cenedlaethol yn fyw erbyn hyn. Ers iddo ddechrau, mae cynlluniau gwaredu BVD wedi’u cyflwyno ym mhob rhan o’r DU ac mae profion a gwyliadwriaeth wedi gwella.

Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth ledled y DU ac ar draws pob system ffermio, i ddarparu darlun o’r hyn mae ceidwaid gwartheg yn ei wneud ar y fferm i reoli a gwaredu BVD.

Mae Cymru’n parhau i wneud cynnydd da gyda’r rhaglen Gwaredu BVD, a disgwylir ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth yn y dyfodol agos.

Mae’r arolwg ar gael yma: https://mailchi.mp/boehringer-ingelheim/bvd-survey-2021

Mae’r arolwg yn cau ar 31ain Ionawr a bydd 10 cyfranogwr yn cael eu dewis i ennill watsh glyfar Garmin Forerunner 45.


vii) Cyfle i gyfrannu at ymchwil ar Glefyd Affricanaidd y Moch

Mae Ms Jade Tubb, myfyriwr BSc sy’n astudio microbioleg ym Mhrifysgol Wolverhampton, wedi cynhyrchu ffeithlun i godi ymwybyddiaeth o Glefyd Affricanaidd y Moch ymhlith ffermwyr moch, ac mae hi wrthi’n gwneud ymchwil i werthuso pa mor effeithiol yw’r ffeithlun ar gyfer cyfleu’r wybodaeth hon.

Gofynnir i ffermwyr moch gwblhau holiadur byr i roi eu hadborth. Cedwir yr holl ymatebion yn gyfrinachol.

I gael gopi o'r ffeithlun, mwy gwybodaeth bellach ac i ymateb i’r holiadur, cysylltwch â Jade Tubb ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.