Er gwaethaf addewidion mynych gan yr Ysgrifennydd Gwladol a chyn Ysgrifenyddion Gwladol megis George Eustice, Michael Gove ac Alun Cairns na fyddai cyllideb amaethyddiaeth a datblygu gwledig Cymru’n cael ei chwtogi ar ôl Brexit - a’r addewid a wnaed ym Maniffesto’r Ceidwadwyr yn 2019, sef “...byddwn yn gwarantu’r gyllideb PAC flynyddol bresennol ar gyfer ffermwyr ym mhob blwyddyn o’r Senedd nesaf” - ar 25ain Tachwedd cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai £242 miliwn yn cael ei ddyrannu i Gymru am y flwyddyn ariannol 2021-22, sef £95 miliwn yn llai na’r £337 miliwn a dderbyniwyd gan yr UE drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn 2019.
Mae Llywodraeth y DU yn mynnu nad yw wedi torri ei haddewid, am fod y swm o £242 miliwn, a’r arian UE a neilltuwyd gan Lywodraeth Cymru o gyllideb PAC 2014-2020 yn dod i £337 miliwn.
Fodd bynnag, mae FUW wedi disgrifio’r dyraniad fel ‘bradychiad Brexit’ am fod gan Lywodraeth Cymru bob hawl dan reol ‘N+3’ yr UE i ddwyn arian ymlaen i’r cyfnod cyllidebol nesaf – a dan amgylchiadau arferol ni fyddai hynny’n tanseilio cyllidebau dilynol.
Yn ogystal â’r diffyg ariannol o £95 miliwn, nid yw Llywodraeth Cymru hyd yn hyn wedi’i dyrannu â’r £42 miliwn a fyddai fel arfer wedi dod yn sgil y ‘trosglwyddiad o golofn i golofn’ o 15% yn 2020.
Mae Ceidwadwyr Cymru’n honni bod Llywodraeth Cymru wedi tynnu’r gwlân “ … dros lygaid yr Undebau Ffermio [sic]”.
Mae FUW yn anghytuno. Er mwyn esbonio’r mater cymhleth hwn, rydym wedi cymharu’r toriad â chyflogwr yn penderfynu cwtogi cyflog gweithiwr yn 2021 o’r un swm ag y talodd y gweithiwr hwnnw i gyfrif cynilo dros y cyfnod 2014-2020, gan hawlio ar yr un pryd nad yw cyllid y gweithiwr wedi’i gwtogi.
Wrth ymateb i wleidyddion ceidwadol allweddol, mae FUW wedi dadlau nad yw defnyddio cyllid UE nas gwariwyd o gyllideb PAC (tua £95 miliwn), i wneud iawn am ostyngiad go iawn i gyllideb PAC y cyfnod cyllidebol dilynol, yn gyfystyr â darparu’r un lefel o gyllid.
Mae briff ar y toriadau sy’n cynnwys mwy o ffigurau i’w weld yma.