Mewn ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Amaethyddiaeth (Cymru), mae FUW o’r farn nad yw’n gwneud llawer i leihau pryderon yn ymwneud â’r effaith ar deuluoedd a chymunedau o ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig i gefnogaeth amaethyddol.
Tra bod FUW’n cytuno gyda’r amcan o ddiogelu a gwella ein cymunedau gwledig yn economaidd, yn amgylcheddol a’u gwneud yn fwy cynaliadwy; mae ganddynt bryderon difrifol a fydd y cynigion mewn gwirionedd yn cwrdd â’r amcanion hyn neu a fyddant yn cael eu tanseilio.
Er gwaetha’r newid o ran iaith gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf a’r gydnabyddiaeth o’r angen i fod yn fwy realistig a hefyd amserlen llai niweidiol na’r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol, mae’r egwyddorion sylfaenol sy’n sail i’r cynigion yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) yn parhau i fod yr un peth â’r rheini a gynigiwyd yn Lloegr, yn hytrach na gwneud y gorau o’r cyfle i greu cynllun yn seiliedig ar syniadau ac egwyddorion Cymreig.
Ym mis Hydref 2018, amlinellwyd polisi ar y cyd gan FUW a NFU Cymru ‘Y Ffordd Ymlaen i Gymru’ polisi oedd yn amlinellu pum blaenoriaeth allweddol ar gyfer creu polisi i’r dyfodol: sefydlogrwydd, ffermydd teuluol, cefnogi cymunedau gwledig a swyddi Cymru, amaethyddiaeth gynaliadwy a gwobrwyo canlyniadau amgylcheddol.
Fodd bynnag gall nwyddau cyhoeddus fod yn rhan o’r darlun, gan roi taliadau i nwyddau cyhoeddus un dimensiwn, mecanweithiau sydd heb eu defnyddio na’u profi wrth wraidd cynlluniau’r dyfodol gan roi cymunedau gwledig, economïau a theuluoedd mewn perygl.
Bydd FUW yn ymateb yn llawn i’r cynigion yn y Papur Gwyn yn dilyn ymgynghori gyda’i Ganghennau Sirol.