Mae angen i gefnogaeth ariannol i’r diwydiant defaid yn y DU fod ar gael ar amrantiad os yw’r perygl o Brexit heb gytundeb yn dod yn fwy o bosibilrwydd wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod trosglwyddo.
Er gwaethaf nifer o ymdrechion gan FUW a chynrychiolwyr eraill o’r diwydiant i bwysleisio effeithiau trychinebus y byddai Brexit heb gytundeb yn ei gael ar y diwydiant defaid yn y DU, mae cynhyrchwyr cig oen yn parhau yn y tywyllwch p’un ai fydd rhyw fath o gefnogaeth ar gael iddynt pe bai Brexit caled yn digwydd tra bod trafodaethau rhwng y DU – UE wedi’u hymestyn unwaith eto y tu hwnt i’r 13eg Rhagfyr.
Mae mwy na thrydydd y cig defaid a gynhyrchir yng Nghymru yn cael ei allforio’n flynyddol ac o’r gyfran honno, mae mwy na 90% yn cael ei allforio i’r UE. Barn Hybu Cig Cymru - yw bod newidiadau i’r diwydiant cig coch yn anorfod beth bynnag fydd canlyniad y trafodaethau Brexit. Maent hefyd yn amcangyfrif y bydd y biwrocratiaeth ychwanegol a’r gofynion allforio ar gig oen sy’n mynd i’r UE o’r 1af Ionawr yn cynyddu costau rhwng 4-8%, hyd yn oed os fydd cytundeb masnach rydd. Os na ddaw cytundeb, bydd tollau o tua 50% o werth y cynnyrch yn ychwanegol i hynny, sy’n debygol o haneri gwerth y cynnyrch sy’n cael ei allforio oherwydd mae’n annhebygol y bydd y rheini sy’n mewnforio yn fodlon talu’r toll ar bris y farchnad gyfredol.
Mae Llywodraeth y DU yn arwain ar ddatrysiad a chynllun amgen i’r Pedair Gwlad o ran y sector defaid, fodd bynnag nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud hyd yn hyn.
Os yw’r trafodaethau ar gefnogi’r sector defaid a gynhaliwyd ar gyfer dyddiadau cau blaenorol Brexit yn rhoi unrhyw awgrym, yna ceir dau ddewis, neu gyfuniad o ddau system o iawndal sy’n debygol o gael eu hystyried: taliad y pen yn seiliedig ar restr flynyddol y flwyddyn flaenorol neu bremiwm lladd ŵyn. Mae FUW wedi tynnu sylw at beth bynnag y cytunir iddo, rhaid i’r gefnogaeth wneud iawn am unrhyw golled a rhaid iddo gyrraedd pob cynhyrchwr cig oen yn y DU.