Cynllun | Crynodeb | Ffenestr yn Cau |
Ffenestr ceisiadau hyfforddiant Cyswllt Ffermio |
Mae’r ffenestr gais bresennol am gyllid ar gyfer cyrsiau hyfforddiant byr yn cau ar Ddydd Gwener 26 Chwefror 2021. Cyn gwneud cais am hyfforddiant, rhaid ichi: i) fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, ii) fynd ar wefan Busnes Cymru (BOSS) drwy Sign On Cymru ar: https://businesswales.gov.wales/boss/cy iii) lenwi Cynllun Datblygiad Personol.
Ceir mwy o wybodaeth yma Gellir storio a diweddaru cofnodion holl gyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio drwy’r Storfa Sgiliau. |
26 Chwefror 2021 |
Digwyddiadau Cyswllt Ffermio |
O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd. Ceir mwy o wybodaeth yma: |
|
Grant Cynhychu Cynaliadwy |
Mae ffenestr mynegi diddordeb y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy presennol ar agor erbyn hyn |
12 Mawrth 2021 |
|
Bydd ffenestr mynegi diddordeb y Grant Busnes i Ffermydd nesaf yn agor ar 1 Mawrth ac yn cau ar 9 Ebrill 2021. |
1 Mawrth – 9 Ebrill 2021 |
Cynllun Gwaredu Plaladdwyr Cyfrinachol a Rhad ac Am Ddim 2021 |
Bydd Dŵr Cymru unwaith eto’n rhedeg ei gynllun gwaredu plaladdwyr cyfrinachol a rhad ac am ddim yn 2021. Bwriedir agor y broses gofrestru yn ystod Ebrill 2021, ond yn y cyfamser, i gael gwybod mwy a chofrestru ar gyfer diweddariadau cliciwch yma. |
|
Trosglwyddo Hawliau PBS 2021 |
Gall ffermwyr erbyn hyn drosglwyddo eu Hawliau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) drwy eu gwerthu, eu prydlesu, neu’u hetifeddu. |
15 Mai 2021 |
Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield |
Mae ceisiadau Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2021 ar agor erbyn hyn. |
31 Gorff 2021 |