Rhoddodd ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, a bron pob diwydiant arall mae’n siŵr, ochenaid o ryddhad pan gytunwyd yn y pen draw ar Gytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a’r UE ar 24ain Rhagfyr 2020.
Yn sgil y cytundeb, cafodd y DU ei rhestru fel Trydedd Wlad gan yr UE, sef y cadarnhad hir-ddisgwyliedig oedd yn hanfodol er mwyn gallu dal ati i allforio bwyd o Gymru i’r UE.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru “na chafodd unrhyw ran ystyrlon o ran datblygu’r strategaeth negodi” a bydd y cytundeb yn golygu “llai o swyddi, cyflogau is, llai o allforio” a “mwy o fân-reolau i fusnesau.”
Serch osgoi Brexit heb gytundeb a thariffau o hyd at 50% ar rhai mathau o gynnyrch amaethyddol, mae ein mynediad at farchnad yr UE, sef cyrchfan tri chwarter allforion bwyd a diod Cymru, yn dal i wynebu rhwystrau sylweddol nad ydynt yn dariffau, a fydd yn cynyddu costau o 4 i 8 y cant yn ôl yr amcangyfrifon.
Mae hyd yn oed Llywodraeth y DU wedi darogan, mewn senario gwaethaf rhesymol, y gallai 40 i 70 y cant o’r Cerbydau Nwyddau Trwm sy’n cyrraedd y porthladdoedd ar ôl i’r cyfnod pontio ddod i ben gael eu troi ymaith, am nad ydynt â’r dogfennau cywir. A hynny i’r fath raddau fel bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu mesurau wrth gefn i ail-gyfeirio Cerbydau Nwyddau Trwm o Borthladd Caergybi os bydd angen.
Hyd yn oed gyda’r meintiau allforio presennol, sydd tua 20 y cant o’r lefelau arferol, mae proseswyr eisoes yn dechrau gwrthod llwythi o’r DU, ac yn canslo archebion pellach oherwydd yr oedi, a chymhlethdodau gwaith papur.
Roedd y mwyafrif o 60 y cant o’r rhai a fynychodd Gweminar FUW ‘Gadael yr UE: Beth sydd angen i ffermwyr ei wybod o 1af Ionawr 2021?’ a gredai y byddem yn gadael yr UE gyda chytundeb, yn gywir. Fodd bynnag mi fydd y 12 mis nesaf yn hanfodol o ran gwella gweithdrefnau newydd a chwblhau manylion.