Mae Aelodau Senedd San Steffan wedi pleidleisio unwaith eto yn erbyn gwelliannau a wnaed i Fil Masnach y DU gan Dŷ’r Arglwyddi, a fyddai wedi caniatáu archwiliadau mwy manwl i warchod safonau bwyd domestig.
Cafodd gwelliant yn gofyn am bleidlais derfynol o blaid neu yn erbyn unrhyw gytundebau masnach amaethyddol yn y dyfodol ei drechu o 353 pleidlais i 277 yn Nhŷ’r Cyffredin. Nawr bydd yn dychwelyd i Dŷ’r Arglwyddi yn Chwefror er mwyn i’r broses seneddol a elwir yn ‘ping pong’ barhau.
Pleidleisiodd yr Aelodau Seneddol hefyd yn erbyn gwelliant a fyddai wedi ychwanegu iechyd cyhoeddus at restr gyfrifoldebau’r Comisiwn Masnach ac Amaeth.
Mae’r ymdrechion hyn gan Dŷ’r Arglwyddi i warchod safonau bwyd domestig yn dilyn y gwelliannau i Fil Amaeth y DU a gafodd eu trechu, a fyddai wedi amddiffyn defnyddwyr a chynhyrchwyr y DU rhag allforion bwyd a gynhyrchwyd i safonau amgylcheddol, iechyd a lles anifeiliaid, a chymdeithasol is.
Serch rhoi’r hawl cyfreithiol i’r Comisiwn Masnach ac Amaeth i archwilio cytundebau masnach ar ôl Brexit dros y tair blynedd nesaf, dim ond y pŵer i gynghori’r Llywodraeth sydd gan y Comisiwn, heb unrhyw gydnabyddiaeth ffurfiol bod y cyngor wedi cael ei ystyried.
Addawodd Maniffesto’r Llywodraeth Dorïaidd “in all of our trade negotiations, we will not compromise on our high environmental protection, animal welfare and food standards”, ac eto mae’r un Llywodraeth, dro ar ôl tro, wedi trechu gwelliannau a fyddai wedi sicrhau’r union beth hwnnw.
Fel mae pethau ar hyn o bryd, gall Gweinidogion arwyddo unrhyw gytundebau masnach nad ydynt yn cwrdd â safonau bwyd y DU.