Mae datganiad a wnaed gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffith, ar 16 Tachwedd ynghylch canlyniad ymgynghoriad diweddar ar symleiddio cymorth amaethyddol yng Nghymru, wedi cael croeso gofalus gan y diwydiant ffermio.
Roedd yr ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir: Symleiddio Cymorth Amaethyddol, a ddaeth i ben ar 23 Hydref 2020, yn cynnig un ar ddeg o newidiadau i’r Cynllun Taliadau Sylfaenol (BPS) a nifer o newidiadau mawr i egwyddorion creiddiol y Rhaglen Datblygu Gwledig.
Croesewir y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nifer o’r pryderon a godwyd gan y diwydiant, gan gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), yn nhermau’r effeithiau ar ffermwyr trawsffiniol a ffermwyr ifanc ymhlith pethau eraill.
Yn hytrach nag ystyried tir yng Nghymru’n unig ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), gan atal ffermwyr trawsffiniol gyda llai na 5 hectar cymwys yng Nghymru rhag hawlio’r taliad i bob pwrpas, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i lacio’r rheolau ar gyfer ffermwyr trawsffiniol, fel eu bod yn gallu dibynnu ar dir oedd ar gael ganddynt o fewn gweinyddiaethau eraill yn 2020.
Hefyd, bydd y Cynllun Ffermwr Ifanc, y bwriadwyd ei ddileu yn 2021, yn aros ar agor i ymgeiswyr newydd.
O ran cynigion y Cynllun Datblygu Gwledig, bydd y strwythur a ddarperir gan Gyfraith yr UE a ddargedwir yn cael ei ymestyn o hyn ymlaen i gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn hytrach na chael ei ddisodli, fel y cynigiwyd yn wreiddiol yn yr ymgynghoriad.
Mae FUW yn gwrthwynebu’r cynlluniau i ddiwygio’r holl egwyddorion Datblygu Gwledig, gan nodi yn ei ymateb bod yr amcanion arfaethedig yn canolbwyntio gymaint ar ganlyniadau amgylcheddol fel nad ydynt yn mynd i’r afael ag anghenion economaidd ffermio a chymunedau gwledig, i’r fath raddau fel eu bod mewn perygl o niweidio eu cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.
Er bod yna gwestiynau heb eu hateb o hyd, a nifer fawr o bryderon mewn perthynas â datblygu cynlluniau yn y dyfodol, dylid ystyried y cyhoeddiad gan y Gweinidog fel cam positif tuag at fframwaith sy’n rhoi ystyriaeth i flaenoriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar gyfer cymunedau cefn gwlad.