Mae Birch Farm Plastics wedi cyhoeddi cynlluniau i ddechrau gwasanaeth casglu plastig o ffermydd o Wanwyn 2021.
Gyda phrosiect newydd sy’n cael ei arwain gan gynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr, y gobaith yw y bydd y gwasanaeth casglu newydd yn golygu bod llawer mwy o ddeunydd plastig amaethyddol yn mynd i’w ailgylchu yn hytrach nag i safleoedd tirlenwi, a fydd o gymorth i bob ffermwr sy’n debygol o fod yn talu cyfraniad eco am ddeunydd lapio silwair yn barod.
Mae’r cyfraniad yn mynd i gynllun casglu cenedlaethol y DU, sef Agriculture Plastics Environment (APE) fel cymhorthdal ar gyfer costau ailgylchu gwastraff plastig, gyda’r nod o gadw’r costau mor isel â phosib.
Er mwyn ymyrryd, a mynd i’r afael â’r meintiau mawr o ddeunydd plastig ar ffermydd, nod Birch Farm Plastics yw rhoi blaenoriaeth i, a chynyddu nifer y mannau casglu lle gellir casglu oddi wrth grŵp o ffermydd gyda’i gilydd.
Darperir mwy o fanylion a chostau maes o law, ond gall ffermwyr fynegi diddordeb yn y cynllun casglu plastig a fydd yn dechrau yn y Gwanwyn drwy gysylltu â Birch Farm Plastics ar